Ein cenhadaeth ni

Ein cenhadaeth ni

Rydyn ni’n gofalu am fywyd gwyllt. Rydyn ni’n gweithio dros adfer byd natur. Rydyn ni’n dod â phobl yn nes at natur.

Mae bywyd gwyllt dan fygythiad

Mae’r ffordd rydyn ni wedi bod yn byw am y 50 mlynedd diwethaf wedi achosi dirywiad enfawr mewn bywyd gwyllt ar dir ac yn y môr.

Mae 1 o bob 10 o’n planhigion gwyllt yn wynebu risg o ddiflannu a’r dyddiau hyn, dydych chi ddim yn gweld hanner cymaint o ddraenogod yng nghefn gwlad ag oeddech chi yn 2000. Mae llawer i’w ddarganfod am fywyd gwyllt moroedd Prydain, ond yr hyn rydyn ni’n ei wybod yw bod planhigion ac anifeiliaid y môr yn dioddef dirywiad enfawr, felly rhaid i ni weithredu’n gyflym a phendant er mwyn gwarchod beth sydd ar ôl.

Sefyllfa Byd Natur 2016 Cymru

Creu Tirwedd Fyw

Mae ein 35 o warchodfeydd natur sy’n cael eu rheoli’n ofalus yn darparu rhai o gartrefi pwysicaf Gogledd Cymru i fywyd gwyllt ac yn gorchuddio tua 750 o hectarau. Fodd bynnag, nid yw gwarchodfeydd ar eu pen eu hunain yn ddigon os yw natur am ffynnu wrth symud ymlaen. 

Rhaid i warchodfeydd natur gael eu cysylltu gan goridorau byw fel bod poblogaethau o fywyd gwyllt yn gallu goroesi a ffynnu – yr enw ar hyn gennym ni yw 'Tirwedd Fyw'.

Strategaeth Tirwedd Fyw

Dyfodol gwyllt

Yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, byddwn yn parhau i gyflwyno gwerth bywyd gwyllt i gymunedau lleol, gan ddangos sut mae tirwedd sy’n cysylltu’n naturiol yn llesol i fywyd gwyllt a chymdeithas.

Bydd gwarchodfeydd natur hygyrch sy’n cael eu rheoli’n dda, a gefnogir gan bobl leol o bob oedran, yn ffocws ar gyfer ysbrydoli digwyddiadau a mwynhad. Byddwn yn tynnu sylw at fywyd gwyllt trawiadol y môr, sut mae dan fygythiad a beth allwn ni i gyd ei wneud i’w helpu i ffynnu. Drwy gyfrwng Ymddiriedolaethau Natur Cymru byddwn yn parhau i geisio dyfodol gwell i fywyd gwyllt yn y dirwedd sy’n cael ei hamaethu.

Cefnogi ein cenhadaeth

Hibernating dormouse

Hibernating dormouse © Danny Green

Dod yn aelod

Porth Diana Nature Reserve. A rocky outcrop on the reserve, with layered striations, and small plants and grasses growing out of the larger cracks in the rock.

Porth Diana Nature Reserve_Lin Cummins

Cyfrannu rhodd

Our Wild Coast_Andy with group_BBC Countryfile Feb 2018_Dilys Thompson

Our Wild Coast_Andy with group_BBC Countryfile Feb 2018_Dilys Thompson

Gwirfoddoli gyda ni