Bydd afancod yn helpu adferiad natur yng Nghymru
Mae afancod yn adnabyddus am eu gallu rhyfeddol i reoli cynefinoedd tir gwlyb, gan anadlu bywyd newydd ynddynt er budd bywyd gwyllt a phobl.
Afancod yng Nghymru
Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran y pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru fel rhan o’n strategaeth Tirweddau Byw a nawr rydyn ni’n gobeithio ailgyflwyno afancod i Gymru dan reolaeth.
Mae afancod yn cael eu hadnabod fel peirianwyr byd natur. Mae’n nhw’n creu newidiadau i’w cynefinoedd sy’n creu gwlybdiroedd amrywiol i rywogaethau eraill ffynnu.
Pam mae afancod yn bwysig?
Roedd afancod i’w gweld yn eang ledled Cymru ar un adeg, ond oherwydd eu bod wedi cael eu hela gan ddyn am eu ffwr, eu cig a’u chwarennau sawr, fe’u gwelwyd yn diflannu ar ôl y Canol Oesoedd yng Nghymru ac, erbyn diwedd yr 16eg Ganrif, roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.
Mae afancod yn anifeiliaid arbennig iawn oherwydd maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn cyfoethogi bioamrywiaeth drwy adfer a rheoli ecosystemau afonydd a gwlybdiroedd. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ‘rhywogaeth gonglfaen’ am fod eu gweithgareddau’n gallu bod o fudd i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill sy’n byw mewn afonydd a gwlybdiroedd.

Beaver family © Jeremy Usher Smith
Dod yn hyrwyddwr afancod
Ydych chi eisiau cael y newyddion diweddaraf am afancod a sut gallwch chi helpu? Os felly, tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr am afancod ...

Beaver © Nick Upton/Cornwall Wildlife Trust
Ymweld â’n hafancod
Bydd afancod yn cael eu rhyddhau i ardal gaeedig yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn, lle byddant yn cynorthwyo gyda rheoli cynefinoedd y warchodfa. Ar ôl i’r afancod setlo yn eu cartref newydd, byddwch yn gallu ymweld. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan!
Diolch i bawb a ymatebodd i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y safle caeedig i afancod ar Gors Dyfi. Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben erbyn hyn ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich holl gefnogaeth. Ar hyn o bryd rydym yn aros am adborth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a byddwn yn siŵr o roi gwybod i chi unwaith y bydd gennym rywfaint o newyddion.

European beaver swimming © Chris Robbins
Dangos eich cefnogaeth i’n hafancod
Cyfrannu nawrEisiau gwybod mwy?
Mae afancod yn greaduriaid rhyfeddol ac mae gennym ni lawer iawn o wybodaeth y byddem yn hoffi ei rhannu gyda chi ... Ffeithiau am afancod, astudiaethau achos a sut gallwn ni ddysgu byw gyda nhw eto!

Beaver in vegetation by David Parkyn @cornwall wildlife trust
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn chwarae rhan bwysig iawn mewn gwarchod ein treftadaeth naturiol. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n poeni am fywyd gwyllt i ymuno â nhw.
Ein Cynlluniau
Cynhaliwyd astudiaethau ymarferoldeb yn 2008 ac rydyn ni wedi cyflwyno cais am drwydded yn ddiweddar i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am ailgyflwyno afancod dan reolaeth i Afon Dyfi. Bydd hwn yn beilot 5 mlynedd i fonitro effeithiau afancod yn y gwyllt yng Nghymru. Rydyn ni wedi sefydlu Rhwydwaith Rheoli Afancod fel rhan o’n cynigion ac mae hyn yn cynnwys sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr afancod a fydd wrth law i ddelio ag unrhyw broblemau sy’n cael eu hachosi gan afancod, fel ein bod ni i gyd yn gallu mwynhau’r manteision mae afancod yn eu cynnig.
Ymhen amser, bydd ymgynghoriad cyhoeddus o dan arweiniad CNC i bobl gael lleisio eu barn ac wedyn gobeithio y bydd afancod yn ôl yn nhirwedd Cymru unwaith eto. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi!