Plannu coed a gwrychoedd

Crab Apple Tree

©Anna Williams

Plannu coed a gwrychoedd

Ers yr Ail Ryfel Byd rydym wedi colli 160,000km o wrychoedd oherwydd amaethu dwys.

Plannu gwrych

Mae gwrychoedd brodorol yn ychwanegu cysgod gwerthfawr at eich gardd ac mae'n un o'r pethau cyntaf y dylech ystyried ei blannu yn eich ardal bywyd gwyllt.

Mae'r gwrychoedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt yn drwchus gydag amrywiaeth o rywogaethau coediog fel drain gwynion, drain duon, masarn bach, cyll, piswydd, gwifwrnwydd a cherddin gwyllt gyda derw, ynn a choed safonol eraill yn ychwanegol yn achlysurol (wedi’u tocio weithiau).

Ers yr Ail Ryfel Byd rydym wedi colli 160,000km o wrychoedd oherwydd amaethu dwys.

Mae'n sicr wedi cyfrannu at ddirywiad yn niferoedd gwenyn gwyllt, glöynnod byw, draenogod, adar ac ati ym Mhrydain.

Felly, cofiwch blannu gwrych i ddarparu cynefin gwerthfawr i'n bywyd gwyllt.

 

Sut i blannu gwrych

Gellir plannu gwrychoedd mewn rhesi sengl neu dwbl. Os mai dim ond lle ar gyfer gwrych un rhes sydd gennych chi, bydd arnoch angen tua 3 coeden/metr. Gadewch ddigon o le i'ch gwrych dyfu’n llwyn trwchus.

Ar gyfer gwrych rhes dwbl bydd arnoch angen 6 choeden ar gyfer pob metr. Marciwch y rhesi tua 50 i 60cm ar wahân a'u plannu mewn patrwm cyferbyniol. Plannwch wrych rhes dwbl os oes gennych chi le.

Coed gwrych brodorol sydd orau (a rhataf) a’u plannu fel egin-goed gwreiddiau noeth yn ystod misoedd y gaeaf. Gellir plannu'r rhain yn gyflym drwy greu hollt syml gyda rhaw finiog.

Pryd i blannu gwrych         

Plannu gwreiddiau noeth neu bêl gwreiddiau

  • Plannwch wrychoedd collddail yn yr hydref neu'r gaeaf, Tachwedd - Chwefror
  • Peidiwch â phlannu os yw'r pridd yn llawn dŵr neu wedi rhewi
  • Gwrychoedd bytholwyrdd neu led-fytholwyrdd ddechrau'r hydref, ond gellir eu plannu Hydref - Chwefror
  • Gellir plannu planhigion mewn potiau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn mewn gwirionedd ond misoedd yr hydref/gaeaf sydd orau ar gyfer llwyddiant.

Rhoi cyfle i’ch gwrych

Mae'n syniad da iawn rhoi rhywfaint o domwellt i lawr; naill ai plannu drwy haenen chwyn ac ychwanegu rhisgl coed ar ei ben neu roi haen drwchus o risgl coed o amgylch y coed.

Mae coed ifanc angen sefydlu cyn cael eu hamgylchynu gan laswellt tal a chwyn eraill.

Peidiwch ag anghofio dyfrio eich gwrych newydd ei blannu a thrwy gyfnodau o dywydd sych.

Planhigion gwrych brodorol

Drain gwynion, cyll, celyn, piswydd, afalau surion, masarn bach, ffawydd, drain duon, rhosod gwyllt, cwyros, ysgaw, rhosod gwyllt gwyn, gwyddfid (fel ychwanegiad at blanhigion eraill), gwifwrnwydd y gors, gwifwrnwydd, cerddin gwyllt, yswydd gwyllt a derw – gellid gadael rhai i dyfu i fod yn goed mawr os yw hynny’n bosibl

Planhigion gwrych anfrodorol

Nid yw Berberis, Escallonia a Pyracantha yn frodorol ond maent yn gwneud gwrychoedd da yn llawn neithdar ac aeron.          

Cynnal a chadw

Er mwyn i wrych newydd dyfu’n drwchus, mae angen ei docio bob blwyddyn, ar wahân i flwyddyn y plannu.

Os ydych chi’n torri eich gwrych bob blwyddyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny yn ystod misoedd y gaeaf cyn tymor nythu’r adar.

Unwaith y bydd eich gwrych wedi sefydlu, y ffordd orau i reoli gwrych ar gyfer bywyd gwyllt yw drwy ei blygu. Diwedd y gaeaf yw’r cyfnod gorau i blygu gwrych, cyn y tymor nythu a phan mae’r rhan fwyaf o aeron wedi'u bwyta.

Coed

Mae coed yn ychwanegu diddordeb a strwythur i'ch gardd. Os yw eich gardd yn fach mae'n rhaid i chi feddwl yn ofalus pa goed i'w defnyddio a ble i'w plannu. Dylech osgoi cysgodi eich terfyn neithdar neu eu plannu'n rhy agos at eich pwll.

Sut i blannu coeden

Palwch dwll mawr ar gyfer eich coeden ac os yw'r pridd yn wael, ychwanegwch rywfaint o gompost cartref wrth blannu. Gwnewch yn siŵr bod y coed yn cael eu plannu'n ddigon dwfn a'ch bod yn eu gosod yn eu lle’n gadarn ac yn ofalus. Nid yw coed yn hoffi 'siglo yn y twll'.  Os yw eich coed mewn potiau, gwnewch yn siŵr bod lefel derfynol y pridd yr un fath ag yn y pot.

Dylech osgoi defnyddio ffyn cynnal oni bai ei fod yn safle gwyntog iawn. Os byddwch yn gosod ffyn cynnal yn eu lle, gosodwch nhw'n isel a gwnewch yn siŵr na all eich coeden rwbio ar y ffon gynnal. Gosodwch y ffon gynnal yn erbyn y gwynt o'r goeden fel bod y goeden yn gwyro oddi wrth y ffon. Defnyddiwch gwlwm rhwber (mae hen diwbiau mewnol beiciau yn dda). Pwysig: cofiwch lacio'r cwlwm o amgylch y goeden wrth iddi dyfu'n hŷn ac wrth i'r boncyff fynd yn fwy. Os nad ydych chi’n gallu cadw llygad ar y cwlwm / ffon gynnal, mae'n bur debyg ei bod yn well peidio â'u defnyddio. Mae gormod o goed sy’n cael eu plannu’n cael eu difrodi gan ddefnydd gwael o ffyn cynnal.

Cofiwch ddyfrio’r goeden yn dda nes ei bod wedi sefydlu.

Coed o faint canolig

Bedw, coed ceirios yr adar, afalau surion, ysgaw, masarn bach, gwifwrnwydd y gors, drain gwynion, cyll, celyn, criafol, piswydd, helyg a choed ffrwythau.

Coed mawr

Derw, ceirios gwyllt, ynn, gwerni, ffawydd, llwyfenni llydanddail, pisgwydd dail bach,

Planhigion ar gyfer gwrychoedd ac ymylon coetiroedd

Cribau san Ffraid, pys-y-ceirw, clychau’r gog, glesyn y coed, fioled gyffredin, bresych y cŵn, bysedd y cŵn, garlleg y berth/Jac y gwrych, y goesgoch, serenllys mawr, briwlys y gwrych, gwyddfid, eiddew, llygad Ebrill, blodau neidr, eirlysiau, crafanc-yr-arth ddrewllyd, fioled bêr, mandon bêr, garlleg gwyllt, blodau’r gwynt, marddanhadlen felen.

Planhigion dringo ar gyfer ffensys a waliau

Mae’r rhain yn darparu bwyd a chysgod ar gyfer amrywiaeth eang o anifeiliaid.

Ceanothus, trilliw ar ddeg dringol, eiddew, hopys, gwyddfid, barf yr hen ŵr, rhosod ymledol (rhosod gwyllt a rhosod gwyllt gwyn), cwins, clymog Rwsia, Pyracantha,