Cymryd rhan!
Os hoffech chi wneud rhywbeth i helpu i warchod eich bywyd gwyllt lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Os ydych chi’n hoffi gweithio dan do neu yn yr awyr agored, mae llawer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli ar gael gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Y cam cyntaf i wirfoddoli yw cofrestru drwy lenwi ein ffurflen ar-lein – wedyn byddwn yn cysylltu â chi am sgwrs am y math o wirfoddoli y byddech yn hoffi ei wneud.
Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt lleol, cewch gyfarfod pobl newydd; cadw’n heini; dysgu sgiliau newydd; rhannu eich profiadau; gwella eich gwybodaeth am gadwraeth bywyd gwyllt ac wrth gwrs, mwynhau eich hun! Os oes gennych chi ddiwrnod llawn i’w sbario neu ddim ond ychydig oriau, bydd yr amser rydych chi’n ei roi’n gwneud byd o wahaniaeth. Beth am ddechrau arni nawr?!
Gwirfoddoli cadwraeth
Os ydych chi’n hoffi gweithio yn yr awyr agored, neu eisiau rhoi cynnig arni, beth am ddod draw i un o’n gweithgorau cadwraeth? Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn ein gwarchodfeydd natur ni bob wythnos drwy gydol y flwyddyn.
Lawrlwythiadau gwirfoddoli

Katrina Martin / 2020VISION
Gwirfoddoli cadwraeth
Gweithredu’n ymarferol dros fywyd gwyllt

Deifio i mewn i helpu bywyd gwyllt y môr!
Os ydych chi’n hoffi bod ar lan y môr beth am wirfoddoli gyda Moroedd Byw Cymru!

Gwirfoddoli gyda gwaith gweinyddol a swyddfa
... yn ein Swyddfa ni ym Mangor
Ffyrdd eraill o wirfoddoli
Gwirfoddoli mewn siop
Rydyn ni’n rheoli dwy siop sy’n codi arian hanfodol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Natur bob blwyddyn. Mae un ar y Gogarth yn Llandudno a’r llall ym Mharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi. Maent ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng y Pasg a diwedd mis Hydref. Os hoffech chi wneud gwahaniaeth a chyfarfod pobl newydd, beth am ymuno ag un o’n timau ni o wirfoddolwyr siop cyfeillgar a brwd?
Gwirfoddoli drwy arddio er lles bywyd gwyllt
Mae Anna ac Iwan, ein Swyddogion Addysg a Chymunedol, yn gweithio gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol ar brosiectau garddio er lles bywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru. Gall hyn gynnwys gweithio gyda disgyblion i wneud tiroedd ysgolion yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt neu adeiladu bwa o helyg mewn ardal chwarae leol ... neu lawer o bethau eraill! Mae’r cyfleoedd gwirfoddoli hyn yn fwy ad hoc ond os hoffech chi gymryd rhan, cofrestrwch fel gwirfoddolwr a byddwn yn cysylltu pan fydd cyfle’n codi yn eich ardal leol.
Gwirfoddoli gyda’ch grŵp lleol
Ble bynnag rydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, bydd Cangen o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ardal chi. Mae’r rhain yn cael eu gweithredu gan wirfoddolwyr sy’n helpu i godi proffil yr Ymddiriedolaeth Natur yn eu cymunedau lleol. Maent yn trefnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar thema bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys teithiau tywys, dyddiau i’r teulu a sgyrsiau gan arbenigwyr lleol. Beth am fynd draw i un o’r cyfarfodydd a chymryd mwy o ran? Byddwch yn cysylltu â phobl leol sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn bywyd gwyllt. Os ydych chi’n paentio wynebau neu’n pobi cacennau, efallai y byddwch chi’r union berson mae eich Cangen leol yn chwilio amdano!
Cael blas ar yrfa mewn cadwraeth
Lleoliadau myfyrwyr a phrofiad gwaith
Os ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg ac yn meddwl am yrfa mewn cadwraeth, efallai y bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n gallu cynnig cyfle i chi gwblhau eich profiad gwaith neu leoliad myfyriwr. Gallai hwn fod y cam cyntaf gennych chi at yrfa yn y sector amgylcheddol cystadleuol. Gall y lleoliadau fod rhwng 1 wythnos a 3 mis. Gellir ystyried lleoliadau hirach ar sail unigol.