Natur ar gyfer iechyd

Walking in woods

© Ross Hoddinott/2020VISION

Lles gwyllt

ffyrdd o gysylltu â natur

Cofrestrwch heddiw i gael eich canllaw am ddim

Pŵer natur

Mae'r wyddoniaeth i mewn. Nid yn unig mae byd natur yr agwedd fwyaf ysbrydoledig a rhyfeddol ar blaned y ddaear, ac nid yn unig mae'n gartref i gasgliad anhygoel a diderfyn bron o fywyd ... ond mae hefyd yn ddarparwr hynod bwerus ar gyfer iechyd! Gall dod i gysylltiad â thir a morluniau sy'n gyforiog o fywyd gwyllt roi hwb i'n hymennydd a chodi ein hwyliau, gall gryfhau ein system imiwnedd, ymestyn ein hoes a hyd yn oed ein gwneud yn fwy caredig ac yn haelach! 

Rydyn ni eisiau i chi hyrwyddo'r wybodaeth hon drwy ei rhoi ar waith bob dydd, gan annog eich hun ac eraill i gysylltu â byd natur mewn unrhyw ffordd y gallwch chi. Yn ein barn ni, os byddwn ni i gyd yn gwneud hyn, byddwn nid yn unig yn creu byd hapusach ac iachach, ond hefyd byddwn yn cefnogi'r bywyd gwyllt a'r llefydd gwyllt rydyn ni mor hoff ohonyn nhw.

Two happy male volunteers

©Toby Roxburgh 2020VISION

Mewn dwy astudiaeth ar wahân, canfuwyd bod cân adar yn cynorthwyo gydag adfer o straen a blinder yn ogystal â chynyddu teimladau o les ar ôl i bobl wrando arni am 7 i 8 munud!
Prifysgol Surrey a Phrifysgol Talaith Polytechnig Califfornia

Fe allwn ni eich helpu chi i gysylltu â byd natur

5 LLWYBR AT LESIANT

Er y gallem gyflwyno llond gwlad o wybodaeth i chi am sut i gael manteision iechyd o fyd natur, diolch byth mae 'Prosiect Foresight' Llywodraeth y DU yn 2008, ar y cyd â'r New Economics Foundation, wedi gwneud y gwaith caled ar ein rhan ni.

Maen nhw wedi cywasgu gwaith mwy na 400 o wyddonwyr ar natur a llesiant yn 5 cam gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Edrychwch ar y camau!

BOD YN EGNÏOL

Os ydych chi’n mynd allan am dro yn lleol neu'n gwneud rhywfaint o arddio - ewch ati i symud ym myd natur!

  • Gall hyn leihau llid, arwain at lai o orbryder ac iselder a rhoi hwb i'ch hwyliau! (Yr Adran Iechyd, 2009a, 2011; Reed et al., 2013).

Archwilio eich gwarchodfa natur leol

CYSYLLTU

... â’r bobl a’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas chi.

  • Bydd hyn yn helpu i'ch gwarchod chi rhag salwch, ynysu cymdeithasol ac iechyd gwaelach yn fwy cyffredinol (Tones a Green 2010)

Beth am edrych ar ein digwyddiadau 

CYFRANNU

Gwnewch rywbeth i helpu eich ardal leol a'r bobl sy'n byw yno

  • Bydd hyn yn cynyddu’r ymatebion niwronol yn ardaloedd gwobrwyo'r ymennydd ac yn rhoi hwb i hapusrwydd a boddhad mewn bywyd. (New Economics Foundation, 2008; Rilling et al., 2007) 

Dod yn wirfoddolwr

DYSGU

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd y tu allan

  • Mae dysgu’n gysylltiedig â: llesiant; boddhad mewn bywyd, optimistiaeth a hunaneffeithlonrwydd; hunan-barch a gwytnwch (Feinsten a Hammond, 2004; Hammond, 2004)

Edrychwch ar ein tudalen garddio bywyd gwyllt

SYLWI

... ar y pethau gwyllt bob dydd ar garreg eich drws

  • Mae meddwlgarwch yn gwella hunanddealltwriaeth, yn lleihau straen ac yn gwella iechyd meddwl (Feldman et al., 2007; Nef, 2008; Williams, 2010; Chu, 2010; Keng et al., 2011; Howell et al., 2011)

Edrychwch ar ein blog am beth i sylwi arno yn ystod mis Chwefror

Y Wyddoniaeth

Dim ond cipolwg sydd ar y dudalen hon o'r llu o astudiaethau sy'n dangos pa mor fuddiol yw cysylltiad â thir, môr a bywyd gwyllt i'n hiechyd ni. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn tyrchu'n ddyfnach, edrychwch ar rai o'r adroddiadau a'r astudiaethau sydd wedi’u rhestru isod!

Symud ymlaen ...

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau ein cyflwyniad bach ni i'r ffyrdd y gall byd natur ein helpu ni i deimlo'n hapusach, yn iachach ac yn fodlonach. 

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda straeon, lluniau ac awgrymiadau newydd ar sut mae natur yn cefnogi ein hiechyd a'n llesiant. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych arni’n rheolaidd!

Beth am roi cynnig ar rai awgrymiadau. Lapiwch yn gynnes a chysylltu â byd natur Gogledd Cymru yn y ffordd orau gallwch chi. Gydag unrhyw lwc, bydd yn gwneud i chi deimlo'n well ac yn barod am fwy!