Amdanom ni

Tompot Blenny

Paul Naylor

Pwy da ni

Amdanom ni

Pwy ydyn ni

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n un o’r 46 o Ymddiriedolaethau Natur sy’n gweithio ledled y DU. Gyda chefnogaeth amhrisiadwy ein gwirfoddolwyr a’n haelodau, rydyn ni’n rheoli 35 o warchodfeydd natur yng ngogledd Cymru. Hefyd rydyn ni’n gweithio â sefydliadau eraill a pherchnogion tir i warchod a chysylltu safleoedd bywyd gwyllt ledled y sir ac i ysbrydoli cymunedau lleol a phobl ifanc i ofalu am  fywyd gwyllt ble maent yn byw.

Ein cenhadaeth Ein Adroddiad Effaith Ein Adroddiad Blynyddol

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn chwarae rhan bwysig iawn mewn gwarchod ein treftadaeth naturiol. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n poeni am fywyd gwyllt i ymuno â nhw.
Syr David Attenborough
Naturiaethwr a darlledwr

Ein hanes ni

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru ar Hydref 26ain 1963. Fwy na 60 mlynedd yn ddiweddarach, efallai bod ein henw ni wedi newid, ond mae’r cymhelliant wnaeth ysbrydoli ein sylfaenwyr ni’n parhau yr un fath. Dros y blynyddoedd, mae nifer y gwarchodfeydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth wedi cynyddu’n gyson, gan orchuddio mwy na 750 o hectarau erbyn hyn, diolch i roddion ar ffurf tir a phrynu safleoedd drwy godi arian. Rydyn ni’n cyflogi mwy na 50 o aelodau o staff yn awr ac yn rheoli cyllideb sy’n fwy nag £3M – cryn dipyn o newid ers y dyddiau cynnar.

Cyfarfod ein pobl ni

Dim ond drwy gydweithredu rhwng ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff mae ein gwaith cadwraeth bywyd gwyllt yn bosib. Rydyn ni’n cael ein cymell gan ein cred ar y cyd bod Gogledd Cymru sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt sy’n cael ei werthfawrogi gan bawb yn llesol i fywyd gwyllt ac i bobl. 

Mwy o wybodaeth

Sut rydyn ni'n cael ein cyllido

Elusen yw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac, o’r herwydd, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth tanysgrifiadau aelodaeth, rhoddion, grantiau, ewyllysiau a ffynonellau cyllido eraill er mwyn gwneud ein gwaith yn gofalu am fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru..

Ein cefnogi ni

Sut rydyn ni’n codi arian

Income 2023

Sut rydyn ni’n gwario arian

Expenditure 2023

Troi eich bocs negeseuon yn wyllt!

Cyfle i gael y newyddion diweddaraf am fyd natur, digwyddiadau bywyd gwyllt a chynigion arbennig gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Derbyn diweddariadau e-bost

Grey seal

Grey seal © David Martin

Cefnogwch ni

Ymunwch â’n 9,000 o aelodau i gysylltu eich hunan gyda digwyddiadau, ymweld â 35 o warchodfeydd natur bendigedig a chyfrannu at amddiffyn bywyd gwyllt bregus yng Ngogledd Cymru.

Ymaelodwch heddiw