Troellwr

A close up of a nightjar, a distinctive bird related to the frogmouths with exceptional camouflage in all shades of black, brown and cream that can make it look convincingly like deadwood. This particular bird is facing directly right, with it's eye only half open, and is sat on a nest of small twigs made directly on the ground. The chicks are not visible.

Nightjar adult brooding chicks - David Tipling 2020Vision

Ble mae gweld troellwr

Troellwr

Y troellwr nosol yw un o’n hadar rhyfeddaf. Dyma ymwelydd haf â’r rhostir a phlanhigfeydd conwydd ifanc. Mae ganddo geg lydan ac mae’n bwyta pryfed. Mae’n treulio ei ddyddiau’n eistedd ar y llawr, lle mae hefyd yn nythu. Mae ganddo guddliw nodedig o lwyd a brown ac mae’n edrych yn debyg iawn i foncyff wedi syrthio ar y llawr ac yn amhosib ei weld bron yn ystod y dydd. Ond yn y gwyll, mae sŵn rhyfedd i’w glywed: rhyw rincian mecanyddol, fel injan yn y pellter bron, ac fel mae’n tywyllu, mae’r troellwr yn ymddangos.

Cyfle i glywed cri fecanyddol oeraidd y troellwr a’i weld yn curo’i adenydd ar rosydd ac mewn llennyrch yn y coetir.

Chwilio am droellwyr yn eich ardal chi

Mae Gwaith Powdwr a Chors Bodgynydd yn llefydd gwych i glywed troellwyr. Beth am ymweld ar noson o haf a mwynhau’r tirweddau rhyfeddol wrth i’r haul fachlud ac wrth i’r gwyll ddenu ystlumod, gwyfynod a throellwyr? Neu beth am ymuno â ni ar un o’n teithiau cerdded rheolaidd gyda’r nos. 

Sut mae gwneud hyn

O fisoedd Ebrill a Mai ymlaen, mae troellwyr yn nythu ar y ddaear ar rostir ac mewn coedydd conwydd ifanc. Rhaid i chi gyrraedd cyn iddi dywyllu a dod o hyd i lecyn da ar y rhos gyda golygfa mor eang â phosib, gydag awyr agored os yn bosib: mae’n llawer haws gweld silwét yr adar na’u gweld yng nghanol y coed tywyll. Wrth iddi dywyllu, bydd y troellwr yn ymddangos: yn debyg i hebog bron o ran siâp, ac yn hedfan yn herciog drwy’r awyr, gyda silwét o adenydd hir, stiff a chynffon hir. Gwrandewch am gân ryfedd fel rhincian, a churo adenydd od: troellwr gwrywaidd ydi hwn yn ceisio denu’r benywod sydd gerllaw.

Fel gyda phob aderyn sy’n nythu ar y ddaear, cadwch at y llwybrau troed a gadael eich ci gartref. Yn ôl y sôn, bydd troellwyr gwrywaidd sy’n goruchwylio’n dod i ymchwilio os gwnewch chi chwifio hances wen yn yr awyr. Rhowch gynnig arni!            

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Mae’r nos yn gallu bod yn amser gwych i fod allan yn y coed ble bynnag rydych chi’n byw. Gwrandewch am gri tylluanod, llwynogod yn sgrechian a moch daear yn baglu mynd drwy’r isdyfiant efallai. Efallai y byddwch chi’n synnu at faint o adar sy’n deffro am gân fer hanner ffordd drwy’r nos. Os ydych chi wir eisiau clywed rhincian nodedig y troellwr, gwyliwch glipiau ffilm gwych ar wefan y BBC. 

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.