Teithiau Cerdded Gwyllt

People walking in a forest

James Wheeler on Unsplash

Dyddiau allan

Teithiau Cerdded Gwyllt

Pa well ffordd o gadw’n heini, darganfod llefydd newydd a chofleidio byd natur na thrwy gerdded neu heicio? Os ydych chi'n chwilio am daith gerdded sy'n para tan fachlud haul, eisiau stryffaglu drwy lystyfiant trwchus neu fynd ar daith gerdded ar hyd rhai o'r llwybrau mwyaf anghysbell a gwyllt - mae gan ein gwarchodfeydd natur ni bopeth i chi.

Mwynhau Taith Gerdded Wyllt yng Ngogledd Cymru hardd

Mae’r tri llwybr cylch isod yn mynd â chi drwy un o’n gwarchodfeydd natur ni yn ogystal â’r cefn gwlad o amgylch.

Mae canllaw ar gyfer pob taith sy'n cynnwys manylion llawn am y llwybr a gwybodaeth am yr ardal a’r bywyd gwyllt lleol. Gallwch argraffu’r canllaw gartref neu edrych ar eich ffôn. Rydym yn argymell eich bod yn mynd â map OS gyda chi hefyd a gadael i rywun wybod ble rydych chi'n mynd bob amser os ydych chi ar eich pen eich hun. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau addas

Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr, ger Penrhyndeudraeth

Mwynhewch fywyd gwyllt amrywiol yr hen ffatri ffrwydron yma, o’r madfallod dŵr i’r troellwyr mawr. Wedyn ymunwch â Llwybr Ardudwy, llwybr eithriadol hardd at eglwys eiconig Llandecwyn, gyda golygfeydd cwbl drawiadol o’r mynyddoedd a’r arfordir.

Er bod y daith ar dir gwledig cymharol dda gan fwyaf, byddwch yn dod ar draws rhai llethrau serth (gan gynnwys stepiau yng Ngwaith Powdwr) a thir anwastad.

1-4 awr

1-6 milltir (2-10 km)

Map Explorer OS OL18

Gwaith Walk Map

©NWWT

Cyfarwyddiadau

Dilynwch y ffordd allan o Benrhyndeudraeth am Bont Briwet (y bont dollau am Harlech). Dilynwch y ffordd gyntaf i Stad Ddiwydiannol Cooke, gan ei dilyn am tua 80m at giatiau’r warchodfa. Mae posib parcio yma (SH 616 388) neu ymhellach i lawr y ffordd tuag at Bont Briwet (SH 618 384).

Dechrau

1. Cerddwch yn syth i mewn i’r warchodfa ar y llwybr tarmac a throi i’r chwith wrth yr arwydd ‘Hanes y Safle’. Yng nghanol y coed derw aeddfed hardd, efallai y gwelwch chi’r gwybedog brith cyn i’r canopi o ddail agor yn llawn yn y gwanwyn. Mae telor y cnau a’r dringwr bach yn ymweld â’r ardaloedd coediog yma hefyd.

2. Arhoswch ar y trac concrid wrth iddo ddringo’n raddol. Lle mae’r llwybr yn rhannu, trowch i’r dde ac ewch ymlaen i fyny’r allt am y Sied Pacio Ffrwydron – mae’n anodd credu mai’r safle yma oedd y ffatri ffrwydron fwyaf yn Ewrop ar un adeg! Cadwch lygad am löynnod byw ar y coed mêl anfrodorol.

3. Trowch i’r dde eto, gan gerdded i fyny allt o hyd, at y Sied Weindio. (Mae’n werth edrych tu mewn.) Sylwch ar y coed derw a’r bedw arian, a’r celyn yn adfywio.

4. Nesaf, dilynwch y trac tarmac ar y chwith, gan fynd heibio i adeilad T4 sy’n gartref i lawer o rywogaethau o ystlumod, gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf a’r ystlum lleiaf. Trowch i’r chwith, gan ddilyn y llwybr drwy gymysgedd o wyddfid, llwyni mwyar duon, rhedyn ungoes a chriafol. Ewch ymlaen heibio i’r pwll ar y dde i chi; dyma gynefin da i fursennod, gweision y neidr, madfallod dŵr a neidr y gwair.

5. Yr adeilad nesaf, gyda’r drws coch, yw’r Sied Storio Ffrwydron. Mae wedi’i hadeiladu o frics concrid cryf i warchod rhag unrhyw ffrwydrad damweiniol. Wrth fynd heibio’r adeilad, dilynwch y stepiau i fyny i’r dde, sy’n mynd â chi i dop Gwaith Powdwr. Yma fe welwch chi gyfuniad lliwgar o blanhigion y rhostir: porffor grug y mêl, pinc y grug croesddail a melyn tresgl y moch. Mae’r cynefin agored yma’n lle da i nadroedd defaid, sy’n hoffi cysgodi rhag yr haul o dan y cerrig. Manteisiwch ar y fainc mewn lleoliad da i fwynhau golygfeydd panoramig o Eryri, aber godidog afon Dwyryd a chastell Harlech.

6. Trowch i’r chwith i ymweld â Sied y Pendil, lle’r oedd cryfder y ffrwydron yn cael ei brofi tan 1983. Erbyn hyn mae’n lle da ar gyfer y dylluan wen a gwenoliaid sy’n nythu! Mae’r rhostir agored yn y fan yma’n ddelfrydol i’r troellwr mawr, sydd i’w glywed yn ‘rhincian’ yn y gwyll yn ystod yr haf – mae’r aderyn yma sy’n nythu ar y ddaear yn llawer haws ei glywed na’i weld!

7. Dilynwch eich llwybr yn ôl at y prif lwybr, gan sylwi ar blu’r gweunydd yn yr ardal wlyb. Trowch i’r chwith wrth gyrraedd y prif lwybr, sy’n dod i lawr ochr yn ochr â golygfeydd hyfryd o’r dyffryn. Gwyrwch i’r dde i ymweld â’r Pwll Setlo – efallai y gwelwch chi was y neidr trawiadol yma, sef yr ymerawdwr. Ewch ymlaen i lawr yr allt gan adael i’r trac eich arwain chi allan o’r warchodfa. Trowch i’r chwith i’r safle picnic sy’n lle gwych i wylio adar ar yr aber yn ystod y gaeaf.

8. I ymestyn y daith, ewch ymlaen i’r chwith ar Lwybr Arfordir Cymru, gan groesi’r aber dros y bont droed. Pan rydych yn cyrraedd yr A496, ewch ati i’w chroesi’n ofalus ac wedyn dilyn y lôn droellog yn syth i fyny’r allt o annedd Trem-y- Garth. Rownd y gornel gyntaf, dilynwch arwydd y llwybr troed ar y chwith i ddilyn Llwybr Ardudwy (sydd hefyd ag arwydd glas ‘Llwybr Cylch’).

9. Mae’r trac llydan yn braf, gyda glöynnod byw a micro-wyfynod yn mwynhau’r aer cysgodol. Wrth i’r cynefin agor o’ch blaen, cadwch lygad am glochdar y cerrig, y llinos a’r llwydfron a gwrandewch am gân enwog ‘little bit of bread and no cheese’ y bras melyn – efallai y gwelwch chi’r melyn llachar, ond dyma aderyn cynyddol brin sy’n canu o frig y goeden.

10. Wrth i chi ddringo, mae’r dyffryn yn culhau, ac yn y diwedd byddwch yn cyrraedd Llyn Tecwyn Uchaf – mae cudyllod coch yn magu ar y clogwyni a hwyaid brongoch ar y llyn. I fynd ymlaen ar eich taith, dilynwch eich llwybr yn ôl at y giât fetel a dilyn y lôn gul i’r eglwys, gan gadw’r wal ar y dde i chi. Cadwch lygad am fwsogl pen seren, llus a rhywogaethau o rug, a chennau niferus ar y wal garreg. Byddwch yn dechrau cael cipolwg ar Eglwys Sant Tecwyn erbyn hyn, a mwy o olygfeydd rhyfeddol ar draws yr aber.

11. Dilynwch y lôn fechan sy’n gwyro i’r dde am yr eglwys – gallwch stopio a mynd i mewn os ydych yn dymuno. Ewch ymlaen i lawr y lôn: mae’r wal garreg yn drawiadol, gyda llus, rhedyn, drain duon a derw’n tyfu rhwng y meini. Ar y chwith, byddwch yn mynd heibio i Lyn Tecwyn Isaf, llyn hardd gyda gweision y neidr a mursennod yn hofran uwch ben lili’r dŵr ar ei wyneb.

12. Daliwch i fynd i lawr y lôn droellog, lle cewch gyfle i weld y gnocell fraith fwyaf efallai, a throi i’r dde pan mae’n gwahanu. Yn y diwedd byddwch yn dychwelyd i Drem-y-Garth ac yn ôl ar hyd y ffordd i Waith Powdwr. Ar ôl i chi groesi’r bont ffordd, ewch heibio dwy giât sy’n arwain i Waith Powdwr ond cymerwch y drydedd fynedfa, gan droi i’r dde a mynd heibio i Grays Waste. Ar ôl cyrraedd y warchodfa, trowch i’r chwith, gan ddilyn y llwybr glaswellt. Mae stepiau concrid yn mynd â chi i fyny’n serth drwy goetir i ardal o greigiau ac eithin. Trowch i’r chwith i’r llannerch bychan ac mae’r llwybr yn troelli ei ffordd yn ôl i lawr i brif fynedfa’r warchodfa

Gwarchodfa Natur Chwarel Minera, ger Wrecsam

Taith gerdded o gynefinoedd a thirweddau amrywiol, gan gynnwys glaswelltir calchfaen trawiadol yn llawn blodau a golygfeydd panoramig o Fynydd Esclus. Mae cyfle i weld y rugiar ddu hyd yn oed!

Bydd rhywfaint o dir anwastad a llethrau serth, gydag ardaloedd o rostir agored. Byddwch yn ymwybodol o feiciau mynydd ar y traciau o amgylch Coedwig Llandegla.

4-6 awr

7.5 milltir (12.2 km)

Map Explorer OS 256

Minera Walk Map

©NWWT

Cyfarwyddiadau

O’r A483 i’r gorllewin o Wrecsam, dilynwch yr A525 i gyfeiriad Rhuthun. Dilynwch y ffordd drwy Goedpoeth ac, wrth i chi adael y pentref, trowch i’r chwith ar y B5426 (i gyfeiriad Minera/ World’s End). Trowch i’r dde yn union gyferbyn ag Ysgol Gynradd Minera, ewch heibio i Eglwys y Santes Fair ac wedyn rownd tro sydyn i’r chwith. Cymerwch y cyntaf ar y chwith ar Ffordd Maes-y-Ffynnon a dilyn y ffordd nes dod at faes parcio bychan y warchodfa (SJ 258 519).

Dechrau

1. Gyda’r afon ar y chwith i chi, ewch i mewn i’r warchodfa natur drwy’r giât ym mhen draw’r maes parcio. Ewch ymlaen ar hyd y trac – a chadwch lygad am yr hen odynau calch a sylwi ar y cyll, y bedw a’r helyg sy’n adfywio.

2. Ewch ymlaen heibio’r bont droed ac Aber Sychnant, enw priodol iawn yn aml, gan fynd ymlaen wedyn ar hyd y trac drwy’r giât i’r ardal o chwarel agored a mwynhau’r arddangosfeydd godidog o degeirianau yn y gwanwyn a’r haf.

3. Daliwch i gerdded tuag at y clogwyni cyfareddol yng nghefn y chwarel. Wrth y garnedd (pentwr o gerrig), ewch i’r dde ac, ar ôl cyrraedd y pwll, croeswch y ffos ar y chwith i chi ac wedyn croesi ail ffos ar y dde i chi yn syth. Dilynwch y llwybr glaswellt i fyny’r bryn tuag at gopa nodedig y clogwyn creigiog. Trowch i’r chwith drwy giât a cherdded ar hyd y llwybr glaswellt wrth iddo arwain i lawr y bryn i giât arall. Mae’r glaswelltir cysgodol yma’n llawn blodau gwyllt, glöynnod byw a gwyfynod bwrned pum smotyn lliwgar yn bwydo ar yr ysgall. Daliwch i’r dde ar ôl y giât a dilyn y llwybr ar draws y glaswelltir yn ôl at y pwll. Dilynwch eich llwybr yn ôl at y bont droed ym Mhwynt 2.

4. Wrth y ddau faen mawr, trowch i’r chwith drwy giât, gan ddilyn y trac llydan drwy’r coed. Cewch arogli’r garlleg gwyllt cryf a sylwi ar y coed cyll wedi’u tocio yn gymysg ag ynn a helyg. Arhoswch ar y trac yma, gan ddringo i fyny. Ewch drwy giât a dal i’r chwith ar hyd y lôn. Ar ôl pellter byr, mae arwyddbost yn eich cyfeirio chi i’r chwith i gae. Cerddwch i fyny’r bryn drwy’r cae, gan gadw’r coed a’r rhedyn ar y chwith i chi. Ewch ymlaen at y gamfa yng nghornel y cae (ger yr adeiladau) ac i fordd.

5. Trowch i’r chwith ar hyd y ffordd ac yn syth bron wedyn i’r chwith ar lôn dawel, gan fynd ymlaen am 1 filltir. Pan fyddwch yn cyrraedd yr arwyddion am Ganolfan Ymwelwyr Coedwig Llandegla, ewch i’r

chwith i fyny at y Ganolfan ac fe welwch chi gaffi a thoiledau (ar gau ar ddydd Llun). Dilynwch y llwybr i’r chwith o’r Ganolfan a dilyn y Llwybr sydd wedi’i farcio gydag arwydd y Rugiar Ddu (porfor). Mwynhewch arogl glân a phîn y forest. Ar ôl tua 1.4 km (milltir bron), byddwch yn cyrraedd trac y goedwig. Mae postyn pren ar y chwith i chi (gyda ‘9 km’ ar y cefn) a sawl postyn marcio arall gyferbyn. Croeswch yn syth dros y trac ac ewch ymlaen ar hyd y llwybr nes cyrraedd y cerfluniau o’r rugiar ddu. Dringwch dros y gamfa i’r rhostir agored – mae hwn yn gynefin pwysig iawn i weld y rugiar ddu.

6. Pan mae’r llwybr yn fforchio, ewch i’r chwith. Sylwch ar y gymysgedd o blanhigion nodweddiadol rhostir yr ucheldir: grug y mêl, grug, grug croesddail, eithin, llus a thresgl y moch. Cadwch lygad am glochdar y cerrig yn eistedd ar ben y llwyni eithin ac, ym mis Gorffennaf, cewch gasglu’r llus suddlon. Wrth y wal gerrig, dilynwch yr arwyddbost ar hyd y wal i Fferm Tŷ Hir.

7. Yn y ffermdy, trowch i’r dde ar hyd y trac ac ewch drwy giât fetel i gae. Mae’r llwybr troed yn dilyn llinell y ffens ar y chwith. Cadwch lygad am y barcud a’r gwenoliaid duon yn hedfan yn uchel yn yr awyr yn ystod yr haf. Dilynwch yr arwyddbyst: dros gamfa, drwy gae gyda phant ynddo ac wedyn ymlaen at gamfa bren arall gyda ffos / nant. Yn y glaswelltir, sylwch ar glychau’r eos a gwrando am gân y llinos a’r nico. Mae’r ardal wlyb yn cynnwys erwain a sgorpionllys.

8. Mae’r llwybr yn troelli i lawr allt drwy helyg, cerddin a drain gwynion. Croeswch y pren dros y nant a mynd ymlaen ar hyd y llwybr cul. Mae bryncyn serth yn y cae nesaf. Cerddwch o dan ddau beilon a dilynwch linell y ffens sy’n ffinio â Fferm Parc (ar y chwith i chi). Trowch i’r dde ar drac y fferm a mynd ymlaen i fyny’r ffordd darmac.

9. Croeswch y ffordd a dilyn y trac glaswellt i fyny Mynydd Esclus, gan droi i’r dde i gyrraedd y pwynt trigonometreg a’i olygfeydd panoramig godidog dros Gymru a Lloegr. Ewch yn ôl yr un ffordd i’r ffordd a throi i’r dde.

10. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd, gan anwybyddu’r arwydd cyntaf ar gyfer llwybr troed a cherdded o dan y peilonau. Dilynwch y llwybr troed nesaf ar y chwith, cyn y grid gwartheg. Wrth i chi gerdded i lawr, cewch fwynhau golygfeydd o’r eglwys gyferbyn ac, yn yr hydref, lliwiau cyfoethog y dail a’r aeron.

11. Ewch heibio i ddwy ddraenen wen fawr a throi i’r chwith dros y gamfa bren drwy’r wal, ac wedyn troi’n sydyn i’r chwith ac yn union i’r dde i lawr yr allt drwy’r rhedyn. Pan fyddwch yn y coed, cadwch i’r chwith wrth gyrraedd llwybr arall (gan ddilyn y saeth felen) a dilyn y llwybr i lawr drwy ddôl o degeirianau, y bengaled, blodau neidr a chân yr adar. Ewch ymlaen a gadael drwy giât bren fawr cyn troi i’r chwith, ar hyd yr hen lein reilffordd. Ewch heibio’r tŷ ac yn ôl i’r maes parcio.

Gwarchodfa Natur Rhiwledyn a’r Gogarth Fach, ger Llandudno

Mae’r daith gerdded arfordirol yma – sy’n gwbl odidog yn yr haf, ac yn ffres iawn mewn tywydd oerach! – yn mynd â chi i fyny Rhiwledyn, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Rhiwledyn yr Ymddiriedolaeth Natur.

Addas i gerddwyr heini, profiadol. Dringo a gostwng serth, arwynebau anwastad a llithrig, ymylon clogwyn a chwarel heb eu gwarchod. Esgidiau cerdded cryf yn hanfodol a ffon gerdded yn syniad da.

1-2 awr

1.5 milltir (2.5 km)

Map Explorer OS OL17

Rhiwledyn Walk

©NWWT

Cyfarwyddiadau

O Gyffordd 20 yr A55, dilynwch y B5115 tuag at Landrillo-yn-Rhos/Bae Penrhyn. Parciwch ble bynnag sy’n bosib o fewn pellter cerdded hwylus i’r cylchfan ym Mae Penrhyn, lle mae’r B5115 yn cyfarfod Ffordd Glan-y-Môr wrth droed Allt Penrhyn.

Dechrau

1. Cerddwch yn ôl i’r cylchfan ac ewch i fyny Allt Penrhyn a cherddwch i fyny’r palmant ar y dde am ryw 50m. Mae trac ac arwydd llwybr troed cyhoeddus i’w gweld ar y dde, a rhaid eu dilyn. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i glywed sŵn y siff-siaff a’r telor penddu yn y coed ar y chwith i chi yn y gwanwyn.

2. Pan mae’r ffordd yn troi i’r dde yma, anwybyddwch y llwybr ar y chwith ac ewch ymlaen ar hyd y trac rhwng y bythynnod. Ewch drwy’r giât mochyn ac ymlaen yn syth ar hyd y llwybr tarmac i Riwledyn.

3. Pan ddaw’r tarmac i ben, dilynwch y llwybr graean. Wrth y postyn cyfeirio tal, ewch i’r chwith i fyny llwybr serth. Arhoswch yn y top i edmygu’r olygfa ac am seibiant bach! Ewch i’r chwith ar ôl mynd drwy giât.

4. Dilynwch y llwybr i brysgwydd a nawr rydych chi ar Lwybr Arfordir Cymru. Trowch i’r dde a dringo’n serth tuag at ffens.

5. Wrth gornel y ffens, trowch yn sydyn i’r chwith. Dilynwch y llwybr rhwng y llwyni eithin, ble gellir gweld clochdar y cerrig yn yr haf. Dilynwch y llwybr yn araf i lawr nes cyrraedd cyfeirbwynt arall. Ewch yn syth yn eich blaen.

6. Ewch ymlaen at y giât mochyn bren a bwrdd gwybodaeth Gwarchodfa Natur Rhiwledyn YNGC. Efallai y gwelwch chi blanhigion sy’n hoff iawn o galchfaen yn y warchodfa, fel crydwellt, y grogedau ac ysgall Siarl. Drwy’r giât, er bod y prif lwybr yn mynd ar i lawr, dilynwch y ffens haearn ar y dde i chi a dringwch y llethr o laswellt. Yn fuan iawn, mae’r tir yn mynd ar i lawr ac yn troi’n fwy gwastad. Mae ardal ynysig o brysgwydd yn y fan yma, ble mae’r farddanhadlen wen yn tyfu. Dyma fwyd lindysyn gwyfyn pluog prin y farddanhadlen. Mae hebogau tramor, cigfrain, bwncathod, cudyllod coch a brain coesgoch wedi’u gweld yma i gyd.

Dilynwch eich camau’n ôl ar hyd y ffens at y giât mochyn ond trowch yn sydyn i’r dde yn y fan yma i ddilyn llwybr clir i lawr drwy’r warchodfa. Mae gwencïod a charlymod wedi’u gweld yn hela yma ac mae adar y coetir yn dod i’r darn cysgodol yma o’r warchodfa’n aml. Daw’r llwybr allan ar laswelltir sy’n edrych i lawr dros y ffordd. Yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf, mae llethrau’r bryn calchfaen wedi’u gorchuddio â chor-rosod melyn.

7. Ewch i lawr heibio i sedd a bwrdd gwybodaeth at y giât mochyn. Ewch heibio’r giât ac ar y glaswelltir wrth droed y clogwyni. Efallai y gwelwch chi adar drycin y graig yn nythu uwch eich pen. Ewch yn ôl at y giât mochyn ac ewch drwyddi ar y palmant. Trowch i’r chwith nes cyrraedd dreif sy’n arwain at Dŷ Ucha ar y chwith i chi.

8. Ewch i lawr y dreif a heibio blaen y tŷ, ac wedyn yn syth ymlaen at giât a hen adeilad fferm ar y chwith i chi. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr yma rhwng y gwrychoedd ac i lawr at y giât mochyn. Trowch i’r dde a dilynwch eich camau’n ôl ar hyd y trac yn ôl i Allt Penrhyn.

Find a walking event

NWWT Walks guides covers

Canllawiau Cerdded

I’ch helpu chi i archwilio, rydyn ni wedi creu dau ganllaw gwych ...

Teithiau Cerdded Gwyllt – mae 23 taith gerdded i gyd, yn amrywio o deithiau hamddenol byr i grwydro am ddiwrnod cyfan. Mae pob un yn cynnwys o leiaf un gwarchodfa natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a thu hwnt! Pris Gwerthu £7.50

Ewch i’r siop ar-lein

Nod Llefydd Gwyllt i’w Darganfod yw eich helpu chi i gael y gorau o ymweld â’n gwarchodfeydd natur a’n llecynnau arfordirol allweddol. Pris Gwerthu £7.50 neu AM DDIM wrth ymuno fel aelod newydd.           

Dod yn aelod