Cyngor am fywyd gwyllt

Hedgehog

Hedgehog curled up in Autumn leaves- Tom Marshall

Gweithredu

Cyngor am fywyd gwyllt

Gwybodaeth a chyngor am fywyd gwyllt

Eisiau gwneud cartref i fyd natur yn eich gardd? Wedi gweld rhywogaeth ddiddorol yn eich ardal leol ac eisiau rhoi gwybod amdani? Wedi dod o hyd i anifail wedi’i anafu neu ei olchi i’r lan? Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin isod ac efallai y bydd posib i ni helpu!

Cwestiynau Cyffredin am Fywyd Gwyllt

C: Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn dod o hyd i aderyn sâl neu wedi cael anaf?

A: Oni bai fod yr aderyn mewn perygl mawr, y peth gorau i’w wneud ydi ei adael ble mae. Yn y gwanwyn a’r haf, mae adar yn dechrau gadael y nyth a bydd cywion ifanc i’w gweld ar y ddaear yn aml, yn edrych fel pe baen nhw ar eu pen eu hunain. Ond nid yw hyn yn wir yn aml, a bydd y rhieni yn ymyl yn aml, yn chwilio am fwyd ac yn cadw llygad barcud ar eu cyw. Os yw’r aderyn ar ffordd neu lwybr troed prysur, neu os yw mewn perygl oherwydd bod ysglyfaethwr yn mynd i ymosod arno, mae posib symud yr aderyn fel sydd raid, ond rhaid iddo fod o fewn clyw ei rieni o hyd, oherwydd fe fyddan nhw yn ymyl. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan genedlaethol yr Ymddiriedolaethau Natur.

C: Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn dod o hyd i anifail sâl neu wedi cael anaf?

A: Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn elusen lles ac felly nid yw’n gallu darparu cyfleusterau gofal nac adfer i fywyd gwyllt sâl neu wedi cael anaf. Cysylltwch â’r RSPCA neu ewch i wefan HelpWildlife. Fel dewis arall, gallwch gysylltu ag un o’r arbenigwyr lleol isod, ond cofiwch nad ydyn nhw’n gallu darparu cludiant fel rheol.

Ymddiriedolaeth y Tylluanod
theowlstrust.org/
Rhif Ffôn: 01492 870719
Symudol: 07776 416922

Ymddiriedolaeth y Wiwer Goch yng Nghymru
www.redsquirrels.info/
Rhif Ffôn: 07966150847

RSPB
www.rspb.org.uk/
Rhif Ffôn: 01767 693690

Grŵp Moch Daear Clwyd
www.clwydbadgergroup.org.uk/
Rhif Ffôn: 01244 544823

C: Sut gallaf i helpu bywyd gwyllt yn fy ngardd?

A: Mae sawl ffordd i chi helpu bywyd gwyllt yn eich gardd eich hun, o greu gwesty i drychfilod a blychau nythu i adar i ddarparu llecynnau gaeafgysgu i lyffantod a brogaod. Ewch i’n hadran garddio er lles bywyd gwyllt am syniadau ac ysbrydoliaeth.

C: Sut mae rhoi gwybod am weld bywyd gwyllt yn fy ardal i?

A: Cofiwch ddweud wrthym ni am y bywyd gwyllt rydych chi wedi’i weld yng Ngogledd Cymru ac yn ein gwarchodfeydd ni! Bydd eich gwybodaeth chi’n cynyddu ein gwybodaeth ni am fywyd gwyllt Gogledd Cymru a’i ddosbarthiad, ac yn ein helpu ni i wneud gwell penderfyniadau am reoli cadwraeth. Mae posib i chi gyflwyno eich cofnodion bywyd gwyllt i Cofnod, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru 

Byddant eisiau gwybod: 

  • Beth – y rhywogaeth (a’r nifer os oedd mwy nag un)
  • Pryd – dyddiad ei gweld
  • Ble – lleoliad ei gweld (cyfeirnod grid neu god post sydd orau)
  • Pwy – manylion cyswllt rhag ofn bydd angen rhagor o fanylion

C: Sut gallaf i roi gwybod am drosedd yn erbyn bywyd gwyllt?

A: Mae rhoi gwybod am droseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu cofnodi’n ffurfiol ar gyfrifiadur yr heddlu, gan alluogi ymchwil haws i droseddau bywyd gwyllt yn nes ymlaen, os bydd angen. Does dim rheswm i fynd at unigolion sy’n cyflawni troseddau. I roi gwybod am drosedd bywyd gwyll:

  • Ffoniwch yr heddlu ar 101
  • Nodwch eich bod yn rhoi gwybod am drosedd
  • Rhowch y manylion perthnasol
  • Gofynnwch am rif digwyddiad
  • Gofynnwch am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y canlyniadau

Am fwy o wybodaeth am Droseddau Bywyd Gwyllt yng Ngogledd Cymru a manylion cyswllt y Swyddogion Troseddau Bywyd Gwyllt, ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru.

 

C: Sut mae rhoi gwybod am anifail wedi’i olchi i’r lan?

A: Os byddwch yn dod o hyd i anifail mawr MARW ar lan y môr (morfil, dolffin, llamhidydd, heulforgi, crwban) cysylltwch â Rhaglen Ymchwilio i Forfilod Wedi Tirio y DU ar 0800 652 0333. Bydd hyn yn helpu gyda chreu darlun manwl gywir o fywyd gwyllt y môr yn y DU, ac yn rhoi gwybodaeth werthfawr am yr hyn sy’n achosi marwolaethau. 

Os byddwch yn dod o hyd i anifail BYW wedi tirio, ffoniwch Wasanaeth Achub Bywyd y Môr Deifwyr Prydain (www.bdmlr.org.uk) ar 08125 765546 neu 07787 433412 (tu allan i oriau); neu’r RSPCA ar 0300 123 4999.

C: Sut mae cael arolwg ecolegol er mwyn sicrhau caniatâd cynllunio?

A: Er mwyn cael arolwg ecolegol i sicrhau caniatâd cynllunio, cysylltwch ag Enfys Ecology gyda manylion eich datblygiad arfaethedig, ffotograffau ac unrhyw adborth rydych chi wedi’i dderbyn eisoes efallai gan ecolegydd y Cyngor Sir. Bydd yr arolwg fydd ei angen yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n bwriadu ei wneud. Os yw’n effeithio ar dir heb ei ddatblygu, mae’n debyg y bydd angen gwerthusiad ecolegol rhagarweiniol (PEA) neu asesiad ecolegol / arolwg cynefin Cam 1. Os yw’r gwaith yn ymestyn neu’n trawsnewid eiddo, mae’n debygol y bydd gofyn cynnal arolwg ar rywogaethau dan warchodaeth yn edrych am ystlumod ac adar.

www.enfysecology.co.uk

Dod yn aelod er mwyn parhau â’n gwaith

Bydd eich aelodaeth yn cefnogi prosiectau cadwraeth ac addysg hanfodol yr Ymddiriedolaeth ledled y rhanbarth, gan gynnwys adfer cynefinoedd, gwarchod rhywogaethau a chynnal ein gwarchodfeydd natur.

Dod yn aelod