Tirwedd Fyw Corsydd Môn

Cors Goch nature reserve

Cors Goch nature reserve - Chris Wynne

TIRWEDDAU BYW

Tirwedd Fyw Corsydd Môn

8,000 hecterau
17 rhywogaethau tegeirianau
2il ardal fwyaf o fen yn y DU
1 Maes Cadwraeth Arbennig

Mae’r ddaeareg gymhleth o galchfaen a thywodfaen garw yn nwyrain Ynys Môn yn gartref i gynefin ffen, math prin o wlybdir sy’n cael ei fwydo gan haenau o ddŵr o dan y ddaear. Mae’r cynefinoedd arbennig hyn yn gartref i rywogaethau arbennig fel y tegeirian pryf, tegeirian y gors culddail, mursen y de a’r ele feddyginiaethol.            

Roedd llawer o’r cynefin ffen gwyllt hwn a’i holl fywyd gwyllt ar Ynys Môn ar un adeg ond mae llawer ohono wedi’i golli ac mae’r hyn sydd ar ôl yn ddarniog ac yn agored i lygredd o sawl ffynhonnell. 

I helpu gyda goroesiad tymor hir y corsydd hyn, mae’r prosiect Tirwedd Fyw yn mynd i weithredu yn y dirwedd ehangach gyda pherchnogion tir i wella’r cyswllt rhwng safleoedd, cynnig cyfleoedd newydd i fywyd gwyllt a lleihau’r llygredd sy’n llifo i mewn i’r corsydd.

Mwy am y cynllun hwn ar gael yma ...

Anglesey Fens map (c) NWWT

Anglesey Fens map (c) NWWT

Y newyddion diweddaraf

Hefyd bydd digwyddiadau drwy gydol 2019 yn yr ardal rhwng Llangefni, Pentraeth a Moelfre. Mae croeso i bawb gymryd rhan a darganfod mwy am yr ardal hon, dysgu sgiliau newydd ac astudio’r rhywogaethau sydd i’w canfod yn y rhanbarth.

Bod yn wirfoddolwr

Anglesey Fens Impact Report 2019

© NWWT