YNGC Strategaeth 2030 Dod â Natur yn Ôl

2030 strategy

Gweithredu Lleol. Effaith ar y Cyd. Newid Byd-eang.

Mae angen i ni adfer byd natur ar raddfa fyd-eang, ar y tir ac yn y môr. Ac mae angen i hyn ddigwydd nawr. Mae ein Strategaeth 2030 yn darparu’r fframwaith lefel uchel ar gyfer sut rydyn ni'n bwriadu mynd ati.

Lawrlwythwch eich copi o Strategaeth 2030:

Yn Saesneg  Yn Gymraeg

A close up of a large group of sandwich terns, seabirds with white bodies and black cap and beaks. The birds are all in mid flight, from left to right of screen, against a pale blue clear sky.

Cemlyn Sandwich Terns / Môr-wenoliaid pigddu Cemlyn © Henry Cook

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth ni yw byd naturiol ffyniannus, gyda bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, a phobl wedi’u hysbrydoli a’u grymuso i weithredu dros fyd natur.

Ein pwrpas

Ein pwrpas ni yw dod â bywyd gwyllt yn ôl, grymuso pobl i weithredu dros fyd natur, a chreu cymdeithas lle mae byd natur o bwys.

Tri Nod Strategol

Mae ein tri nod strategol yn nodi’r hyn rydyn ni'n credu sydd angen digwydd erbyn 2030 er mwyn gwireddu ein gweledigaeth hirdymor o fyd naturiol ffyniannus. Er eu bod wedi'u nodi ar wahân, mae'r nodau hyn yn rhyngddibynnol ac yn hynod gysylltiedig, a bydd angen cyflawni'r tri er mwyn sicrhau adferiad byd natur.

Pum Trawsnewid Strategol

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi nodi pum Trawsnewid yn ein galluoedd sy’n hanfodol i gyflawni ein Nodau Strategol. Gyda’i gilydd, byddant nid yn unig yn ein helpu i gyflawni ein nodau ar gyfer 2030 ond hefyd yn arwain at sefydliad cadarnach a mwy effeithiol ar gyfer y tymor hwy.

1) Ysbrydoli cymunedau i drefnu a symud, yn enwedig ymhlith pobl ifanc

Rydyn ni’n gwybod, os yw byd natur i gael ei adfer ar raddfa fawr, mae angen llawer mwy o bobl arnom ni ar ochr natur – a gall Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sydd wedi’i gwreiddio mewn cymunedau lleol, fod yn hwylusydd effeithiol ac ysbrydoledig ar gyfer newid.

Mae gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru rwydwaith ymroddedig o wirfoddolwyr brwd sy’n hanfodol i’n gwaith ni. Byddwn yn parhau i gofleidio’r gweithgarwch maent yn ei wneud a hefyd yn ehangu ein cwmpas i’r llu o bobl yn ein cymunedau sy’n ceisio symud mewn ffordd wahanol ar gyfer byd gwell i fyd natur.

Rydym yn ymrwymo i ailddychmygu gwirfoddoli a gweithredu cymunedol; i ddod yn fwy agored a chynhwysol; ac i gael ein harwain gan ein cefnogwyr. Bydd angen i ni ehangu ein sgiliau y tu hwnt i fod yn rheolwyr gwirfoddolwyr a gweithio mwy fel hwyluswyr cymunedol: gan alluogi, ysbrydoli a bod yn gatalydd i grŵp newydd o drefnwyr cymunedol ac ymgyrchwyr.

2) Mynd drwy drawsnewid digidol ‘gwraidd a changen’

Mae datblygiad cyflym technolegau digidol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cyflwyno cyfleoedd digynsail i gynyddu effaith ein gwaith; mabwysiadu dulliau arloesol o weithredu gyda heriau newydd a phresennol; ac ehangu a gwella ein hymgysylltu. Mae’r datblygiadau hyn wedi chwyldroi union natur ‘cymuned’, ac mae’r ffordd mae pobl yn cysylltu, yn trefnu ac yn symud i sicrhau newid yn esblygu’n barhaus.

Er mwyn cyflawni ein strategaeth a meithrin ein gwytnwch i dirwedd ddigidol allanol sy’n newid, bydd angen i ni drawsnewid ein systemau a’n seilwaith digidol presennol, a chynyddu gallu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i storio a thrin data. Bydd hyn yn gofyn am hyfforddiant i ddatblygu sgiliau a galluoedd digidol ein staff a’n gwirfoddolwyr; yn ogystal â mynd i’r afael â’r risgiau sy’n dod i’r amlwg mewn meysydd fel moeseg data, mynediad, diogelu a hawliau, a diogelwch gwybodaeth.

3) Cyflawni newid sylweddol yn y cyllid ar gyfer adferiad byd natur

Mae cymhlethdod a chwmpas cyflawni ein gweledigaeth yn fwy nawr nag y bu erioed, oherwydd graddfa a brys yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, a’i berthnasedd i fywydau a bywoliaeth pobl. Felly, er mwyn cyflawni ein strategaeth bydd angen newid sylweddol yng ngraddfa ac amrywiaeth y cyllid sydd ar gael ar gyfer adferiad byd natur.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bodoli diolch i’r sylfaen ariannu gadarn sy’n cael ei darparu gan ein haelodau ffyddlon, sydd bellach yn fwy na 9,000. Mae hyn wedi’i adeiladu’n raddol drwy ein gweithgareddau codi arian a marchnata lleol, dull o weithredu a fydd bob amser yn allweddol i’n cryfder a’n nodweddion unigryw. 

Fodd bynnag, rhaid rhoi blaenoriaeth hefyd i ehangu ffynonellau posibl eraill o incwm digyfyngiad. Bydd angen i ni edrych ar bartneriaethau a modelau busnes newydd, ffyrdd newydd o weithio a ffynonellau eraill o gyfalaf a chyllid – a’r cyfan gan ddiogelu ein hannibyniaeth a’n hintegriti.

4) Creu partneriaethau newydd i sbarduno adferiad byd natur

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn rheoli cyfran fechan o’r tir sydd ei angen i gefnogi adferiad byd natur yn uniongyrchol. Mae ein hardal yn cwmpasu 615,100h Ha – ond dim ond 790 Ha (0.13%) rydym yn ei reoli. Yn y cyfamser, mae tua 82% o dir Cymru yn cael ei ddosbarthu fel tir amaethyddol, sy’n golygu mai dim ond drwy newid sylweddol yn ein dylanwad ar sut mae tir amaethyddol yn cael ei reoli y gellir adfer byd natur.

Er mwyn cyflawni ein strategaeth, bydd angen i ni ymgysylltu ag ystod ehangach a mwy amrywiol o bartneriaid ac actorion yn ein cymunedau ac ar draws ffiniau gweinyddol, gan gofleidio dulliau cydweithredol aml-randdeiliad o weithredu i fynd i’r afael ag achosion cyffredin a chreu mwy o effaith. Bydd hyn yn golygu agor ein hunain i fwy o gysylltiadau a phartneriaethau trawsnewid sy’n blaenoriaethu gweithredu ar y cyd a datrys problemau ar y cyd, gan gynnwys y rhai y tu allan i’r sector cadwraeth traddodiadol, prif ffrwd.

5) Cynyddu ein gallu i wrthsefyll gweithgarwch anghynaliadwy yn yr amgylchedd morol

Mae angen cynyddol am feithrin gwytnwch yr ecosystem forol yng Nghymru drwy adfer cynefinoedd, dal a storio cymaint â phosib o garbon a chwblhau rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n gydlynol yn ecolegol ac wedi’i reoli’n dda.

Mae’r galw ar ein moroedd am adnoddau ac ynni yn cynyddu, ac mae Gogledd Cymru wedi’i nodi fel ardal allweddol ar gyfer llawer o brosiectau ynni adnewyddadwy yn y môr. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r dyfeisiau presennol ac arfaethedig wedi’u lleoli mewn mannau problemus o ran bioamrywiaeth – gan gynnwys y dyfroedd llawn maethynnau sy’n denu llawer o’r prif ysglyfaethwyr y mae Cymru’n falch o’u cartrefu. 

Er mwyn cyflawni ein strategaeth mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein moroedd yn cael eu rheoli i adfer ar ôl difrod, tarfu ac esgeulustod yn y gorffennol a sicrhau bod effaith y datblygiadau yn y môr yn y dyfodol yn cael ei lleihau. I wneud hynny, mae’n rhaid i ni flaenoriaethu ymgysylltu â datblygwyr, llunwyr polisïau a chymunedau a dylanwadu arnynt o gamau cynnar datblygiad eu prosiectau. 

Ein gwerthoedd a’n credoau

Mae gwaith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi’i seilio ar y gwerthoedd a’r credoau sylfaenol a ganlyn.

2030 Strategy_values

Hoffter o natur 
Mae ein hoffter a’n parch ni at werth cynhenid byd natur yn rhan greiddiol o’n tîm medrus, llawn cymhelliant ac ymroddedig. Byddwn bob amser yn sicrhau bod ein gwaith a’n partneriaethau’n cael eu llywio gan yr hyn sy’n iawn i fyd natur..

Arloesi dan arweiniad Tystiolaeth
Rydyn ni’n gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth a thrwy ganolbwyntio ar ddatrysiadau, gan weithio gyda phartneriaid a chymunedau i chwilio am ddatrysiadau arloesol i sicrhau’r cyfraniad a’r effaith orau bosib ar gyfer natur.

Brwdfrydedd
Mae angerdd llawn ffocws yn ein llywio ni i fod mewn sefyllfa unigryw i sicrhau’r effaith fwyaf ar gyfer bywyd gwyllt, gan ein galluogi i weithio’n frwdfrydig gyda phwrpas a ffocws.

Integriti
Rydyn ni wedi ymrwymo i dryloywder a chynhwysiant yn ein gweithredoedd a’n prosiectau, gan gydgynllunio gyda phartneriaid i sicrhau’r effaith fwyaf ar gyfer byd natur. Byddwn bob amser yn cynnal ein gwerthoedd a’n credoau ac yn siarad gwirionedd wrth rym.

Parch
Rydyn ni’n gweithio gyda pharch at fyd natur, parch at bobl, a pharch at amrywiaeth. Rydyn ni’n gweithio ar y cyd ac yn hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn ein cymunedau, gan fod yn sensitif i’r lleol a hefyd sicrhau ein bod yn cael effaith y tu hwnt i’n ffiniau.

Adeiladu ein heffaith a’n dylanwad ar y cyd

Drwy gydweithio fel yr Ymddiriedolaethau Natur a ffrwyno ein heffaith ar y cyd, gallwn ddychmygu, ymgyrchu ac eiriol dros newid gwirioneddol. Byddwn yn cyflawni mwy o effaith ar y cyd ac yn cael mwy o ddylanwad drwy adeiladu ar ein llwyddiannau, adrodd straeon llawn cymhelliant, a grymuso cymunedau lleol i fod yn gyfryngau newid.

Darllen ymlaen

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn aelod corfforaethol o Gymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur (RSWT): elusen gofrestredig ar ei liwt ei hun, a sefydlwyd yn 1912, ac un o aelodau sefydlu IUCN – yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Mae 46 o Ymddiriedolaethau Natur unigol ledled y DU a Dibyniaethau’r Goron, pob un yn elusen annibynnol seiliedig ar le gyda’i hunaniaeth gyfreithiol ei hun, a ffurfiwyd wrth i grwpiau o bobl ddod at ei gilydd a gweithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol, gan ddechrau lle maent yn byw ac yn gweithio.

Gyda’i gilydd, yr enw ar y ffederasiwn yma o 47 o elusennau yw Yr Ymddiriedolaethau Natur.

2030 strategy_Impact diagram
Mae angen i ni adfer byd natur ar raddfa fyd-eang, ar y tir ac yn y môr. Ac mae angen i hynny ddigwydd nawr.