Adfer y gwenoliaid duon

A group of four swifts, small dark birds with scythe shaped wings, in flight at dusk.

swifts in flight © volunteer Gary Eisenhauer

Adfer y gwenoliaid duon

Rydyn ni'n gwarchod gwenoliaid duon ac fe allwch chi helpu!

Mae gwenoliaid duon yn greaduriaid ysbrydoledig ac rydyn ni’n ceisio defnyddio’r rhyfeddod maen nhw’n ei gynhyrchu i gysylltu pobl â’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys dirywiad pryfed, mater sy’n cael ei anwybyddu’n aml. Mae gwenoliaid duon wedi gostwng 72% yng Nghymru ers 1995, ac mae eu cynnwys ar y Rhestr Goch yn 2021 wedi tynnu sylw at fygythiad gwirioneddol eu diflaniad. Ond dydyn nhw ddim wedi mynd eto, a chan eu bod yn dibynnu arnom ni am y rhan o'u bywydau pan nad ydyn nhw yn yr awyr, rydyn ni’n teimlo eu bod yn rhywogaeth y dylen ni allu ei helpu - drwy warchod safleoedd nythu presennol, darparu bocsys neu frics - ac ymgyrchu dros weithredu ar golli pryfed.

 

Gwirfoddoli

Pam rydyn ni eisiau gwarchod gwenoliaid duon?

Mae’r straeon am fywydau gwenoliaid duon yn yr awyr, yn teithio’r byd, yn syfrdanol, ac mae eu presenoldeb yn yr haf yn dod â mannau trefol yn fyw, gan gysylltu pobl â’r awyr. Rydyn ni’n credu y byddai gwenoliaid duon yn diflannu oddi ar ein strydoedd ni’n golled drasig, ac y gall cael pobl i ymwneud â’u gwarchod yn lleol fod o fudd gwirioneddol – i unigolion a chymunedau – yn ogystal â gwenoliaid duon! Oherwydd eu bod yn nythu mewn adeiladau, gallwn geisio eu helpu yn ein pentrefi a’n trefi ein hunain. Gall gwybodaeth leol a gweithredu lleol wneud gwahaniaeth.

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Mae YNGC wedi bod yn gweithio i helpu gwenoliaid duon ers 2014. Gwelwyd dirywiad cyffredinol mewn gwenoliaid duon yng Ngogledd Cymru fel mewn mannau eraill, ond roedd gwybodaeth fanwl gywir yn brin, felly fe wnaethom sefydlu tudalen Adfer Gwenoliaid Duon ar Cofnod, ein canolfan gofnodion leol. Mae hwn bellach yn cynnwys mwy na 1,800 o gofnodion, gan gynnwys manylion hollbwysig am nythod gwenoliaid duon sy’n hanfodol i’w gwarchod, ac ar gyfer targedu darpariaeth o focsys nythu i wenoliaid duon. Ers 2014 rydyn ni wedi gosod mwy na 700 o focsys ar adeiladau cyhoeddus a phreifat, gan feithrin arbenigedd wrth weithio gydag adeiladwyr, penseiri, awdurdodau lleol a pherchnogion tai, a hyrwyddo cynnwys brics gwenoliaid duon mewn datblygiadau newydd.

Pan oedd cyllid yn caniatáu, rydyn ni wedi trefnu teithiau cerdded, sgyrsiau, arolygon a digwyddiadau ‘Gwenoliaid Duon’, yn ogystal â gweithdai hyfforddi ar gyfer ecolegwyr sy’n gweithio yn y system gynllunio. Rydyn ni wedi sefydlu grŵp Facebook, ac yn cymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Wenoliaid Duon yn y DU bob blwyddyn (wythnos gyntaf mis Gorffennaf fel arfer). Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi datblygu rhwydwaith brwdfrydig o hyrwyddwyr a gwirfoddolwyr gwenoliaid duon lleol, a lletywyr gwenoliaid duon, ac wedi gweithio’n agos gyda Chynghorau, Cymdeithasau Tai a’r Parc Cenedlaethol.

Yn 2023, cawsom grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Swire i gyllido ein prosiect Gweithredu dros Wenoliaid Duon. 

Ymuno â’n grŵp ni ar Facebook!

Sut gallwch chi helpu

Gweithredwch dros wenoliaid duon yn eich cymuned eich hun, a helpwch yr adar rhyfeddol yma i ffynnu ochr yn ochr â chi.

Anfon eich cofnodion am wenoliaid duon atom ni

Rydyn ni wedi creu tudalen we arbennig i gofnodi gwenoliaid duon ar Cofnod – defnyddiwch hi i ddweud wrthym ni ble rydych chi wedi eu gweld. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer cadwraeth!

Arolygu eich gwenoliaid duon lleol

Rydyn ni eisiau darganfod sut mae gwenoliaid duon yn ffynnu yn eich pentref neu dref, a gallwn eich hyfforddi i helpu. Rhyw awr yn arsylwi gwenoliaid duon ar nosweithiau braf o wanwyn neu haf – beth allai fod yn well? Dyma ein canllaw ni i chi gynnal eich arolwg hunan-dywys eich hun o wenoliaid duon.

 

Arolygon gwenoliaid duon hunan-dywys

Sylwi ar sgaffaldiau!

Fe all safleoedd nythu gwenoliaid duon gael eu colli os caiff eu tyllau eu blocio fel rhan o waith adeiladu, e.e. ailbwyntio waliau neu atgyweirio to. Os clywch chi am waith wedi’i gynllunio lle rydych chi’n meddwl bod gwenoliaid duon yn nythu – neu os gwelwch chi sgaffaldiau’n mynd i fyny yno, cysylltwch ag YNGC – efallai y gallwn ni helpu. Os bydd gwaith yn digwydd rhwng mis Mai a mis Awst, mae’n bwysig bod pobl yn gwybod ei bod yn anghyfreithlon tarfu ar adar yn eu nyth. Weithiau nid yw pobl yn ymwybodol bod gwenoliaid duon yn nythu yn eu tŷ – rydyn ni’n eu hannog i werthfawrogi gwenoliaid duon a gwarchod eu nythod.

Gall sgaffaldiau fod yn gyfle i osod bocsys gwenoliaid duon yn eu lle - edrychwch isod!

Creu cartref i wenoliaid duon

Ystyriwch osod bocsys gwenoliaid duon yn eu lle, neu greu mannau lle gallant nythu yn eich cartref, ysgol neu weithle – pryd bynnag y bydd sgaffaldiau wedi’u codi, mae cyfle! Defnyddiwch recordiadau o gri’r wennol ddu i ddenu parau. Gall Swift Conservation gynnig cyngor.

Mwy o wybodaeth yma

Bocsys yn rhan o adeilad

Yr ateb hirdymor gorau i argyfwng tai y gwenoliaid duon ydi ymgorffori bocsys nythu mewnol neu ‘frics gwenoliaid duon’ mewn datblygiadau adeiladu newydd. Maen nhw’n gynaliadwy, yn hawdd eu cynnal a’u cadw, yn hawdd eu gosod yn ystod y gwaith adeiladu, ac mae cyfradd y defnydd yn uchel. Helpwch ni i'w hyrwyddo nhw i gynllunwyr, datblygwyr ac adeiladwyr yn eich ardal leol.

Dilyn y teulu...

Yn 2023 fe wnaethon ni osod camera nyth yn un o’r bocsys a osodwyd gennym ar adeilad Craig Mair Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy. Mae hyn yn ein galluogi ni i dracio ffawd pâr o wenoliaid duon drwy gydol y tymor. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gamau gweithredu drwy ein dilyn ni ar Facebook, lle rydyn ni’n rhannu fideos drwy gydol y tymor magu.