Creu eich dôl blodau gwyllt eich hun

meadow

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Creu eich dôl blodau gwyllt eich hun

Pam plannu dôl blodau gwyllt?

Mae dolydd blodau gwyllt naturiol yn un o’r cynefinoedd prinnaf yn y DU ac rydym wedi colli 97% o’n dolydd blodau gwyllt ers y 1930au. Maent yn gynefin hynod amrywiol sy’n cynnal cannoedd o rywogaethau o infertebrata, sef pryfed peillio fel gwenyn. Mae datblygu tir a ffermio wedi cyfrannu at y dirywiad hwn ond gall ein gerddi a’n mannau gwyrdd ni ein hunain gynnig hafan fach i fywyd gwyllt.

Mae dôl blodau gwyllt yn helpu amrywiaeth bywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy ddal carbon. Hyd yn oed pan gaiff ei thorri ar gyfer gwair unwaith y flwyddyn, gall hectar o ddôl blodau gwyllt ddal a storio 3 tunnell o garbon, neu 11 tunnell o CO2 bob blwyddyn!

Mae dolydd blodau gwyllt hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o infertebrata, gan gynnwys glöynnod byw, fel y trilliw bach, y gwyfyn bwrned sy'n hedfan yn ystod y dydd a'r gweirlöyn cleisiog i enwi dim ond rhai. Efallai y gwelwch chi hefyd gacwn, gweision y neidr, mursennod, ac adar canu fel y siff-saff neu’r dryw yn ogystal ag ymlusgiaid fel neidr y gwair.

Meadow

© Anna Williams

How to make your own wildflower meadow - instructions

Dyma'ch canllaw defnyddiol ar gyfer creu dôl blodau gwyllt!
Lawrlwythwch

Ble i ddechrau?

  • Gadewch i'ch glaswellt dyfu'n dal a gweld pa flodau sydd gennych eisoes yn eich gwyndwn. Efallai bod nifer o flodau yno, gan gynnwys tegeirianau.

  • Os nad oes blodau yn eich lawnt, gallwch ychwanegu rhai drwy hau hadau ar ddarnau o bridd noeth yn eich ardal laswelltog neu drwy blannu eginblanhigion.

  • Ni fyddwch yn llwyddo drwy roi hadau blodau gwyllt yn syth ar y glaswellt.

  • Os nad yw'r opsiynau uchod yn gweithio i chi, gallwch ddechrau o'r newydd drwy dynnu'r uwchbridd a hau cymysgedd o flodau gwyllt brodorol sy'n addas i'ch pridd.

  • I gael rhagor o fanylion am y gwahanol ddulliau lawrlwythwch ein canllaw 'Creu dôl blodau gwyllt' YMA

Sut i ddewis hadau a’u hau?

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis cymysgedd o hadau blodau gwyllt sy'n addas ar gyfer eich pridd; clai, lôm, sialc.

  • Ar gyfer arddangosfa hardd ar unwaith, mae cymysgedd blynyddol o rywogaethau caeau ŷd yn ddewis da. Maent yn blanhigion blynyddol ac mae angen eu hau bob blwyddyn. Mae cymysgeddau caeau ŷd yn cynnwys glas yr ŷd, bulwg yr ŷd, melyn yr ŷd a phabi.

  • Ar gyfer dôl blodau gwyllt fythol sy'n para'n hirach, bydd cymysgeddau’r hadau'n amrywio ar sail eich math o bridd, ond gall gynnwys y bengaled, milddail, hocysen fwsg, moron y maes, clafrllys y maes, cribell felen.

  • Gall eich cymysgedd hefyd gynnwys hyd at 80% o laswelltau dôl brodorol, gan gynnwys rhonwellt y ci, maeswellt cyffredin a pheiswellt coch. Gall y cymysgeddau hyn gymryd mwy o amser i sefydlu (hyd at 2 flynedd) ond maent yn darparu cynefin dolydd mwy naturiol a chyflawn.

  • Gellir hau cymysgeddau hadau â llaw a'r gyfradd hau fel arfer yw 4g/m2. Mae'n syniad da ychwanegu tywod at eich cymysgedd hadau i'w swmpio ac i wneud dosbarthiad cyfartal yn haws.

  • Gellir hau naill ai yn y gwanwyn neu'r hydref.

Sut i gynnal eich dôl?

  • Y ffactor pwysicaf ar gyfer cynnal eich dolydd bythol yw drwy wneud ‘toriad gwair’ ar ôl y cyfnod blodeuo bob haf (Gorffennaf-Awst).

  • Mae toriad gwair yn cyfeirio at y glaswelltau a'r blodau sy'n cael eu torri yn eu bôn, yn hytrach na ffurfio tomwellt fel gyda pheiriant torri gwair arferol.

  • Gadewch y glaswellt wedi’i dorri bob amser am rai dyddiau i sychu a gollwng hadau cyn ei dynnu o'r safle.

  • Mae angen ail-hau ardaloedd blynyddol o gaeau ŷd bob blwyddyn yn wahanol i ddolydd bythol lle mae'r blodau'n dod eto flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Red-tailed bumblebee

Jon Hawkins Surrey Hills Photography

Gwyllt am erddi?

Er mwyn annog pobl i ddefnyddio eu gerddi i weithredu a chefnogi natur mae yr Ymddiriedolaeth Natur a’r RHS wedi sefydlu menter “Gwyllt Am Erddi”.  Mae nifer o’n ymwelwyr cyffredin a’n gerddi – yn cynnwys draenogod, adar y to a drudwy – dan fygythiad cynyddol.  Ond trwy ein gilydd fe allwn wneud gwahaniaeth.

Eleni rydym yn mynd yn wyllt tros lawntiau.  Darganfyddwch sut all ein gofod gwyrdd ddarparu tros fywyd gwyllt.

Llawr-lwythwch eich canllaw RHAD AC AM DDIM i gychwyn