Corsydd halen ac aberoedd

Estuary

Estuary at low tide and in evening light_Chris Gomersall 2020Vision

Ble mae gweld corsydd halen ac aberoedd

Corsydd halen ac aberoedd

Aberoedd: lle mae llanwau’n dod i mewn ac allan a chyfarfyddiad dŵr croyw a dŵr hallt y môr yn creu cynefinoedd unigryw a deinamig. Yng nghanol y cynefinoedd hyn mae corsydd halen, yn ffurfio mewn ardaloedd lled-gysgodol ac yn cefnogi poblogaethau mawr o rywogaethau sydd wedi addasu’n dda. Yn safleoedd magu pwysig yn aml i rywogaethau o bysgod, yn ogystal â darparu safleoedd magu a bwydo ar gyfer adar rhydio ac adar gwyllt sy’n gaeafu, yn anffodus, mae’r llochesi pwysig yma’n gymharol brin yn y DU erbyn hyn, ac mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio’n galed i warchod yr ecosystemau unigryw yma. 

Er bod gweld cymaint o adar mewn un lle’n gyfareddol, mae’r sŵn yn fyddarol – boed yn glegar y gwyddau, hwyaid wedi’u dychryn gan y bod tinwen a’r hebog tramor neu gri atgofus y gylfinir

Chwilio am gors halen neu aber yn eich ardal chi

Ceir sawl aber a chors halen o bwysigrwydd rhyngwladol yng Ngogledd Cymru. Mae gennym ni warchodfa natur yn Nhraeth Glaslyn, ger Porthmadog, ac un yn Spinnies, Aberogwen, ger Bangor.

Mae gan Draeth Glaslyn guddfan adar fechan ond hefyd mae posib eu gweld o Gob Porthmadog. Gellir gweld amrywiaeth o adar gwyllt ac adar rhydio’n gaeafu yn erbyn cefndir cwbl drawiadol Eryri. 

Mae dwy guddfan adar yn y Spinnies, Aberogwen, ac aber Afon Ogwen a gerllaw tywod llanwol eang Traeth Lafan a dyma lecyn rhagorol i wylio adar y gaeaf wrth i heidiau mawr o adar ymgynnull ar y tywod gerllaw. Mae’r safle’n dod yn fwy a mwy poblogaidd ymhlith ffotograffwyr bywyd gwyllt fel lle i dynnu lluniau amrywiaeth o adar. 

Am beth ddylech chi chwilio

Yr hydref a’r gaeaf yw’r amseroedd gorau fel rheol i weld bywyd gwyllt ar yr aber, gyda miloedd o hwyaid, gwyddau, elyrch ac adar rhydio’n mwynhau’r llaid llawn infertebrata.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.