Sbwriel a bywyd gwyllt

Foxes and litter

WildNet - Jamie Hall

Take action

Sbwriel a bywyd gwyllt

Sut i gasglu sbwriel eich hun

Beth yw'r broblem?

Mae gwastraff yn broblem fawr yn ein cymdeithas bresennol. Mae cartrefi yng Nghymru yn taflu mwy nag 1.5 miliwn tunnell o sbwriel bob blwyddyn! Mae llawer o sbwriel nad yw'n mynd i safleoedd tirlenwi neu ganolfannau ailgylchu’n dod yn sbwriel sy’n llygru ein tir, ein dyfrffyrdd a'n cefnforoedd. Mae sbwriel plastig yn arbennig o niweidiol i fywyd gwyllt gan nad yw'n dadelfennu'n llwyr.

Bygythiadau i fywyd gwyllt ar dir ac yn y môr

  • Gall anifeiliaid gael eu dal mewn poteli, jariau a chaniau, eu clymu mewn llinyn balŵn a gwifren bysgota, a mynd yn sownd mewn pob math o wastraff arall sy’n cael ei daflu.
  • Gall sbwriel gael ei gamgymryd am fwyd, ac wrth i blastig dorri yn ficroblastigau bychain, gall gael ei dreulio ar ddamwain hefyd. Gall plastig yn stumog anifail wneud iddo deimlo'n llawn ac arwain at lwgu.
  • Gall plastig yn yr amgylchedd gynnwys tocsinau cemegol niweidiol a all achosi problemau fel anffrwythlondeb mewn mamaliaid morol.

Beth allwch chi ei wneud i helpu

Mae angen i ni weithredu i lanhau sbwriel a lleihau gwastraff er mwyn atal problemau sbwriel pellach a helpu i warchod bywyd gwyllt.

Litter pick_Cymraeg

Mynd ati i gasglu sbwriel eich hun

Gallwch chi wneud gwahaniaeth ar eich pen eich hun neu gyda grŵp bach o ffrindiau neu deulu. Lawrlwythwch ein taflen o weithgareddau i gael rhai cynghorion da ar fynd ati i gasglu sbwriel eich hun.

Lawrlwytho’r Daflen o Weithgareddau
On the beach sculpture at litter pick

On the beach sculpture at litter pick

Mynychu digwyddiad casglu sbwriel lleol

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiadau casglu sbwriel ledled y rhanbarth drwy gydol y flwyddyn.

Ein digwyddiadau

Camau pellach

Mae casglu sbwriel yn ein helpu i glirio sbwriel sydd eisoes yn ein hamgylchedd. Y cam nesaf yw atal mwy rhag llygru ein hecosystemau. Gallwch chi ddechrau drwy fyw'n fwy ymwybodol a dewis opsiynau cynaliadwy yn lle plastig. Mae prynu yn lleol a phrynu pethau ail law, prynu eitemau heb becynnu plastig yn ogystal â mynd â'ch cynwysyddion eich hun i siopau ail-lenwi yn rhai ffyrdd anhygoel o ddechrau ar eich siwrnai gwastraff isel. Edrychwch ar rai syniadau isod os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy!

Digwyddiadau casglu sbwriel yn y gorffennol

Bob blwyddyn mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn trefnu sesiynau casglu sbwriel ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys ein digwyddiad "Plast Off" ym mis Ionawr 2019 pan gasglodd nifer enfawr o wirfoddolwyr 75kg o sbwriel mewn un diwrnod!

©NWWT

Stand For Nature - Team (2)

Eisiau gwneud mwy?

Mae gan ein prosiect ieuenctid fwy fyth o gynghorion da ar sut i Weithredu i achub bywyd gwyllt ar eu tudalen we, ac os ydych chi'n berson ifanc ar Ynys Môn, fe allech chi ymuno â'u Fforwm Ieuenctid hyd yn oed!

Mwy o wybodaeth