Build a bat box

A close up of a Leisler's bat, a small fluffy brown bat with quite large ears. Lying on a rock facing left, with it's wings folded up beside it like arms and it's nose pointing upwards. The rock surface behind it appears to have a crevice, where the bat may have emerged from.

Leisler's bat © Tom Marshall

Ynfyd am ystlumod!

Cefnogi ein gwaith

Rhoi help llaw i ystlumod

Mae ystlumod yn hoffi clwydo mewn hen goed gwag ond yn anffodus mae llai o’r rhain ar gael mewn coetiroedd sy’n prinhau heddiw a pharciau a gerddi taclus – felly mae llai o ystlumod! Felly ewch ati yn yr hydref i wneud bocsys ystlumod ac, erbyn yr haf, byddwch yn gallu darparu cartrefi y mae eu gwir angen i ystlumod digartref! 

Wild About Gardens_bat booklet

Lawrlwythwch eich canllaw i helpu ystlumod

Ystlumod yw sêr y nos, i’w gweld yn gwibio drwy awyr y nos yn chwilio am ysglyfaeth. Heb lawer o ddealltwriaeth ohonyn nhw, beth yw’r gwirionedd am y mamaliaid enigmatig yma?

Sut i greu bocs ystlumod

Dilynwch y camau syml yma i greu bocs ystlumod...

Bydd arnoch angen y canlynol...

  • Pren meddal heb ei blaenio na’i drin ac wedi’i dorri yn arw, 150mm o led x 1500mm o hyd x 25mm o drwch
  • Rwber sgrap, fel hen diwb mewnol teiar              
  • Hoelion 40mm neu 45mm wedi’u galfaneiddio
  • Llif saer coed          
  • Morthwyl
  • Pensil a phren mesur
  • Siswrn ar gyfer torri rwber

Marcio

  • Marciwch banelau’r bocs gyda phensil a phren mesur i’r dimensiynau sydd wedi’u nodi.
  • Ysgrifennwch enw bob panel ar y pren sydd wedi’i farcio (bydd hyn yn arbed dryswch yn nes ymlaen, coeliwch chi ni).
  • Os yw hynny’n bosib, ceisiwch sicrhau bod y graen yn rhedeg yn fertigol yn y bocs gorffenedig – bydd hyn yn helpu gyda draenio.

 

Cyngor doeth

Ar gyfer ystlumod mawr – Cynyddwch uchder yr ochrau i 240mm/300mm, uchder y blaen i 240mm, a hyd y plât cefn i 460mm.

Torri

Llifiwch y panelau ar wahân. Sylwch y bydd rhaid i chi wneud toriad ar ogwydd rhwng y panel blaen a’r to, ar ongl o 22°.

Gwneud y bocs yn arw

Os yw’r pren wedi cael ei blaenio neu os yw’n llyfn iawn, llifiwch doriadau 1mm o ddyfnder yn y plât cefn bob 10mm. A chofiwch – ni ddylid defnyddio unrhyw driniaethau neu gadwolion ar bren eich bocs. Gall hyn ladd ystlumod.

Hoelion

  • Dechreuwch drwy hoelio’r ochrau ar y plât cefn. Mae’r ochrau’n cael eu gosod y tu allan i led y plât cefn, wedi’u hoelio ar drwch 25mm y pren. Gosodwch yr ochrau 80mm i fyny o waelod y plât cefn fel bod ‘tinbren’ yr hyd yma’n gwthio o dan lefel y bocs.                  
  • Hoeliwch y panel llawr ar y panelau ochr fel ei fod yn asio’n daclus gyda’r rhain yn y blaen. Dylech fod â hollt mynediad yng ngwaelod y bocs, rhwng y panel llawr a’r plât cefn.
  • Dylai’r hollt mynediad fod yn 10mm o led (dim lletach na 15mm) a rhedeg ar hyd lled y bocs.
  • Hoeliwch yr holl banelau eraill yn eu lle ac eithrio panel y to.

Ychwanegu’r to

Gosodwch y panel to yn ei le gyda ‘cholfach’ fflap rwber wedi’i wneud o rwber sgrap. Dylai hwn orchuddio’r uniad rhwng y to a’r plât cefn yn llwyr er mwyn dal dŵr. Hoeliwch y rwber yn y plât cefn i ddechrau ac wedyn ei dynnu’n dynn dros yr uniad a’i hoelio ar y to. Dylai’r to allu codi i ffwrdd fel caead.

Ble i roi’r bocs

Dylid gosod bocsys ystlumod o leiaf 3 metr uwch ben y ddaear (5 metr ar gyfer ystlumod mawr) mewn lleoliad sy’n cael rhywfaint o haul uniongyrchol am ran o’r dydd, gyda llwybr hedfan clir i’r bocs, ond hefyd os yw’n bosib gyda rhywfaint o goed gerllaw, i warchod rhag y gwynt. Mae bargod to, ar wal neu wedi’i osod ar goeden yn safleoedd addas.

Galw heibio

I weld a yw eich bocs ystlumod yn cael ei ddefnyddio, heb darfu ar y trigolion, edrychwch ar y ddaear islaw am dail ystlumod.

Ein canllaw defnyddiol

Make your own bat box_Activity Sheet