Creu Dyfodol Gwyllt i Gymru

Creu Dyfodol Gwyllt i Gymru

Mass Lobby_Wilder Future Campaign_with Ed Milliband, MP

Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n lobïo gwleidyddion yn yr Eisteddfod Genedlaethol – dewch draw i’n helpu ni!

Ar 26 Mehefin 2019, teithiodd pedwar o bobl o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bob cam i San Steffan ar gyfer yr ymgyrch ‘nawr yw’r amser’ yn galw am weithredu ar frys i warchod ein hardaloedd naturiol ni ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Gan siarad gyda mwy na 300 o ASau a gyda chynrychiolaeth o amrywiaeth eang o sefydliadau, mynychwyd yr ymgyrch gan fwy na 10,000 o bobl, ac roedd neges pawb yr un fath – nawr yw’r amser i weithredu!

Er mai prif fyrdwn yr ymgyrch oedd cael ASau i gymryd rhan, yma yng Nghymru mae’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol yn cael ei phenderfynu gan Aelodau’r Cynulliad (ACau) yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst, felly, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn mynd ag ymgyrch genedlaethol yr Ymddiriedolaethau Natur dros Ddyfodol Gwyllt yn uniongyrchol at ein holl wleidyddion lleol. Mae gan y bobl yma bŵer i weithredu’r newidiadau sydd eu hangen: cyfreithiau cryfach, bioamrywiaeth gynyddol a gwarant y bydd y problemau sy’n effeithio ar ein hardaloedd gwyllt ni’n cael eu cydnabod yn gyhoeddus ac yn cael sylw yn y dyfodol buan iawn. Hefyd bydd gennym ni ‘wal addewidion’ a blwch tynnu lluniau i gofnodi eu hymrwymiadau’n gyhoeddus – a’ch rhai chi! Cofiwch ddod draw i ddangos eich cefnogaeth i’r Dyfodol Gwyllt rydyn ni i gyd ei angen.

Yn olaf, am 13:00 ddydd Iau 8 Awst, byddwn yn cynnal ymgyrch gerdded ar Faes yr Eisteddfod, gyda larymau pawb yn canu fel arwydd bod amser yn prinhau i fywyd gwyllt. Rydyn ni’n gwybod bod byd natur yn cael anhawster ymdopi â phwysau dynoliaeth arno a rhaid i ni roi llais i fyd natur er mwyn sicrhau dyfodol gwyllt i’r cenedlaethau a fydd yn ein dilyn ni. Byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni, a does dim angen archebu lle – dim ond dod i’n stondin ni yn y bore a bydd ein staff yn esbonio beth sydd angen ei wneud.

Ddim yn gallu dod i’r Eisteddfod eleni? Gallwch gofrestru i dderbyn diweddariadau am ymgyrch Dyfodol Gwyllt drwy ein gwefan ni.