Ar draws y byd ac yma yng Nghymru, mae'r nifer o rywogaethau ymledol yn codi ac maent yn un o'r prif resymau yr argyfwng natur. I ddelio gyda hyn yn effeithiol rydym angen deall yn well effeithiau gwahanol rywogaethau ymledol, megis ar ein rhywogaethau brodorol.
Nod y prosiect hwn yw profi os gall gwyddonwyr dinesig recordio yn llwyddiannus effeithiau planhigion ymledol. Gall rhywun o Loegr, Yr Alban neu Gymru gymryd rhan yn y prosiect hwn.
Mae'r prosiect ymchwil hwn yn cael ei gynnal gan Brifysgol Coventry gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac yn cael ei gyllido gan y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Naturiol.