Natur Drws Nesaf

CCC - community clean

Natur Drws Nesaf

Beth yw Natur Drws Nesaf?

Mae Natur Drws Nesaf yn dod â chymunedau at ei gilydd i helpu byd natur i ffynnu lle maent yn byw ac yn gweithio. Diolch i £5 miliwn o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd Natur Drws Nesaf yn rhoi’r cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl i helpu byd natur ar garreg eu drws, a gadael gwaddol naturiol barhaus er anrhydedd i Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Cymunedau’n cydweithio er lles pobl a byd natur

Mae Natur Drws Nesaf yn bartneriaeth ledled y DU rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Ymddiriedolaethau Natur, a fydd yn gweld cymunedau ledled y DU yn dod at ei gilydd i warchod a hyrwyddo natur a bywyd gwyllt lle maent yn byw. O greu mannau cyfeillgar i fywyd gwyllt a thyfu bwyd i gompostio ac ymgyrchu, mae'r posibiliadau'n niferus.

I ddechrau, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cefnogi pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghorwen (Sir Ddinbych) a Gronant (Sir y Fflint), gan eu helpu i gysylltu ag eraill a thrawsnewid eu syniadau yn gamau gweithredu cadarnhaol.

Sut gallaf i gymryd rhan?

Os ydych chi’n byw naill ai yng Nghorwen neu yng Ngronant ac os hoffech chi gael gwybod mwy am sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â’n tîm Natur Drws Nesaf.    

Cysylltwch â ni! 

Ddim yn byw yn yr ardaloedd yma? Peidiwch â phoeni! Mae gennym lawer o adnoddau ar gael i'ch helpu i ddechrau adeiladu eich rhwydwaith eich hun o hyrwyddwyr natur yn eich cymuned.

Adnoddau cymunedol

Ddim yn barod i ddechrau eich grŵp eich hun eto? Mae hynny'n iawn - mae gennym ni ddigonedd o syniadau y gall pawb fwrw ymlaen â nhw, ar unwaith. Edrychwch ar ein tudalen 'Gweithredu dros fywyd gwyllt' am ysbrydoliaeth ac am stryd hyfryd, hapus a chyfeillgar i fywyd gwyllt. Beth am rannu rhai syniadau gyda'ch cymdogion hefyd? Mae angen i adferiad byd natur ddechrau nawr!

Dyma ychydig o syniadau i chi allu dechrau arni...

Robin and blue tit on bird feeder

Robin and blue tit © Nicholas Watts

Sut i helpu adar

Darllenwch y canllaw
Garden pond

Anna Williams

Sut i adeiladu pwll bywyd gwyllt

Darllenwch y canllaw
A group of 5 people in brightly coloured clothing, carrying litter pickers and bright red rubbish bags, collecting plastic and other waste from a pebbly area of a beach, in front of some sand dunes.

Beach clean with Living Seas Ambassadors - Tywyn

Sut i gasglu sbwriel eich hun

Darllenwch y canllaw
National Lottery Heritage Fund, The Queen's Platinum Jubilee and The Wildlife Trusts logos sit side by side