Team INNS

Volunteer Himalayan balsam bash

Volunteer Himalayan balsam bash © Craig Wade

CADWRAETH BYWYD GWYLLT

Rhywogaethau anfrodorol goresgynnol

Ymunwch â'n hymdrech i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol 

Beth yw rhywogaethau anfrodorol goresgynnol?

Mae rhywogaethau anfrodorol goresgynnol (rhywogaethau goresgynnol) yn cael eu cyflwyno gan bobl, boed hynny'n fwriadol neu'n anfwriadol, y tu hwnt i'w hystod naturiol. Yn cael ei gydnabod fel un o’r pum prif ffactor sy’n sbarduno colli bioamrywiaeth yn fyd-eang, mae eu hymlediad yn bygwth goroesiad ein rhywogaethau brodorol, a gall achosi niwed i’n hamgylchedd, ein heconomi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw.

5 direct drivers of biodiversity loss

Direct drivers of change in nature with the largest global impact (IPBES Global Assessment) ©NWWT

Pam mae gweithredu yn bwysig?

Rydym yn byw drwy argyfwng colli byd natur. Mae Cymru yn un o’r gwledydd sydd wedi colli’r gyfran fwyaf o’i byd natur yn y byd, ac mae llawer o’n bywyd gwyllt brodorol ni yn cael anhawster ar hyn o bryd (gydag un o bob saith rhywogaeth yn wynebu difodiant a mwy na 40% yn dirywio).

Ni allwn danamcangyfrif y bygythiad y mae INNS yn ei achosi i wydnwch ecosystemau.

 

Mae INNS yn fygythiad oherwydd:

  • Ysglyfaethu ar rywogaethau brodorol 
  • Cystadlu â rhywogaethau brodorol am adnoddau fel lle, golau, dŵr
  • Cario clefydau newydd 
  • Croesi, dyma lle mae rhywogaeth oresgynnol yn bridio gyda rhywogaethau brodorol cysylltiedig ac yn newid eu 'cymeriad genetig'

Mae INNS hefyd yn creu effeithiau economaidd, gan effeithio ar adeiladau, cynhyrchiant amaethyddol a choedwigaeth, gan niweidio cyflwr cnydau a phridd. Amcangyfrifir eu bod yn costio £125 miliwn y flwyddyn i Gymru, cost sy'n debygol o fod yn cynyddu.

Beth allwch chi ei wneud?

Yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, rydym yn gwneud ymdrech ar y cyd i ddiogelu byd natur rhag INNS (a chyflawni 30 erbyn 30 i gynorthwyo byd natur i adfer). Ond mae angen eich help chi arnom! Dyma ychydig o ffyrdd y gallwch helpu i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol: 

Dod yn wyddonydd dinasyddion drwy ddod o hyd i rywogaethau goresgynnol a'u cofnodi.  Mae gwybodaeth am rywogaethau gyda rhybudd ar hyn o bryd a sut i'w hadrodd yma

Volunteers 'balsam bouncing'

Volunteers 'balsam bouncing' © Lesley James

Gwirfoddoli

Dewch yn wirfoddolwr i ni fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol gyda'n gilydd! Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael.

Dod yn wirfoddolwr
Himalayan balsam in flower

© NWWT

Bioddiogelwch

Helpwch i atal a lleihau lledaeniad rhywogaethau goresgynnol drwy fabwysiadu mesurau syml ond effeithiol yn eich bywyd o ddydd i ddydd.

Byddwch yn fioddiogel

Beth ydym ni'n ei wneud yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru?

Mae ymdrech ar y cyd yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i leihau effaith INNS ar yr amgylchedd naturiol. Mae hyn yn cynnwys nifer o brosiectau sy'n canolbwyntio ar wahanol ddulliau a gwahanol rannau o Ogledd Cymru a thu hwnt. Cewch ragor o wybodaeth isod. 

Volunteers removing cotoneaster Mynydd Marian

Volunteers removing cotoneaster ©Hannah NWWT

Prosiect Adfer Glaswelltiroedd Calchfaen

Rhagor o wybodaeth
Pontcysyllte Aqueduct on the River Dee

©NWWT

Dyfrdwy Uchaf a Chanol y Dyfrdwy

Pobl sy'n diogelu mannau naturiol

Rhagor o wybodaeth
Alun and Chwiler Living Landscape Scheme

Prosiect Peilot Ecosystem Wydn Gogledd Cymru (NWREPP)

 

 

Treialu atebion arloesol yng Ngogledd Cymru
Dramatic veins on a Gunnera sp. leaf

Dramatic veins on a Gunnera sp. leaf © Tomos Jones

Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru

Rhagor o wybodaeth
Variegated yellow archangel escaping through a garden fence

© Tomos Jones

Dihangwyr Gerddi!

Cynnwys garddwyr i atal ‘ymledwyr y dyfodol’

Find out more
Himalayan balsam encroaching on footbridge

Himalayan balsam encroaching on footbridge (Craig Wade NWWT)

PATH

Improving people’s experience of natural heritage through signage, walks, talks and INNS management 

Find out more