Care-Peat: Adfer capasiti storio carbon mawndiroedd

Care-Peat: Adfer capasiti storio carbon mawndiroedd

Sundew Credit Chris Wynne

Care Peat logo

Yng Ngwarchodfa Natur Cors y Sarnau mae swyddog prosiect newydd, Richard Cutts, yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i wella ein dealltwriaeth o brosesau mawndir, adfer cynefinoedd a chyfrannu at ymgyrch 30 erbyn 30 yr Ymddiriedolaethau Natur.

Cysylltu â Richard am fwy o wybodaeth

Gofalu am fawndiroedd

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi ymuno â phrosiect newydd arloesol sy'n gweithio ledled Ewrop i ddiogelu mawndiroedd. Mae Care-Peat yn brosiect Interreg Gogledd Orllewin Ewrop (NWE) gyda 12 partner yn gweithio gyda'i gilydd i leihau allyriadau carbon ac adfer capasiti storio carbon gwahanol fathau o fawndiroedd yng Ngogledd Orllewin Ewrop. Mae'r brif bartneriaeth yn cynnwys saith sefydliad gwybodaeth a phum sefydliad natur o Wlad Belg, Ffrainc, Iwerddon, yr Iseldiroedd a'r Deyrnas Unedig. Ochr yn ochr â phum is-bartner a 47 partner cysylltiedig, mae Care-Peat yn datblygu ac yn profi technegau a strategaethau economaidd-gymdeithasol newydd ar gyfer lleihau carbon. Mae gan y prosiect gyllideb gyffredinol o €7.03 miliwn, gyda €4.2 miliwn yn cael ei ddarparu gan yr UE. Un o'r safleoedd peilot sy'n rhan o'r prosiect yw Gwarchodfa Natur Cors y Sarnau, ger y Bala.

Darganfod Gwarchodfa Natur Cors y Sarnau

Sphagnum

A hummock of sphagnum moss species / Twmpath o rywogaethau o fwsogl sffagnwm. © NWWT Chris Wynne

Mawndiroedd yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Pam canolbwyntio ar fawndiroedd? Mae mawndiroedd nid yn unig yn gynefinoedd gyda fflora a ffawna arbenigol iawn, ond maent hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn rheoleiddio hinsawdd fyd-eang. Mae mawndiroedd hemisffer y Gogledd yn cyfrif am 3% i 5% o gyfanswm arwynebedd y tir ac yn cynnwys tua 33% o garbon pridd byd-eang. Felly, mae gan fawndiroedd botensial naturiol sylweddol i arbed carbon a chwarae rhan bwysig mewn atebion seiliedig ar natur ar gyfer newid yn yr hinsawdd.

Pan fydd mawndiroedd yn cael eu draenio, mae'r carbon sydd wedi'i gadw'n dda yn cael ei ryddhau fel nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. Dyma pam ei bod yn bwysig cadw mawndiroedd yn wlyb. Yn anffodus, mae llawer o fawndiroedd yn cael eu diraddio ac yn allyrru yn hytrach na storio carbon. Mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol byd-eang o briddoedd organig wedi'u draenio ddwywaith yn fwy nag o awyrennau. Mae angen i ni weithredu nawr i atal diraddio pellach ac annog mwy o adferiad ar gyfer y mawndiroedd sy'n weddill.

Beth mae Care-Peat yn ei wneud?

  • Prif nod Care-Peat yw sefydlu a dangos technolegau arloesol ar gyfer technegau adfer a mesur carbon newydd a chynnwys rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol.
  • Felly mae'r sefydliadau natur, ynghyd â pherchnogion tir lleol, yn adfer mawndiroedd saith safle peilot gwahanol, yn amrywio o un i 250 hectar ac yn dangos arbedion carbon (posib) yr adferiad. Defnyddir gwahanol dechnegau adfer ar gyfer pob safle peilot - o reoli â llaw i dyfu mwsogl mawn ychwanegol. Drwy gydol y prosiect cefnogir y sefydliadau gan yr athrofeydd gwybodaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a phrofi offer, dulliau a modelau newydd i ragfynegi llif carbon (e.e. drwy ddefnyddio dronau a lloerennau i arwain adferiad a darparu mewnbwn ar gyfer modelau carbon). Mae Care-Peat hefyd yn gweithio gyda chwmnïau arloesol ym maes adfer ac yn datblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol i gynyddu effaith prosiectau peilot a sicrhau'r budd economaidd-gymdeithasol gorau posib.
  • Un o allbynnau pwysig Care-Peat yw cyhoeddi adnodd cefnogi rheolaeth a phenderfyniadau a chyfres o fodelau economaidd-gymdeithasol sy'n ymwneud â'r opsiynau gorau ar gyfer adfer mawndir mewn perthynas â storio carbon. Fel hyn mae canlyniadau'r prosiect yn cael eu trosglwyddo a'u hefelychu i ddefnyddwyr ledled Gogledd Orllewin Ewrop i bennu'r mesurau rheoli mwyaf priodol, hyd yn oed ar ôl i Care-Peat ddod i ben.
  • Yn 2021, fel rhan o raglen Interreg NWE, rhoddwyd cyfle i’r prosiect Care-Peat gryfhau ei gwmpas gyda ‘phrosiect cyfalafu’ fel y’i gelwir. Y nod yw defnyddio canlyniadau'r prosiect mewn ardaloedd newydd a gyda grŵp targed newydd yng Ngogledd Orllewin Ewrop. Arweiniodd y gymeradwyaeth at ddim llai na thri phartner newydd a chwe phartner cysylltiedig newydd a ymunodd â'n consortiwm. Roedd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn un o'r partneriaid newydd.
  • Yn y prosiect cyfalafu rydym yn datblygu methodoleg unedig ar gyfer asesu allyriadau nwyon tŷ gwydr o fawndiroedd, sy'n berthnasol yn eang yng Ngogledd Orllewin Ewrop (gwahanol fathau a rhanbarthau o fawndiroedd), ac felly'n cynyddu effaith yr adnodd cefnogi penderfyniadau. Hefyd rydym yn cynnwys ffermwyr a sefydliadau ffermwyr fel prif grŵp targed newydd drwy ymgysylltu â hwy yn uniongyrchol ac ymgorffori arferion gorau ar gyfer arbed carbon ar dir amaethyddol.

Faint o garbon ellir ei arbed?

Mae Care-Peat yn uchelgeisiol. Erbyn diwedd y prosiect yn 2023, rydym yn disgwyl y bydd tua 8,137 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn yn cael eu hatal rhag colledion a'u storio yn y saith safle peilot (tua 645 o hectarau i gyd).

Ar ôl 2023 rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau cadwraeth natur a sefydliadau eraill ledled rhanbarth Gogledd Orllewin Ewrop yn gweithredu mesurau pellach, gan arwain at adfer llawer mwy o fawndiroedd. A pho fwyaf o fawndiroedd sy'n cael eu hadfer, y mwyaf o garbon sy'n cael ei arbed. Yn y modd hwn, gall mawndiroedd ddod yn bartner naturiol pwysig mewn polisïau hinsawdd ar draws Gogledd Orllewin Ewrop.

Beth fydd yn digwydd yng Nghors y Sarnau?

Mae Cors y Sarnau, sydd wedi cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ers 1972, bellach yn gorchuddio mwy na 28 o hectarau. Mae'r hen lyn hwn yn nodedig am ei gynrychiolaeth o'r trawsnewid o lystyfiant ffen i gors. Yn 2016, llwyddodd yr Ymddiriedolaeth Natur i brynu ac wedyn torri ardal o blanhigfa gonwydd gyda'r nod uchelgeisiol o adfer y cynefin mawndir. Mae pwysigrwydd cymharol y gwaith hwn yn cynyddu wrth i fwy a mwy o safleoedd mawndir tebyg yng Nghymru gael eu draenio neu eu dinistrio. Rydym yn gallu cwblhau'r gwaith hwn diolch i gyllid gan y Prosiect Care-Peat a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd y gwaith a gynlluniwyd yn hanfodol wrth helpu i adfer cymuned amrywiol a bywiog o fawndir. Bydd data sylfaen a gafodd eu casglu ychydig cyn torri’r coed yn cael sylw eto a'u hehangu fel sail well i reolaeth cynefinoedd ac i lywio’r gwaith, a bydd ystod o dechnegau i drin a gosod y cyd-destun ar gyfer adfywiad naturiol cymunedau'r gwlybdir, gan gynnwys carpedi o fwsoglau Sffagnwm.

Bydd rheoli cynefinoedd yn canolbwyntio ar adfer y cynefinoedd mawndir agored ym mhen deheuol Cors y Sarnau; yn y cyfamser, ym mhen gogleddol y safle - yr hen blanhigfa gonwydd o'r enw Coed Tŷ Uchaf - bydd y ffocws ar ymyrraeth ar raddfa fwy i greu'r amodau cywir ar gyfer datblygu cynefin mawndir.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Manceinion i fonitro lefelau nwyon tŷ gwydr i weld pa mor gyflym y gellir trawsnewid y safle fel storfa garbon. Bydd y data ymchwil a gasglwyd o'r safle yn cael eu defnyddio i gefnogi mabwysiadu hyn a thechnegau rheoli tir amgen eraill ar gyfer ein mawndiroedd.

Mae rhannu'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu a chynnwys y gymuned leol yng Nghors y Sarnau yn ddimensiwn pwysig yn y prosiect. Fel rhan o'r gwaith hwn byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd a gyhoeddir ar gyfryngau cymdeithasol.