Volunteer of the Year awards

Nine volunteers post in a line for a picture in front of a landscape view

Volunteers © NWWT

Gwobrau Gwirfoddolwyr 2024-25

Hwrê i'n gwirfoddolwyr ni!

Bob blwyddyn rydyn ni’n talu teyrnged i wirfoddolwyr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol tuag at ein gwaith ni. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr ni – byddai’n braf iawn gallu tynnu sylw at bawb yn unigol!

Mae ein Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn ni wedi cael ei chyflwyno i ddau wirfoddolwr eithriadol – Peter Scarll and Richard Whitehurst

Mae Gwirfoddolwr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i aelod sydd, ym marn y Bwrdd, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2024 -25.

Peter Scarll at Big Pool Wood

Peter Scarll

Mae'r wobr yma wedi cael ei rhoi i Peter i gydnabod yr holl waith caled mae wedi'i wneud yn ein gwarchodfa natur ni yn Big Pool Wood. Mae Peter yn ymweld â'r warchodfa natur sawl gwaith yr wythnos, bob dydd weithiau, i lenwi'r teclynnau bwydo adar a gwirio'r cuddfannau adar. Mae'n sgwrsio ag unrhyw ymwelwyr mae'n eu cyfarfod ar y safle ac yn siarad yn gadarnhaol am yr Ymddiriedolaeth. Yn ddiamau, rydyn ni wedi recriwtio gwirfoddolwyr ac aelodau newydd diolch i groeso cynnes Peter. Mae Peter o gymorth mawr i staff YNGC - mae'n trefnu ac yn rheoli ein gweithgorau cadwraeth ymarferol misol yn rheolaidd ar ran Paul Furnbourough, ein Swyddog Gwarchodfeydd. Mae wedi bod yn hynod gefnogol i Helen Carter-Emsell yn y sesiynau lles mae hi'n eu cynnal yn Big Pool Wood - bob amser yno i helpu i baratoi a chadw popeth, ac yn wyneb cyfeillgar i'r bobl sy'n cymryd rhan. Yn ogystal â'i waith ar y tir, mae Peter hefyd yn rheoli grwpiau Facebook a WhatsApp Big Pool Wood.

Rydyn ni wir yn ddiolchgar am y cyfraniad sylweddol y mae Peter yn ei wneud at ein gwaith ni yn Big Pool Wood. Mae ein gwarchodfa natur ni’n lle gwell o ganlyniad i'w waith caled a'i ymroddiad. Mae'n enillydd haeddiannol iawn o’n Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2024-25. 

 

Richard Whitehurst at Aberduna

Richard Whitehurst

Dechreuodd Richard wirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ôl yn 2023 ac ers hynny mae wedi dod yn aelod hynod werthfawr o dîm gwirfoddolwyr y feithrinfa goed. Gan weithio gyda Sarah Ellis, ein Swyddog Datblygu yn y Feithrinfa Goed, mae Richard wedi datblygu, ac mae’n parhau i gynnal, system stocrestr uwch y feithrinfa goed. Mae hon wedi bod yn broses gymhleth oherwydd natur meithrinfeydd coed, sy’n newid ac yn esblygu’n gyson. Mae Richard bob amser yn hapus i gymryd rhan ym mha bynnag waith sydd angen ei wneud. Gallai hyn gynnwys potio eginblanhigion, chwynnu, casglu hadau a dyfrio - bob amser gyda gwên ar ei wyneb a sawl jôc wirion! Mae Richard yn weithiwr eithriadol galed ac mae’n bleser ei gael yn y tîm.

Rydyn ni wir yn ddiolchgar am y cyfraniad sylweddol mae Richard wedi’i wneud at ein gwaith ni yn y feithrinfa goed, ac mae’n enillydd haeddiannol iawn o’n gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2024-25.

 

Dyfarnwyd Bathodyn Aur 2024–25 i Colin Thomas.

Mae Bathodyn Aur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i aelod sydd, ym marn y Bwrdd, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur. 

 

Colin Thomas in Llys Garth garden 2025

Mae Colin wedi bod yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ers 2017. Hyd yma, mae wedi cyfrannu mwy na 2000 o oriau o'i amser i'n helpu ni gyda'n gwaith. Drwy gydol y cyfnod yma, mae wedi bod yn gwirfoddoli yn ein gwarchodfeydd natur ni ar Ynys Môn gyda'n Swyddog Gwarchodfeydd, Matt Cole. Mae wedi gwneud popeth o reoli rhostiroedd ym Mariandyrys i osod bocsys nythu yn eu lle ar gyfer môr-wenoliaid mudol yng Nghemlyn; cyfrif y Cor-rosod Rhuddfannog ym Mhorth Diana a bugeilio merlod yng Nghors Goch. Mae'n ddyn sydd â llawer o dalentau! Mae ei allu i weithio'n galed yn gwbl nodedig ond, er mawr ryddhad i'n gwirfoddolwyr eraill ni, mae'n ymddangos bod ganddo gloc mewnol sy'n dweud wrtho pryd mae'n 11 a.m., 1 p.m. a 3 p.m. ac yn amser panad neu amser cinio!

Yn ogystal â gwirfoddoli allan yn ein gwarchodfeydd natur ni, mae Colin, ynghyd â Sue Carter, yn un o aelodau allweddol grŵp gwirfoddolwyr garddio Llys Garth. Maen nhw’n cyfarfod unwaith y mis ac ers 2017, maen nhw wedi gweithio ochr yn ochr ag Anna Williams ac wedi trawsnewid jyngl y swyddfa yn llecyn sydd bellach yn ardd hynod ddeniadol sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Mae pyllau wedi cael eu creu; dolydd wedi'u hadu; mae coetir bychan wedi cael ei blannu, ac mae borderi bach lliwgar yn darparu digonedd o neithdar a phaill i'r cannoedd o bryfed peillio sy'n ymweld. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb help y gwirfoddolwyr ymroddedig fel Colin ac rydyn ni’n teimlo mor ffodus o gael ei gefnogaeth.

Mae’r wobr yma’n cydnabod ac yn dathlu cyfraniad enfawr Colin at ein gwaith cadwraeth ni yn Ngogledd Orllewin Cymru ac mae’n gwbl haeddiannol.

 

Dyfarnwyd y wobr Grŵp Gwirfoddolwyr y Flwyddyn i dîm gwirfoddol Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig.

Mae Grŵp Gwirfoddolwyr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i grŵp o wirfoddolwyr sydd, ym marn y Bwrdd, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2024-25.

Brenig Osprey Project volunteer team

Yn 2024-25, rhoddodd y tîm anhygoel yma o wirfoddolwyr, sy’n cynnwys 30 o unigolion, fwy na 5500 o oriau o'u hamser gyda'i gilydd i gefnogi Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig.

Gan mai dim ond un aelod o staff sydd yno, ni allai Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig weithredu o ddydd i ddydd heb gyfraniad yr unigolion ymroddedig yma. Yn ystod tymor 2024, ymgysylltodd y tîm gwirfoddol gyda mwy na 5000 o ymwelwyr yng ngwylfan gweilch y pysgod Llyn Brenig. Fe wnaethant gymryd gofal o’r guddfan a’r wylfan gweilch y pysgod ar y dyddiau pan nad oedd y Swyddog Prosiect yn y gwaith; helpu gyda chynnal a chadw'r adeiladau; rheoli digwyddiadau cyhoeddus; darparu gwybodaeth i'r nifer o ymwelwyr am y pâr o weilch sy’n magu ar y safle a'u cywion; cynnal gwaith cofnodi a monitro; codi arian ar gyfer Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig a recriwtio aelodau newydd ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Rydyn ni wir yn ddiolchgar iddyn nhw am eu holl waith caled.

Maen nhw’n dîm gwych o wirfoddolwyr ac maen nhw’n enillwyr haeddiannol iawn o wobr Grŵp Gwirfoddolwyr y Flwyddyn 2024-25. 

 

Da iawn a diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr ni – ni fyddem wedi gallu cyflawni cymaint heb eich help chi.