Tirwedd Fyw Alun a Chwiler

Alyn Valley by Jonathan Hulson NWWT

Alyn Valley by Jonathan Hulson NWWT

Gwead cyfoethog o goetiroedd hynafol, dolydd blodau gwyllt ac afonydd hamddenol

Mae cynllun Tirwedd Fyw Alun a Chwiler yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd drwy gyfrwng Cronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect ‘Adfer Gwytnwch i Goetiroedd Cymru’ yw creu, cysylltu a gwella cynefinoedd yn nalgylchoedd Afon Alun ac Afon Chwiler, gyda ffocws penodol ar goetiroedd a gwella’r rheolaeth ar adnoddau dŵr yn y ddau ddalgylch. Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth y Ddyfrdwy yng Nghymru a’i gefnogi gan bartneriaid sy’n cynnwys Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Cyfoeth Naturiol Cymru a hefyd Cynghorau Sir y Fflint a Dinbych. 

Mae’r cynllun yn hybu rheolaeth gynaliadwy ar dir ac yn gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir yn nalgylchoedd yr afonydd, yn enwedig y rhai sydd eisiau gwella cynaliadwyedd ar y fferm a chryfhau cadernid yr ecosystemau yn wyneb newid hinsawdd, yn ogystal â phlâu a chlefydau.  

Mae Cronfa Dreftadaeth Cymru yn dosbarthu’r Gronfa Rhwydweithiau Natur ar ran Llywodraeth Cymru.

Amcanion y cynllun

  • Gwella cynefinoedd a’u cysylltedd yn nalgylchoedd Afon Alun ac Afon Chwiler, gyda ffocws ar goetiroedd
  • Gwella faint o ddŵr sydd yng nghymoedd Afon Alun ac Afon Chwiler a gwella ansawdd y dŵr hwnnw
  • Dangos a hybu amrywiaeth eang o reolaeth gynaliadwy ar dir 
  • Darparu cyfleoedd i gymunedau lleol weld a dysgu am fywyd gwyllt unigryw yr ardal, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli                    
  • Datblygu perthnasoedd gwaith gydag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid y prosiect

     

Cysylltu â ni

Jonathan Hulson, Rheolwr y Prosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr
Jonathan.Hulson@northwaleswildlifetrust.org.uk
07961698437

Ardal y cynllun

Woodlands for Water Project Focus Area

Woodlands for Water Project Focus Area / Ardal Ffocws y Prosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr (copyright Ordnance Survey 250K)

Cymryd rhan

Perchnogion Tir

Mwy o wybodaeth

Gwarchodfeydd natur yn y Dirwedd Fyw yma

Mae gennym ni lawer o warchodfeydd natur hardd i chi eu harchwilio yn y Dirwedd Fyw yma, edrychwch ar y tair uchaf yma...

Beth sydd i’w weld yma?

Mae digonedd o ddewis o ffawna a fflora yn yr ardal hardd yma yng Ngogledd Cymru – ewch allan i archwilio – rydyn ni’n argymell cadw llygad am ... 

Heritage fund logo