Morwellt: Achub Cefnfor

Nudibranch on Seagrass. Cornwall, UK

A colourful nudibranch (Facelina auriculata) searching for its food of small hydroids by climbing on a blade of seagrass (eelgrass: Zostera marina) meadow. Helford Estuary, Cornwall, England, British Isles. - Alexander Mustard/2020VISION

Morwellt: Achub Cefnfor

Diweddariad Prosiect - Gorffennaf 2023

Dyma ddiweddariad mis yma am brosiect Morwellt Achub Cefnfor Gogledd Cymru. Ar ôl plannu hadau morwellt yn Y Gamlas a Phenychain nôl ym mis Chwefror a mis Ebrill, aethon ni nôl i’r safleoedd cychwyn mis Mehefin i weld sut mae’r morwellt yn ei wneud. Roedden ni’n hapus i ddarganfod bod llawer o hadau wedi troi’n eginblanhigion yn y ddau leoliad, gyda'r nifer uchaf o eginblanhigion yn Y Gamlas. Mae’r canlyniadau yma yn rhoi arwydd cychwynnol inni fod y safleoedd yn addas yn ecolegol i forwellt dyfu, sy’n newyddion gwych. Gan ein bod ni wedi defnyddio gwahanol ddulliau plannu byddem yn cynnal dadansoddiad manwl ar sut mae'r gwahanol ddulliau plannu wedi gweithio a defnyddio hyn i lywio gweddill y gwaith plannu. Byddem hefyd yn parhau i fonitro'r eginblanhigion wrth iddynt dyfu, a thrwy hynny benderfynu pa mor dda y maent yn ffynnu dros yr haf, ac os ydynt yn goroesi trwy'r gaeaf. Ond hyd hyn rydym yn falch iawn o sut y maent yn gwneud.

Y cam nesaf yw casglu hadau morwellt ym Mhorthdinllaen dros yr haf, o 29ain Gorffennaf i 12fed Awst. Os hoffwch ddod draw i weld y gwaith, mae croeso cynnes i chi wneud hynny. Hefyd, mi fydd yna gyfleoedd gwirfoddoli ar gael - e-bostiwch volunteers@projectseagrass.org os hoffech ragor o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

ACA Pen Llŷn a’r Sarnau: Alison Palmer Hargrave (alisonpalmerhargrave@gwynedd.llyw.cymru)

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: Nia Jones (Nia.Jones@northwaleswildlifetrust.org.uk)

Prosiect Morwellt: Flo Taylor (flo@projectseagrass.org

Diweddariad Prosiect - Ebrill 2023

Nawr bod y gwanwyn wedi dod, hoffem rannu diweddariad byr ar y prosiect Morwellt Achub Cefnfor i adfer morwellt yng Ngogledd Cymru.

Ym mis Chwefror, fe ddechreuon ni’r gwaith plannu morwellt a llwyddo i blannu 150,000 o hadau morwellt ar ochr ddeheuol Pen Llŷn gyda chymorth tîm o wirfoddolwyr – roedd yn ddechrau gwych i’r prosiect!

Ym mis Ebrill, anelwn at blannu 50,000 o hadau eraill yn y parth islanwol yn Y Gamlas (a elwir hefyd yn Garreg y Defaid) ym Mhen Llŷn yn ystod 14 a 15 Ebrill gan ddefnyddio deifio SCUBA - gwelwch y map atodol. Roeddem eisoes wedi plannu 50,000 o hadau yn Y Gamlas ym mis Chwefror, ond roedd hynny’n uwch ar y lan.

Yn yr un modd â mis Chwefror, byddwn eto'n plannu bagiau hesian bach wedi'u llenwi â hadau tywod a morwellt. Yn ogystal, byddwn yn treialu dull plannu newydd, sef rhoi hadau y tu mewn i beli bach o glai naturiol a chladdu’r peli hyn, sy’n ddull y gwnaethom ei dreialu o’r blaen yn ein acwariwm morwellt gyda chanlyniadau addawol. Mae'n gyfwerth morol â bomiau hadau. Yn olaf, byddwn yn plannu ychydig o egin morwellt a dyfwyd yn ein acwariwm yn Abertawe, a dyfwyd o hadau a gasglwyd ym Mhorthdinllaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni - rydym yn hapus i glywed gennych. Ar ben hynny, os hoffech chi ymweld â ni tra ein bod ni yn y maes, byddem mwy na hapus i gwrdd â chi! Os felly, cysylltwch â Project Seagrass.

Diweddariad Prosiect - Chwefror 2023

Gan y bydd y gwanwyn ar garreg ein drws cyn bo hir, hoffem rannu cynlluniau tîm Morwellt Achub Cefnfor i adfer morwellt yng Ngogledd Cymru. Ymhellach, hoffem rannu gyda chi ein rhesymau dros ddewis safleoedd penodol i gychwyn ar y gwaith adfer.

Yn dilyn ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid ac ymchwil ecolegol mae cyfanswm o saith safle wedi’u dewis i’w hystyried ymhellach, chwech ym Mhen Llŷn ac un ar Ynys Môn (gwelwch y map atodol). Dewiswyd y safleoedd hyn ar ôl derbyn mewnbwn gan randdeiliaid lleol ac ystyriaethau biolegol. Mae’r rhain yn cynnwys adborth uniongyrchol gan randdeiliaid trwy drafodaethau wyneb yn wyneb a gweithdai ar-lein, gwybodaeth ecolegol a ddarperir gan aelodau’r gymuned leol, a thrafodaethau gyda grwpiau, sefydliadau a rheolwyr safle perthnasol. Rydym hefyd wedi defnyddio gwybodaeth o’n harolygon gwyddonol o amodau ecolegol y safleoedd, modelau cyfrifiadurol gwyddonol sy’n rhagfynegi lle gallai morwellt dyfu’n ddamcaniaethol, ac arbrofion plannu morwellt yn gynnar yn 2022. 

Ar ddiwedd mis Ionawr, fe wnaethom gynnal asesiadau safle pellach i nodi’r lleoliadau gorau i ddechrau plannu morwellt ym mis Chwefror; buom yn asesu safleoedd drwy edrych ar e.e. presenoldeb anifeiliaid byw, algâu, y mathau o gynefinoedd, mathau o waddodion, a morffoleg yr arfordir. Yn seiliedig ar y canlyniadau hyn, byddwn yn dechrau plannu hadau morwellt mewn tri llain fach: dau ym Mhen-Ychain 1, ac un yn Y Gamlas.

Ar ôl plannu hadau morwellt ym mis Chwefror, byddwn yn monitro'r safleoedd i weld a yw morwellt yn tyfu ac yn sefydlu. Yn ddiweddarach eleni, rydym hefyd yn gobeithio plannu planhigion aeddfed allan yn y maes am y tro cyntaf, sy’n tarddu naill ai o ddolydd iach gerllaw, neu o feithrinfa morwellt y Prosiect Morwellt yn Sir Gaerfyrddin.

Yn gyffredinol, yn ystod 2023 byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar Ben Llŷn, sy’n hwyluso logisteg ein gweithgareddau. Yn 2024, byddwn yn dechrau plannu morwellt ar Ynys Môn, yn ôl pob tebyg ar Draeth yr Ora.

Wrth adfer ecosystemau morwellt, mae'n hanfodol dysgu o'ch gweithgareddau a'ch profiadau adfer, i integreiddio mewnbwn gan randdeiliaid, ac i addasu a gwneud y gorau o'r strategaeth adfer yn unol â hynny er mwyn adfer y morwellt yn llwyddiannus. Dyna pam, yn dibynnu ar ganlyniadau’r gweithgareddau plannu eleni ym Mhen Llŷn, y gallwn (i) gynyddu ein hymdrechion plannu ar y safleoedd hyn yn 2024 a blynyddoedd diweddarach, (ii) ceisio adfer morwellt ar un neu mwy o’r safleoedd eraill, neu (iii) parhau â'n hymdrechion plannu yn y safleoedd hyn a chynnwys safleoedd eraill.

Rydym yn gobeithio plannu cyfanswm o 10 hectar o forwellt ar draws Gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae cyfanswm y safleoedd a ddewiswyd yn fwy na 10 hectar. Mae hynny’n rhan bwysig o’n dull o adfer: ardaloedd chwilio morwellt yw’r safleoedd a ddewiswyd. Maent yn fwy na 10 hectar i gyd er mwyn rhoi hyblygrwydd inni ddod o hyd i leoliadau penodol o fewn yr ardaloedd chwilio morwellt lle mae gennym (i) gefnogaeth cymunedau lleol i adfer morwellt a (ii) amodau ecolegol sy’n addas ar gyfer morwellt tyfu. Yn dibynnu ar amodau ecolegol a chefnogaeth cymunedau lleol, gall hyn olygu ein bod yn plannu mewn un, ychydig, neu ym mhob safle. Mae ein harfordiroedd a’n moroedd yn llawer llai adnabyddus na’r tir, sy’n gofyn inni fod yn hyblyg wrth ddod o hyd i’r lleoliadau cywir ar gyfer adfer morwellt.

Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi trosolwg i chi o'r gweithgareddau sydd i ddod. Os oes gennych gwestiynau, adborth, mewnbwn, awgrymiadau, neu unrhyw beth arall, byddwn yn falch o glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu gyda reece.halstead@northwaleswildlifetrust.org.uk

Map Ardaloedd Ymchwil Morwellt

Seagrass Search Areas_February 2023

Seagrass Search Areas / Ardaloedd Archwilio Morwellt 2023 © Project Seagrass

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin - Chwefror 2023

Dolydd Delfrydol

Mae’r DU wedi colli hyd at 90% o’i dolydd morwellt yn y ganrif ddiwethaf, sydd wedi cael canlyniadau negyddol i iechyd a gwydnwch ein systemau arfordirol. Yn 2019, ffurfiodd Prifysgol Abertawe, yr elusen Project Seagrass a WWF-UK gydweithrediad i ddechrau adfer rhywfaint o'r hyn yr ydym wedi'i golli. Ar yr un pryd, dros y chwe blynedd diwethaf mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arwain treialon ledled Cymru i ddatblygu dulliau priodol ar gyfer adfer morwellt.

Yma yn Ngogledd Cymru, rydym wedi ymuno gyda’r partneriaid i gychwyn archwilio sut allwn ddod a’r prosiect cyffrous yma i Ogledd Cymru. Rydym wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyflawni rhaglen waith adfer arfaethedig sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ecolegol gadarn ac rydym ni eisiau i chi gymryd rhan. Wrth gymryd rhan fyddwch chi yn helpu ni i adfer morwellt yng Ngogledd Cymru.

Snakelocks Anemone

Snakelocks Anemone © Paul Naylor

Caneri’r môr

Yn naturiol, mae graddfa a dosbarthiad morwellt yn newid gyda chylch y tymhorau a’r blynyddoedd. Gall tarfu corfforol ar ffurf stormydd achlysurol ei helpu i gadw’n iach ac yn gynhyrchiol, ond mae tarfu cyson a phwysau ychwanegol gan bobl wedi cael effaith. Yn y 1930au, gwelwyd cyfran sylweddol o forwellt y DU yn marw o glefyd nychu, sy’n ymosod ar y dail ac yn atal ffotosynthesis, gan ladd y planhigyn. Gydag effaith ychwanegol pobl, yr amcangyfrif yw ein bod wedi colli 92% o’n morwellt yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae ymchwilwyr wedi galw gwelyau morwellt yn ganeris y môr – maen nhw’n adlewyrchu iechyd cyffredinol ein moroedd ni ac mae effaith pobl yn dod yn gynyddol glir.

Mae amcangyfrifon yn dangos y gall un hectar o forwellt fod yn gartref i hyd at 80,000 o bysgod a 100,000,000 o infertebrata

Mae’r bygythiadau’n amrywiol. Mae goferiad maethynnau’n glec ddwbl: mae’n wenwynig i forwellt a hefyd mae’n ysgogi twf mewn algâu sy’n cystadlu yn erbyn y morwellt am ofod a golau. Hefyd mae rhywogaethau estron ymledol yn cystadlu gyda’r morwellt ac, mewn rhai llefydd, mae’n gystadleuaeth maen nhw’n ei hennill. Mae datblygiadau arfordirol yn creu gwaddod sy’n tagu’r gwelyau ac mae niwed gan gadwyni angori, angorfeydd, propelorau a cherbydau lansio yn amlwg hefyd pan mae gweithgarwch mewn cychod yn digwydd. Gall hyd yn oed sathru gan ddefnyddwyr yr arfordir fod yn broblem ar lanw isel.

Carbon glas

Drwy golli morwellt, rydyn ni hefyd yn colli amrywiaeth y rhywogaethau sy’n byw ynddo. Ond mae mwy fyth yn y fantol. Mae gwelyau morwellt yn darparu casgliad llawn o wasanaethau ecosystemau hanfodol. Maen nhw’n hidlo llygredd, yn cylchu maethynnau, yn sefydlogi gwaddod ac yn lleihau erydiad arfordirol. Hefyd maen nhw’n amsugno llawer iawn o garbon ac, oherwydd hyn, maen nhw’n cael eu cydnabod yn gynyddol yn yr ymgais i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd ac yn cael eu hystyried fel ateb naturiol pwysig. Mae gwelyau morwellt yn storio carbon — sy’n cael ei adnabod fel ‘carbon glas’ — mewn dwy ffordd: drwy ffotosynthesis a thrwy ddal a sefydlogi gronynnau o’r golofn ddŵr. Heb darfu arno, gall carbon gael ei gloi mewn gwaddod morwellt am filenia. Felly, mae’n eithriadol bwysig gwarchod y cynefin arbennig yma.

Yn fyd-eang, er mai dim on 0.1% o wely'r môr sy'n forwellt, mae'n cyfrif am rhwn 10-18% o'i storfa garbon flynyddol

Wrth lwc, mae morwellt yn gadarn ac o gael cyfle, gall adfer. Er nad yw rheoli cynefin yn hawdd yn y môr, mae’n bosib! Mae prosiectau adfer morwellt yn cael eu treialu yn y DU ac mae hadau’n cael eu casglu o safleoedd amrywiol yn barod ar gyfer eu hailblannu i greu dolydd newydd. Mae gwaith arall yn cynnwys edrych ar systemau angori sy’n lleihau effaith corfforol gweithgarwch mewn cychod, ac addysgu pobl am bwysigrwydd morwellt. Er nad yw’r dolydd hyn yn cael eu gweld gan lawer o bobl, mae ganddyn nhw rôl hanfodol i’w chwarae mewn adfer natur yn y môr.

Nid yw safleoedd adfer wedi'u pennu eto, I ddarganfod mwy am ein prosiect neu i adael i ni wybod eich barn cysylltwch os gwelwch yn dda gydag Nia, ein Rheolwr Moroedd Byw ar nia.jones@northwaleswildlifetrust.org.uk

Young people snorkelling

Hyrwyddwyr Achub Cefnfor

Ein gwaith gyda darpar gadwraethwyr morol ifanc Ynys Môn

Mwy wybodaeth
© Paul Naylor

© Paul Naylor

Morwellt

Dolydd o forwellt yn ymledu ar draws gwely’r môr, gyda’u dail gwyrdd trwchus yn cysgodi cyfoeth o fywyd gwyllt.

Mwy o wybodaeth

Seagrass and Me!

Seagrass and Me! © Project Seagrass

Morwellt a Fi

Mae'n ffrindiau yn mudiad Project Seagrass wedi creu Pecyn Gweithgaredd gwych i athrawon, teuluoedd a pobl ifanc! Os ydach chi yn chwilio am hwyl gyda thema morwellt cliciwch ar y ddolen isod...

Cliciwch yma i lawrlwytho Morwellt a Fi!
National Lottery Heritage Fund

National Lottery Heritage Fund