Bees

Early bumblebee

© Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Dod â gwenyn yn ôl

Cefnogi ein gwaith
Dychmygwch pe bai pawb yng Ngogledd Cymru’n hau dôl fechan yng nghornel pob gardd/buarth eleni, pa wahaniaeth fydden ni’n gallu ei wneud gyda’n gilydd…

Rydyn ni angen gwenyn!

Efallai y byddwch chi’n synnu o ddeall bod tua 270 o rywogaethau o wenyn yn y DU!

Mae’r rhain yn cynnwys 1 rhywogaeth o wenyn mêl, 24 o gacwn ac mae’r gweddill yn wahanol rywogaethau o wenyn unigol o bob lliw, llun a maint. 

Oeddech chi’n gwybod bod gwenyn yn darparu bob trydydd llond ceg o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta i ni? Heb wenyn, ni fyddem yn gallu tyfu llawer o’n hoff fwyd, gan gynnwys tomatos, aeron gleision, mefus a ffa. 

Nid yw’n gyfrinach bod gwenyn a phryfed peillio eraill yn wynebu bygythiadau difrifol oherwydd colli cynefinoedd, afiechydon a gorddefnydd o blaladdwyr, ond gydag ychydig o waith, gall eich gardd chi fod yn gynefin gwych i amrywiaeth eang o rywogaethau o wenyn drwy gydol y flwyddyn.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch helpu gwenyn yn eich gardd ...

Bwydo gwenyn!

Plannwch amrywiaeth eang o blanhigion a llwyni blodau llawn neithdar sy’n blodeuo ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Edrychwch ar ein rhestr o blanhigion ac os oes gennych chi ychydig o bob un fe fyddwch chi’n sicrhau bod neithdar yn eich gardd drwy gydol y flwyddyn.

Plannu ar gyfer peillwyr drwy gydol y tymhorau

Dewiswch gymysgedd o blanhigion, llwyni a choed blodeuo tymhorol i sicrhau ffynhonnell o fwyd drwy gydol y flwyddyn yn eich gardd. Edrychwch ar ein tudalennau am ddolydd am syniadau ar gyfer blodau gwyllt.

Gaeaf:
Grug y gaeaf, mahonia, saffrwm, eirlysiau, collen ystwyth, Viburnum tinus, bocs pêr 

Gwanwyn:
Cynfas biws, alyswm, blodyn y fagwyr bythol piwswyn Bowles, drain duon, clychau’r gog, mwyar duon, glesyn y coed, meillion, cyfardwf, briallu Mair brodorol, saffrwm, blodyn llefrith, dant y llew, calon waedlyd, clafrllys y maes, sgorpionllys, llwyni cwrens blodeuog, grug, swllt dyn tlawd, llysiau’r ysgyfaint, llygad-llo mawr, briallu brodorol, helyg yr afr, helyg llwyd, roced pêr, fioledau, blodyn y fagwyr

Haf:
Aliwm, aster (cyltifarau novi-angliae ac Aster amellus a’i gyltifarau; nid yw’r ddwy rywogaeth yma’n ymledol), troed-y-golomen, tafod yr ych, llysiau’r gwrid y tir âr, lelog Califfornia, clychlys, mintys y gath, cennin syfi, glas yr ŷd, ysgall pengrwn, pig y crëyr, esgalonia, melyn yr hwyr, bysedd y cŵn, grug, pedwar-ban-byd, gwyddfid, ysgol Jacob, clust yr oen, lafant, lobelia, bysedd-y-blaidd, penrhudd, gold, mintys, capan cornicyll, Phacelia tanacetifolia, fflocs, pabi, cor-rosyn, rhosmari, saets, clafrllys, rhywogaethau salfia, celyn y môr, penigan barfog, blodyn haul, teim, ferfain, gwifwrnwydden, gwiberlys, milddail

Hydref:
Mintys y gath, blodyn pigwrn, cosmos, byddon chwerw, amrhydlwyd, grug, eiddew, y bengaled, maglys rhuddlas, blodyn Mihangel, Sedum spectabile ‘Rhewlys’, eurinllys, cribau’r pannwr, asgell

Creu safleoedd nythu

O saerwenyn i wenyn turio, mae gwahanol rywogaethau o wenyn yn dewis amrywiaeth o lefydd i wneud eu cartref. Defnyddir twmpathau glaswelltog gan wahanol rywogaethau o wenyn a chacwn ar gyfer nythu. Hefyd mae’n werth gadael rhai darnau noeth o bridd yn yr ardd, gan fod mwd yn cael ei ddefnyddio gan saerwenyn ar gyfer creu nyth. Mae gwenyn turio’n gwneud eu cartref o dan y ddaear, yn enwedig mewn pridd tywodlyd. 

Gallwch ddarparu safleoedd nythu ychwanegol ar gyfer gwenyn unigol drwy ddrilio tyllau (rhwng 1 a 10mm mewn diametr a 6 i 10cm o ddyfnder) mewn boncyffion neu hen byst ffens mewn safleoedd heulog, neu roi coesynnau gyda thyllau ynddynt at ei gilydd fel safleoedd nythu. Dylid gosod y rhain mewn llecyn heulog / ar wal heulog yn yr ardd.

Dŵr i wenyn

Fedrwch chi greu pwll bywyd gwyllt? Neu, beth am roi potyn yn y ddaear neu fath adar gydag ambell graig yn y dŵr fel bod gwenyn yn gallu ei gyrraedd?

Annog ysglyfaethwyr naturiol

  • Mewn gardd fywyd gwyllt, rydyn ni’n ceisio sefydlu ecosystem fechan gytbwys yn ecolegol.   
  • Felly peidiwch â defnyddio cemegau fel plaladdwyr na ffyngladdwyr yn eich gardd.  
  • Bydd y rhain yn lladd gwenyn pwysig. Yn hytrach, ewch ati i annog ysglyfaethwyr naturiol. 

Gwneud bocs gwenyn

Dyma ganllaw Nick Baker ...

WAG_Bee booklet cover

Lawrlwytho ein canllaw i helpu gwenyn

Nid yw’n gyfrinach bod llawer o beillwyr yn wynebu bygythiad. Mae defnydd ansensitif o dir, llai o rywogaethau o blanhigion a defnyddio pryfladdwyr wedi cael eu cysylltu i gyd â’r dirywiad yn nifer y gwenyn. Mae hyn yn newyddion drwg i ni ac iddyn nhw. Ond fe allwch chi helpu ...