Grug

Bell heather

Bell heather - Ross Hoddinott 2020Vision

Ble mae gweld grug

Grug

Mae ucheldiroedd eiconig Prydain a ddaeth i enwogrwydd yn Wuthering Heights yn cael eu portreadu fel tiroedd anial, peryglus a gwyntog - ond eto’n cael eu cyflwyno fel rhan o blentyndod rhydd a gwyllt gan Kate Roberts yn “Te yn y Grug”, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru. Wrth i’r grug flodeuo ar ddiwedd yr haf, mae’r rhosydd yn troi’n garped godidog o borffor hyd at y gorwel. Dyma’r amser gorau o’r flwyddyn yn sicr i fynd am y mynyddoedd a phrofi’r olygfa drawiadol yma, neu i Ynys Môn i archwilio rhai o’i rhostiroedd tir isel unigryw.

Mae’r rhosydd yn cael eu trawsnewid ar ddiwedd yr haf; yn ffrwydro’n llawn bywyd gyda suo gwenyn a chri adar. 

Chwilio am rug yn eich ardal chi

Mae ein gwarchodfa fwyaf, Cors Maen Llwyd, yn llecyn rhagorol. Yn rheoli’r dirwedd i’r gogledd o Lyn Brenig, mae’n 250 o hectarau. Ar Ynys Môn, mae rhostiroedd bach Porth Diana, Cors Goch a Mariandyrys yn cynnig cyfle i ddarganfod amrywiaeth gyfoethog o flodau gwyllt a phryfed.  

Sut mae gwneud hyn

Mae rhostir i’w weld yn yr ucheldir fel rheol, ac fel y rhan fwyaf o dir mynediad agored, mae croeso i chi grwydro – ond mae’n well glynu at lwybrau cyfarwydd. Gall y tywydd i fyny yma newid yn gyflym iawn ac mae’n hawdd mynd ar goll mewn tirweddau mor eang. Os ydych chi yn yr ucheldir neu ar safleoedd tir isel, cadwch unrhyw gŵn ar dennyn. Er ei bod yn gallu bod yn demtasiwn i adael iddynt redeg yn rhydd, mae’r rhostiroedd yn gartref i adar yn nythu ar y ddaear ac anifeiliaid pori, a does dim un o’r rhain yn mwynhau sylw ci sydd wedi cyffroi’n wirion.

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Nid dim ond yr ucheldiroedd sy’n gyforiog o borffor yn yr hydref. Mae grug rhostiroedd tir isel Ynys Môn ar ei orau yn ystod y tymor yma, ochr yn ochr â melyn euraid yr eithin. 

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.