Wedi'i sefydlu yn 2010, fel is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, mae Enfys Ecology yn darparu ystod eang o wasanaethau ecolegol a rheoli cynefinoedd ledled Gogledd Cymru, ac yn ymestyn i Swydd Caer, Swydd Amwythig a Phenrhyn Cilgwri.
Mae ei gleientiaid yn cynnwys datblygwyr diwydiannol ar raddfa fawr, adeiladwyr tai, penseiri, ymgynghorwyr a pherchnogion tai preifat.
Mwy o wybodaeth am y gwasanaethau y gall Enfys Ecology eu darparu
Pam dewis Enfys Ecology?
Mae gan Enfys Ecology enw da am ddarparu gwasanaeth cost-effeithiol o'r ansawdd uchaf bob amser yn seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd lleol heb eu hail.
Mae elw Enfys yn mynd tuag at ein cenhadaeth ni i ddod â bywyd gwyllt yn ôl, grymuso pobl i weithredu dros fyd natur a chreu cymdeithas lle mae byd natur yn bwysig.
Mae Enfys Ecology yn aelod o rwydwaith Ymgynghoriaeth yr Ymddiriedolaethau Natur ac mae ganddo nifer o achrediadau, gan gynnwys ISO 9001, ISO 14001, a Chontractwr Diogel, gan ddangos ymrwymiad i ansawdd, cynaliadwyedd a safonau uchel o ran iechyd a diogelwch.
Ymholiadau a dyfynbrisiau ar gyfer gwaith
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch unrhyw un o'n gwasanaethau, ewch i'n gwefan ni, www.enfysecology.co.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost atom ni: info@enfysecology.co.uk
Os hoffech chi ofyn am ddyfynbris cliciwch yma
Sylwch: Nid ydym yn gallu ateb unrhyw ymholiadau cyffredinol am fywyd gwyllt, dylech anfon neges ynghylch hynny i: info@northwaleswildlifetrust.org.uk