Rocky places

A quarry area now overgrown with vegetation, trees and other larger plants, but still with large bare patches of ground. To the left there is a steep rockface, with grasses growing everywhere. To the right hills and woodlands rise up to enclose the area. In the very far left background a town can be seen, along with fields fading into the horizon and meeting the clouds.

Minera Quarry nature reserve © Simon Mills

Ble mae gweld llefydd creigiog

Daeareg roc a rôl

Mae gan y creigiau o dan ein traed stori ryfeddol i’w hadrodd; stori sydd wedi para bron i 3,000 miliwn o flynyddoedd a dylanwadu ar ein hynysoedd ni a’u bywyd gwyllt cyfoethog fel rydyn ni’n ei adnabod. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r tir oddi tanom wedi teithio hanner ffordd rownd y byd; drwy gyfnodau o weithgarwch folcanig prysur; gyda chorsydd a fforestydd glaw yn ymsefydlu arno; rhewlifau’n mynd a dod; tir wedi’i gladdu dan gilometr o iâ. Mae ein cefn gwlad ni’n dangos creithiau’r hanes dramatig yma. Clogwyni creigiog, meini mawr ar lethrau’r bryniau, ceudyllau a cheunentydd, a chwareli’n gipolwg i ni ar orffennol y Ddaear.

Gall dinoethi creigiau sy’n filiynau o flynyddoedd oed ddatgelu rhywogaethau ffosil fel braciopodau, gastropodau ac amonitau yn ogystal â dannedd siarcod, coed a chregyn wedi’u ffosileiddio. 

Chwilio am lefydd creigiog yn eich ardal chi

Yn Chwarel y Mwynglawdd ger Wrecsam, mae’r creigiau noeth, y chwareli a’r mwyngloddiau’n adlais o fwy na 200 mlynedd o fwyngloddio llwyddiannus. Mae’r chwareli segur yn darparu amodau rhagorol ar gyfer ystlumod yn clwydo, gan gynnwys yr ystlum pedol mwyaf. Hefyd mae sawl rhywogaeth o flodau gwyllt, gan gynnwys y tegeirian pryf, bwtsias y gog a theim gwyllt, yn elwa o’r creigiau noeth, gan roi cartref i lawer o infertebrata, fel cacynen y mynydd. 

Beth i gadw llygad amdano

Fe welwch chi bob math o bethau yn ein chwareli segur, gwyllt ni a’r mannau creigiog – archeoleg ddiwydiannol, ffosilau, poblogaethau o ystlumod sy’n clwydo mewn ogofâu cysgodol, ymlusgiaid, blodau gwyllt, pryfed ac adar. Mae’r gaeaf yn amser da – fe welwch chi fwy o ddaeareg gyda llai o lystyfiant.

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Mwynhewch archwilio’r llefydd gwyllt yn eich ardal chi. Gallwch rannu lluniau gyda ni drwy drydar @North_Wales_WT neu ddefnyddio’r hashnod #daearegwyllt #wildgeology, neu eu rhannu â grŵp yr Ymddiriedolaethau Natur ar Flickr. Am gyflwyniad da i’r creigiau o dan ein traed, darllenwch “The Lie of the Land: an under-the-field guide to Great Britain” gan Ian Vince.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.