Tegeirianau

Greater butterfly orchid

Greater butterfly orchid_Philip Precey

Ble mae gweld tegeirianau

Tegeirianau

Tegeirianau yw sêr mawr byd y blodau gwyllt. Yr haf yma, chwiliwch am y dynwaredwyr direidus yn twyllo’u peillwyr neu ewch ati i arogli persawr y tegeirian pêr.

Chwilio am degeirianau yn eich ardal chi

Mae posib gweld tegeirianau ledled Gogledd Cymru, yn blodeuo rhwng mis Ebrill a mis Medi, ac yn anterth eu tymor blodeuo o fis Mai ymlaen. Er ei bod yn demtasiwn efallai, peidiwch â chasglu’r blodau yma. Mae tegeirianau’n edrych ar eu gorau allan yn y gwyllt ac mae rhai rhywogaethau’n cael eu gwarchod gan y gyfraith, felly fe allech chi fod yn troseddu.

Y llefydd gorau i’w gweld yw Cors Goch, Ynys Môn a Chwarel y Mwynglawdd ger Wrecsam; sy’n enwog am eu hamrywiaeth eang o degeirianau, fel y tegeirianau pigfain, porffor y gwanwyn a brych cyffredin, y ddwyddalen gyffredin a chaldrist y gors. Ond o ran eu niferoedd, mae’n anodd iawn curo tegeirianau llydanwyrdd mwyaf Caeau Tan y Bwlch, i’r de o Gaernarfon.

Am beth ddylech chi chwilio

Yr allwedd i ddod o hyd i degeirianau yw gwneud eich ymchwil ymlaen llaw; targedu’r cynefinoedd priodol ar yr adegau iawn o’r flwyddyn. Mae llawer o ffynonellau o wybodaeth ar gael: cysylltwch os ydych chi eisiau help.

Ar laswelltiroedd calchfaen, cadwch lygad am bigau blodau pinc y tegeirianau pigfain a phigau silindrog talach y tegeirianau pêr, sy’n arogli’n felys, yn enwedig gyda’r nos. Byddwch yn ofalus iawn ble rydych chi’n rhoi eich traed: yn ogystal â’r pigau blodau amlwg, bydd llawer o rubanau dail nad ydynt yn blodeuo ac ni ddylech sathru’r rhain.

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

O blith y tua hanner cant o rywogaethau brodorol yn y DU, mae rhai’n syndod o gyffredin ac eang, ac mae eraill yn rhywogaethau prin iawn sydd ond i’w gweld mewn llecynnau dethol. Yr allwedd i ddod o hyd i degeirianau yw gwneud eich ymchwil ymlaen llaw; targedu’r cynefinoedd priodol ar yr adegau iawn o’r flwyddyn.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.