Byddai rhodd yn eich ewyllys, boed fach neu fawr, yn gadael ôl eich troed ar ein tirwedd ni am byth
Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod. Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.
Boed fach neu fawr, bydd eich rhodd yn gwneud byd o wahaniaeth i fywyd gwyllt ein rhanbarth ni.
Cysylltu â ni - yn gyfrinachol
Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys - am ddim Ein haddewidion ynghylch gwaddol

Dark green fritillary_Les Binns
Stori Bill a Margaret
Roedd Bill a Margaret Walton yn hoff iawn o fotaneg, adar a glöynnod byw. Mae eu hewyllys fyw o fwy nag £80,000 yn parhau i helpu i warchod y bywyd gwyllt oedd mor agos at eu calon, yn enwedig yng Ngwarchodfa Natur Cors Goch.

Lesser Celandine_Ross Hoddinott2020Vision
Stori Robin
Roedd Robin Fisher yn aelod ers amser maith ac yn ffotograffydd bywyd gwyllt medrus. Aeth ati nid yn unig i gynyddu cronfa’r Ymddiriedolaeth o luniau defnyddiol ond hefyd gadawodd Ewyllys Fyw o £10,000 i warchod y llefydd gwyllt oedd mor agos at ei galon.