Ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CACh)

A group of volunteers gathered around a campfire after a morning spent clearing rhododendron in Nercwys

Asylum Link Merseyside

AMDANOM NI

Ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CACh)

Pobl wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n credu y dylai pawb gael y cyfle i brofi llawenydd bywyd gwyllt yn eu bywydau bob dydd, dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i roi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon ein gwaith..  

Rydyn ni’n gweithio i ddeall yn well amrywiaeth presennol ein sefydliad, y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw a’r cynulleidfaoedd rydyn ni’n siarad â nhw. Rydyn ni wrthi’n datblygu Polisi CACh newydd i arwain ein hymdrechion yn y maes hwn ac i helpu i sicrhau ein bod ni’r sefydliad hygyrch a chynhwysol rydyn ni i gyd eisiau i YNGC fod. Ar ôl ei gyhoeddi, bydd y polisi hwnnw’n cael ei rannu yma, ynghyd â newyddion, straeon personol a blogiau a fydd yn tynnu sylw at ein cynnydd ac yn dathlu amrywiaeth ein staff a’n gwirfoddolwyr. 

CACh ... pam?

Mae colli byd natur, diraddio amgylcheddol a newid hinsawdd i gyd yn broblemau dieflig. Maen nhw’n gymhleth ac yn rhyng-gysylltiedig. Ni fydd y problemau yma’n cael eu datrys heb lefel uchel o feddwl arloesol. Ni fydd rhoi mwy o adnoddau i barhau â'r dull presennol o weithredu’n datrys y broblem ... pe bai’n mynd i weithio, fe fyddai wedi gweithio erbyn hyn. Er mwyn creu gofod ar gyfer arloesi, mae angen pobl sy'n meddwl yn wahanol i ddod at ei gilydd, pobl o wahanol gefndiroedd, credoau, profiadau, syniadau ac agweddau. Mae rhannu safbwyntiau dadleuol mewn gofod diogel, tanio dychymyg ein gilydd, rhannu meddyliau a straeon, a sicrhau cyfaddawd i gyd yn gamau pwysig wrth arloesi. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae angen i ni ddeall y lens rydyn ni’n ei defnyddio i edrych ar fywyd drwyddi, gwneud penderfyniadau, byw ein credoau, a gwerthuso cynnydd. Mae deall y credoau a'r gwerthoedd sydd wrth wraidd ein ffordd unigol o feddwl yn hanfodol.

O edrych arno mewn ffordd arall, ble mae'r llif nwyddau a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â phopeth rydyn ni’n ei wneud yn mynd yn y diwedd? Mae mynediad i natur, dŵr glân ac aer glân yn rhan sylfaenol o fywyd iach. Ydi'r nwyddau a'r gwasanaethau rydyn ni'n helpu i’w darparu yn llifo i bawb? Rydyn ni’n elusen a phobl sy'n cael budd o bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rhaid i ni fynd ati i sicrhau bod ein holl fuddiolwyr yn elwa o'n gwaith a phopeth rydyn ni’n sefyll drosto. Dylai mynediad at natur fod i bawb.

Yn ogystal, os ydyn ni’n recriwtio pobl debyg i ni’n hunain bob amser, yn y pen draw byddwn yn siarad yn yr un ffordd, yn meddwl yn yr un ffordd, ac yn gweithredu yn yr un ffordd. Mae perygl bod y byd yn newid o'n cwmpas ni a’n bod ni’n colli’r arwyddion. Mae ein gwytnwch ni’n cael ei beryglu heb amrywiaeth.

Pa bynnag resymeg rydych chi'n ei dilyn, mae pob un yn gymhellol. Fodd bynnag, mae pob achos yn cyflwyno rheswm sylfaenol dros fod yn fwy cynhwysol yn ein gwaith. Mae hefyd reswm cynhenid ​​pwerus sy'n rheoli pob un arall. Er mwyn byw mewn byd caredig, cydymdeimladol, trugarog a chydnaws, mae angen i sefydliadau a mudiadau adlewyrchu'r gwerthoedd sy'n cefnogi hyn. Mae persbectif moesol a moesegol cadarn ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fe ddylem barchu pawb, ac mae’r gred sylfaenol yma wedi’i hysgrifennu ym mhob rhan o DNA Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Er mwyn dangos hyn mae angen i ni fod yn rhagweithiol. Mae ymddiriedolwyr a staff yn gweithio'n galed i sicrhau nad ymarfer ticio bocsys yn unig yw CACh, mae'n ffordd o fodoli. Os gallwch chi ein helpu ni i gyrraedd yno, rydyn ni eisiau ymgysylltu â chi. Gyda hyn mewn golwg, mae ein drysau ni, a hefyd ein gwarchodfeydd natur ni, bob amser ar agor.

Howard Davies (Cadeirydd ac Ymddiriedolwr YNGC)

Ar draws ein mudiad

Rydyn ni’n un o 46 o Ymddiriedolaethau Natur ledled y DU sy’n gweithio’n galed i adfer byd natur, ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. I gydnabod hyn, mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi cyhoeddi Datganiad Cydraddoldeb sy’n amlinellu eu hymrwymiad i CACh yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Darllen mwy

Wild About Inclusion - graphic