Ble mae gweld clychau’r gog

Bluebells

Bluebells_Tom Marshall

Ble mae gweld clychau’r gog

Coedydd clychau’r gog

Yn ystod cyfnod o ychydig wythnosau yn y gwanwyn, o ganol mis Ebrill ymlaen, mae clychau’r gog yn troi ein coetiroedd ni’n garpedi glas llachar o flodau. Mae eu presenoldeb yn arwydd clir ein bod ni mewn hen goetir.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gofalu am gannoedd o goetiroedd a rhai o’r arddangosfeydd gorau o glychau’r gog yn y wlad.

Chwilio am goetir clychau’r gog yn eich ardal chi

Am beth ddylech chi chwilio

Clychau’r gog yw dechrau’r sioe mewn coetiroedd yn y gwanwyn ond mae llawer mwy i’w weld a’i glywed hefyd. Gwrandewch am adar y coetir yn canu ar y canghennau. Bydd llawer o goedydd clychau’r gog yn dod yn gartref i adar sydd wedi mudo miloedd o filltiroedd i’r DU i fagu, fel y telor penddu, telor y coed a’r siff-saff. Ar y tir cadwch lygad am flodau gwyllt eraill y coetir yng nghanol y clychau’r gog, fel sêr gwynion cain y botwm crys a phigau pinc nodedig tegeirianau porffor y gwanwyn. A chofiwch: nid dim ond y lliw sy’n bwysig. Mae gan y blodau arogl melys cynnil: plygwch i lawr i ganol pennau’r blodau ac arogli’n ddwfn!

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd coetir clychau’r gog

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd hen goetir, cadwch lygad am glychau’r gog yn tyfu ar hyd ymylon ffyrdd, mewn clytiau bychain o goetir ac mewn parciau a gerddi ym misoedd Ebrill a Mai. Ond y tu allan i goetiroedd hynafol efallai y byddwch chi’n edrych ar glychau’r gog Sbaenaidd, sydd ychydig yn wahanol i glychau’r gog brodorol y wlad yma ac maent yn gallu rhyngfridio – gan ffurfio ‘heidiau hybrid’ mewn mannau.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.