Rhewch derfyn ar y Llwybr Coch – Diweddariad Newyddion Ionawr 2021

Rhewch derfyn ar y Llwybr Coch – Diweddariad Newyddion Ionawr 2021

Dyma ein diweddariad ar gyfer ein hymgyrch i helpu i achub Coed a Dolydd Leadbrook, Sir y Fflint. Mae'r prosiect priffyrdd 'Llwybr Coch' arfaethedig yn ffordd ddeuol 13km a fyddai'n niweidio neu'n dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn bygwth rhywogaethau, gan gynnwys ystlumod, tylluanod, moch daear a madfallod dŵr cribog.

Diolch i chi am eich cefnogaeth hyd yma!

Mae mwy na 1,800 o bobl eisoes wedi cefnogi ein hymgyrch. Derbyniwyd eich holl negeseuon o gefnogaeth gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, y Prif Weinidog, Mark Drakeford a'ch aelodau lleol a rhanbarthol o Senedd Cymru ledled Cymru. Mae hwn yn gyflawniad gwych, sydd wir wedi rhoi'r ymgyrch ar y map. Rydym yn gwybod drwy sianelau amrywiol bod yr e-weithredu a'r Llythyr Agored cysylltiedig eisoes wedi cael yr effaith a ddymunir; mae gwleidyddion o bob plaid wleidyddol ledled Cymru yn ymwybodol o'r mater ac wedi gorfod datgan ac egluro eu safbwynt am y cynllun ffordd, sy'n ein helpu ni i gynllunio ein camau gweithredu yn y dyfodol.

Plîs daliwch ati i rannu a hyrwyddo'r ymgyrch gan ei bod yn fyw o hyd yn sicr ac yn dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Byddai'n wych pe gallem gyrraedd 2,000 o gefnogwyr! 

Cefnogi a rhannu ein hymgyrch

Dyfrgwn yng nghoetir hynafol Leadbrook! 

Yn ddiweddar, gwnaeth Max Hodgkinson, y byddai fferm a choetir ei daid yn cael eu dinistrio gan y briffordd, ffilm o ddyfrgi yn Lead Brook sy'n rhedeg drwy'r coetir sydd dan fygythiad. Mae'n hysbys bod yr anifail arbennig a hardd yma'n agored iawn i farwolaeth ar ffyrdd a bydd ei gynefin yn cael ei niweidio'n ddifrifol os caiff y ffordd ei hadeiladu. Mae hyn yn cyfleu'r risgiau gwirioneddol i fywyd gwyllt yn sgil y cynllun ffordd niweidiol hwn.

Iolo Williams yn cefnogi ein hymgyrch

Rhoddodd y darlledwr bywyd gwyllt enwog Iolo Williams hwb enfawr i'n hymgyrch yn ddiweddar drwy ei chefnogi'n gyhoeddus ac annog pawb i gymryd rhan. Rydym yn hynod ddiolchgar i Iolo am fynd i drafferth i wneud hyn ac mae'r ffaith ei fod wedi bod yn fodlon sefyll yn erbyn y cam hwn yn dyst i'r effaith ddinistriol y byddai'r briffordd yn ei chael ar fywyd gwyllt.  

Galw am Gomisiwn Trafnidiaeth ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru gan Lywodraeth Cymru

Arweiniodd y fuddugoliaeth uchel ei phroffil yn erbyn y draffordd ar draws SoDdGA Gwastadeddau Gwent a'r dirwedd hanesyddol yno at sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru, dan arweiniad yr economegydd amlwg, yr Arglwydd Burns. Ymchwiliodd y comisiwn, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i opsiynau eraill nad oeddent yn ymwneud ag adeiladu ffyrdd yn lle Ffordd Liniaru'r M4 ac yn ddiweddar cyhoeddodd ei adroddiad terfynol.

Mae'n nodi nifer o ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch dinas Casnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru. Daeth yr arbenigwyr i'r casgliad mai dim ond gostyngiad o 20% oedd ei angen mewn traffig ar y ffyrdd i ddatrys problem y tagfeydd yn gyfangwbl. Mae portffolio o orsafoedd trenau a bysiau newydd, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus, atebion teithio llesol a thechnoleg 'glyfar' arloesol, wedi'i ddatblygu a'i gostio.  

Byddwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn tebyg i ymchwilio i atebion nad ydynt yn ymwneud â ffyrdd i fynd i'r afael â thagfeydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru.