Yr Arolwg Natur Mawr

Cwblhewch yr arolwg yma heddiw!

Pobl a natur sy’n bwysig yn yr Arolwg Natur Mawr.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a’r Ymddiriedolaethau Natur ar draws y DU, eisiau clywed eich barn chi am rai o’r cwestiynau mwyaf sy’n ymwneud â byd natur a’n rôl ni wrth ofalu amdano.

🌍 Pa mor aml ydych chi’n mynd allan i fyd natur, os o gwbl?

🌍 Ydi byd natur yn bwysig i chi? Os felly, pa mo bwysig?

🌍 Pa rôl, os o gwbl, ddylai pobl, busnes a’r llywodraeth ei chwarae wrth reoli byd natur?

Would you like to complete the survey in English? Click here

Lleisiwch eich barn a llenwi’r Arolwg Natur Mawr

Beth yw pwrpas yr arolwg?

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal yr arolwg yma i gael gwybod beth mae pobl yn y DU yn ei feddwl mewn gwirionedd am fyd natur a sut dylem ni, fel cymdeithas, ei warchod. Bydd y canlyniadau hefyd yn helpu'r Ymddiriedolaethau Natur i ddwyn y llywodraeth i gyfrif dros ei pholisïau a'i blaenoriaethau amgylcheddol.

Rydyn ni'n angerddol am rymuso pobl i weithredu dros fyd natur. Lleisiwch eich barn ar y materion pwysig yma drwy gwblhau'r arolwg heddiw!

Gwasgarwch y gair

Y gorau po fwyaf!  Rhannwch y linc i’r arolwg gyda’ch cysylltwyr ar wefannau cymdeithasol os gwelwch yn dda trwy ddefnyddio’r botymau islaw.