Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n gweithio i sicrhau bod safonau uchel iawn o ran gofal i gefnogwyr yn cael eu cyflwyno ar draws ei sylfaen o gefnogwyr bob amser. Heb ein cefnogwyr, ni fyddai’r elusen yn gallu hyrwyddo bywyd gwyllt a llefydd naturiol, nac ymgysylltu ac ysbrydoli pobl a hybu byw cynaliadwy.
Ar ôl cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi gwneud addewid gyhoeddus i sicrhau bod ein codi arian yn gyfreithlon, agored, gonest a pharchus, gan alluogi i chi gyfrannu gyda hyder. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein cofrestriad a’r ffaith ein bod yn cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Codi Arian yn rhoi hyder ac ymddiriedaeth mewn cyfrannu elusennol ac yn annog mwy o bobl i ddarparu cefnogaeth hanfodol i gadwraeth.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y ffordd rydyn ni’n codi arian, rydyn ni’n eich annog i gysylltu â ni gyda’ch adborth. Cofiwch wneud hynny drwy gysylltu â’n Cyfarwyddwr Codi Arian, Graeme Cotterill, ar 01248 351541.
Darllenwch ein siarter gofalu am gefnogwyr a’n haddewidion codi arian yn llawn yma
- NWWT Supporter Charter.pdf (228.95 KB)
Hefyd mae gennym ni Siarter Gwaddol ar wahân – edrychwch yma am fanylion