Da ddwywaith!
Drwy brynu bwyd adar a theclynnau bwydo adar gan Vine House Farm Bird Foods, rydych chi nid yn unig yn gofalu am adar gwyllt yn eich gardd, ond hefyd yn gofalu am y bywyd gwyllt a’r llefydd gwyllt lle rydych chi’n byw, gan fod pob gwerthiant yn creu cyllid i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Felly mae’n dda ddwywaith i fywyd gwyllt!
Pum Rheswm i brynu gan Vine House Farm Bird Foods
- Mae Vine House Farm Bird Foods yn rhoi 4% o bob pryniant yn eich ardal chi i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Os ydych chi’n gwsmer newydd, bydd Vine House Farm Bird Foods hefyd yn rhoi £10 ychwanegol i’r Ymddiriedolaeth!
- Mae’r rhan fwyaf o’r cymysgeddau hadau’n cael eu tyfu ar y fferm yma sydd wedi ennill gwobr gadwraeth, lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu.
- Mae pob pris yn cynnwys dosbarthu’n uniongyrchol o’r fferm, heb unrhyw gostau cudd, a dosbarthu’r diwrnod canlynol (felly peidiwch â phoeni am orfod ei gario adref o’r siop).
- Amrywiaeth eang o fwyd adar, teclynnau bwydo, bocsys nythu ac ategolion.
- Gwasanaeth rhagorol a chyfeillgar i gwsmeriaid gyda gwybodaeth a chyngor gwych am fwydo adar yr ardd.
Ymrwymiad i’r Ymddiriedolaethau Natur
Hyd yma, mae’r bartneriaeth rhwng Vine House Farm Bird Foods a’r Ymddiriedolaethau Natur wedi codi swm anhygoel o £1.25 miliwn, gan gynnwys mwy na £13,000 i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Prynwch fwyd a theclynnau adar yn uniongyrchol gan Vine House Farm Bird Foods a helpu i godi mwy fyth o arian i gefnogi bywyd gwyllt a llefydd gwyllt yn eich ardal chi.
Am Vine House Farm Bird Foods
Mae partneriaeth yr Ymddiriedolaethau Natur gyda Vine House Farm Bird Foods wedi ysbrydoli a galluogi pobl i ofalu am y bywyd gwyllt yn eu gardd ers mwy na deng mlynedd. Mae bwydo hadau adar gwyllt o Vine House Farm Bird Foods, sydd wedi’u tyfu ganddyn nhw ar eu fferm gyfeillgar i fywyd gwyllt yn Swydd Lincoln, wedi galluogi degau ar filoedd o bobl i fwynhau pleserau bywyd gwyllt yn eu gerddi, a hefyd cefnogi bywyd gwyllt a llefydd gwyllt agos i’w hardal hwy.
Mae pob pryniant yn codi arian ar gyfer eu Hymddiriedolaeth Natur leol. Mewn deng mlynedd, mae’r bartneriaeth wedi codi mwy nag £1.25m; lefel na welwyd ei thebyg o’r blaen o gefnogaeth i elusen gan fusnes teuluol bychan, sy’n ein galluogi ni i helpu llawer mwy o bobl i fwynhau pleserau bywyd gwyllt.
Robert, Nicholas & Lucy © Vine House Farm Bird Foods
© Vine House Farm Bird Foods
Cefnogwch Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Helpwch i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a chefnogi bywyd gwyllt a llefydd gwyllt eich ardal chi. Prynwch fwyd a theclynnau adar yn uniongyrchol gan Vine House Farm Bird Foods.