Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i'n helpu ni i fynd i'r afael â'r bygythiad sy’n cael ei achosi gan rywogaethau ymledol
Os ydych chi'n arddwr, yn gaiaciwr, yn badlwr, yn nofiwr, yn mynd â’ch ci am dro, neu ddim ond yn hoff o fywyd gwyllt hyd yn oed, mae rhywbeth y gallwch CHI ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r bygythiad i'n rhywogaethau brodorol.
O ddysgu adnabod a rhoi gwybod am rywogaethau ymledol, i ymarfer bioddiogelwch gartref a phan fyddwch chi allan, neu hyd yn oed wirfoddoli i helpu i reoli'r lledaeniad, bydd y dudalen yma’n rhoi'r holl adnoddau sydd arnoch eu hangen i chi.
Darganfod mwy o wybodaeth am rywogaethau anfrodorol ymledol yma
Gardeners' Toolkit © NWWT
Archwilio ein Pecyn Cymorth i Arddwyr
Mae ein Pecyn Cymorth i Arddwyr yn adnodd rhyngweithiol dwyieithog ar-lein sy'n cynnwys fideos, calendr tymhorol, cyngor arbenigol a llawer mwy, wedi'i gynllunio i gefnogi garddwyr i atal lledaeniad rhywogaethau o blanhigion ymledol o erddi i'r gwyllt.