Gwirfoddoli gyda gwaith gweinyddol a swyddfa

Volunteer at Bangor office

Reception volunteer at our Bangor office

GWIRFODDOLI

Gwirfoddoli gyda gwaith gweinyddol a swyddfa

Sgiliau i’w rhannu

Os yw’n well gennych chi weithio dan do, rydyn ni wedi symud swyddfa’n ddiweddar i Lys Garth ym Mangor ac mae mwy o gyfleoedd i wirfoddoli yn y swyddfa. Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am bobl i helpu yn ein derbynfa a’r siop, yn ogystal â darparu cefnogaeth weinyddol i’n staff ni. Os oes gennych chi brofiad o waith swyddfa, neu os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd, efallai mai’r rôl wirfoddoli yma ydi’r un i chi.

Bod yn wirfoddolwr

Dw i’n mwynhau natur, ond dw i’n straffaglu gwneud gwaith gadwraethol. Mae swyddfa Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mor hawdd i mi ddarganfod ac rwyf yn medru gwneud rhywbeth defnyddiol hefo’n amser. Mae wastad gwaith gwahanol i’w ddysgu ac felly nid wyf yn diflasu
Jayke Forshaw