Ymledwyr Ecosystem yn creu sblash yn yr Eisteddfod

Ymledwyr Ecosystem yn creu sblash yn yr Eisteddfod

© Tomos Jones - NWWT

Fel rhan o’n gwaith i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol, ymunodd Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) â Sefyll Dros Natur Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo ein hymgyrch Ymledwyr Ecosystem a chodi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a’u heffeithiau yng Nghymru. Mwy o wybodaeth am beth wnaethon ni ei wneud a sut gallwch chi gymryd rhan!

Mae'n debyg mai'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru yw'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop. Dyma’r rheswm pam y penderfynodd Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) a Sefyll Dros Natur Cymru, ein prosiect ieuenctid ar newid yn yr hinsawdd, fynychu a dod at ei gilydd. Roedd gennym thema gyffredin, sef yr argyfwng natur, gyda WaREN yn canolbwyntio ar rywogaethau ymledol (estron) fel un o’r ‘pum prif achos’ o golli bioamrywiaeth.

Hyrwyddodd WaREN ei ymgyrch Ymledwyr Ecosystem gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a’u heffeithiau yng Nghymru. Yn ystod yr ymgyrch rydym wedi hyrwyddo ‘Mynd at Wraidd y Mater’ a ‘Edrych, Golchi, Sychu’ ond hefyd wedi datblygu ein deunyddiau ymgyrchu ein hunain, gan gynnwys taflenni, clipiau egluro, cwisiau wythnosol a ‘top trumps’ dwyieithog.

Ecosystem Invaders campaign stand (outside) at the Eisteddfod

© Tomos Jones - NWWT

Lleolwyd ein stondin yn yr Eisteddfod yn y Pentref Gwyddoniaeth. Yma bu’n rhaid cystadlu am sylw gyda gwyddonydd ecsentrig (yn ôl ei gyfaddefiad ei hun) a’i falŵns yn ffrwydro, ond fe wnaethon ni siarad â bron i 1,500 o bobl yr un fath! Roedd hwn yn gyswllt uniongyrchol, ac roedd bron pawb yn deuluoedd yn cwblhau ein gweithgareddau a’n gemau rhywogaethau ymledol. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgarwch eDNA – gyda pheiriant PCR gwych wedi’i greu o focsys cardfwrdd wedi’u hailgylchu – a ‘helfa’ rhywogaethau ymledol. Roedd gennym hefyd gartwnau o rywogaethau ymledol i'w lliwio. Tra oedd y plant yn brysur (ac yn dysgu) fe wnaethon ni fanteisio ar y cyfle i ofyn i’r oedolion a oeddent wedi clywed am rywogaethau ymledol a bioddiogelwch…

Yr Eisteddfod oedd ein hymgyrch olaf i ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer Ymledwyr Ecosystem eleni ond bydd yr ymgyrchu ar-lein yn parhau, tan ddiwedd mis Medi o leiaf. Byddem wrth ein bodd yn cyrraedd ein targed o 1,000 o bobl wedi cofrestru ar ein gwefan i dderbyn ‘awgrymiadau a chyngor’ defnyddiol ar fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol yng Nghymru! Edrychwch ar ein pecyn i bartneriaid yma, sy'n cynnwys deunyddiau ymgyrchu a chasgliad o gwisiau rhywogaethau ymledol!

Darganfod mwy am fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yng Nghymru!   

Welsh Government Logo