Cefnogaeth Corfforaethol

Village Bakery wildflower meadow
EIN CEFNOGI NI

Mae natur yn llesol i fusnes

Mae ein byd ni mewn argyfwng - gallwch chi fod yn rhan o'r ateb

Rydyn ni'n gwybod bod byd natur yn llesol i ni, ond mae niferoedd enfawr o bobl yn methu elwa o'i fanteision. Yn yr un modd, mae ein llefydd gwyllt ni'n gallu amsugno llawer iawn o garbon a nwyon tŷ gwydr eraill, ond mae’r DU yn un o’r llefydd sy’n colli ei fyd natur ar y raddfa fwyaf yn y byd.

Os gwnawn ni weithredu nawr i ddiogelu llefydd gwyllt ac adfer y rhai sydd wedi’u difrodi, gallwn ddechrau ennill y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol a dod â bywyd gwyllt yn ôl i fywydau pawb.

Drwy weithio mewn partneriaeth â ni, gallwch nid yn unig helpu adferiad byd natur yng Ngogledd Cymru ond hefyd cyflawni gofynion eich Polisi Cyfrifoldeb Corfforaethol, gwella eich proffil a delwedd eich brand, ac ymgysylltu â'ch staff a'u hysbrydoli.

Dod yn aelod corfforaethol

Mae Iolo Williams, naturiaethwr a darlledwr, yn dweud: “Rydw i wrth fy modd yn cael cefnogi cynllun Partneriaid Naturiol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gan wneud yn siŵr y bydd bywyd gwyllt yn dal i fodoli ar gyfer y cenedlaethau sydd eto i ddod. Plis helpwch nhw gyda’u gwaith.”

Cofrestru eich diddordeb heddiw
ladybird

Jon Hawkins, Surrey Hills Photography

Mynd â'ch tîm ar ddiwrnod gwaith gwyllt

Gall eich gweithwyr chi elwa o’n dyddiau gweithgarwch wedi’u trefnu sydd nid yn unig yn cefnogi meithrin tîm ond sydd wedi’u profi i wella teimladau’r cyfranogwyr o les.

Cysylltu â ni i drafod syniadau
A swift in flight

Swift ©David Tipling/2020VISION

Rheoli eich tir ar gyfer bywyd gwyllt

Gallwn ddarparu cyngor ar reoli tir i helpu eich busnes i greu gofod ar gyfer byd natur a gallwn weithio gyda chi i ennill cydnabyddiaeth achrededig.

Gwella eich rhinweddau bywyd gwyllt

Codi arian i ni

Mae ein pecyn codi arian yn llawn syniadau! Os hoffech chi drosglwyddo unrhyw elw neu ddim ond rhoi anrheg, gallwch hefyd ddefnyddio ein bocs ‘Cyfrannu rhodd’ isod.

Gwybodaeth am godi arian

Bydd gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn helpu eich busnes i gyflawni ei amcanion ac yn dangos eich ymrwymiad i'r amgylchedd rydyn ni'n ei rannu.

Gwnewch rodd

Mae eich rhodd yn ein helpu ni i greu amgylchedd sy'n llawn bywyd gwyllt, a gwerthfawrogwyd gan pawb.
£
Mae Toyota wedi ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau lleol i wella a hyrwyddo'r amgylchedd rydym yn gweithredu ynddo. Drwy weithio gydag YNGC fel Partner Naturiol, rydym wedi elwa'n fawr o'u harbenigedd a'u profiad ac, yn eu tro, felly hefyd ein haelodau, eu teuluoedd a'u cymunedau. Rydym yn falch o gael ein gweld fel cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth ac yn cydnabod pwysigrwydd annog a meithrin diddordeb mewn bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, sydd o'n cwmpas ni ym mhob man.
Martin Fry
Toyota Manufacturing (UK) Ltd
Rowan Foods volunteering
Cefnogwyr Corfforaethol

Ein aelodau busnes

Gweld pwy sy’n gwneud gwahaniaeth ...

Sefydlu partneriaethau strategol

Rydyn ni'n credu, drwy sefydlu achos cyffredin gyda chwmnïau sy'n rhannu ein pryder am yr amgylchedd, y gallwn gyflawni mwy dros fywyd gwyllt gyda'n gilydd nag y byddem ar ein pen ein hunain. Rydyn ni'n gweithio gyda busnesau mewn sawl ffordd – o bartneriaethau elusennol ac ymgysylltu â chyflogeion cwmni i ddarparu cyngor ymgynghorol – ond wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud mae ein cenhadaeth i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a chefnogi mynediad pobl at fyd natur.

Mwy o ffyrdd o weithio gyda ni

Rhoddion unigol

  • Derbynnir rhoddion busnes yn ddiolchgar ar-lein. Gallwch hefyd gysylltu â ni a byddwn yn anfon manylion banc BACS atoch chi.
  • Os hoffech chi ddweud wrth eich cwsmeriaid eich bod yn gwneud cyfraniad mewn perthynas â gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau, efallai y bydd angen i chi ymrwymo i Gytundeb Cyfranogiad Masnachol gyda ni i gydymffurfio â chyfraith elusennau a chodi arian.

Cysylltwch â ni

Canrannau elw/gwerthiant

  • Gall dewis rhoi canran sefydlog (neu swm sefydlog) o'ch elw/gwerthiant, boed fel busnes yn gyffredinol neu ar gyfer eitemau unigol, wneud byd o wahaniaeth i gwsmeriaid.
  • Os hoffech chi ddweud wrth eich cwsmeriaid eich bod yn gwneud cyfraniad mewn perthynas â gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau, efallai y bydd angen i chi ymrwymo i Gytundeb Cyfranogiad Masnachol gyda ni i gydymffurfio â chyfraith elusennau a chodi arian.

Cysylltwch â ni

Nawdd

Diddordeb mewn cefnogi agwedd benodol ar ein gwaith? Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am fuddsoddi mewn amrywiaeth o brosiectau bywyd gwyllt a phobl, gan gynnwys gwaith mewn gwarchodfeydd natur unigol, adfer cynefinoedd, ailgyflwyno rhywogaethau, cefnogi lles cymunedol neu ysgogi cyfleoedd cyflogaeth gwyrdd.

Cysylltwch â ni

Cyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau

Dywedwch wrthym sut bydd eich busnes, cynnyrch neu wasanaeth yn cyfrannu at ein nodau a’n hamcanion amgylcheddol – byddem wrth ein bodd yn clywed eich awgrymiadau.

Cysylltwch â ni

Syniadau partneriaeth eraill

Does gennym ni ddim rhestr bendant o ffyrdd i fusnesau ffurfio partneriaeth gyda ni! Os hoffech chi drafod eich syniadau, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni