Dyfodol Gwyllt

Walking into the sunset_WilderFuture campaign

Join our campaign for a #WilderFuture in Wales

Ymgyrchu dros #DyfodolGwyllt gyda ni

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddod â’n bywyd gwyllt ni’n ôl

Yn anffodus, ers i ni gyfarfod Badger, Ratty a’u ffrindiau am y tro cyntaf yn 1908, y DU yw un o’r gwledydd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf mewn byd natur yn y byd. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi ail-greu Wind in the Willows yn 2019, gan daflu goleuni ar rai o’r problemau mae ein bywyd gwyllt ni’n eu hwynebu bob dydd. Rydyn ni mewn sefyllfa lle mae ein byd natur ni mewn cyflwr difrifol ac angen ein help ni er mwyn dechrau adfer.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddod â’n bywyd gwyllt ni’n ôl, ond mae’n rhaid i ni weithredu nawr. Ymunwch â’r ymgyrch i gael gwybod am gamau gweithredu syml y gallwch chi eu rhoi ar waith er mwyn helpu byd natur i adfer.

Ymunwch â’n hymgyrch ni ar gyfer DyfodolGwylltach

Badger, Ratty, Mole a Toad

Gwyliwch ein hoff gymeriadau ni wrth iddyn nhw ddechrau chwilio am ddyfodol gwylltach

Ysgrifennodd Kenneth Grahame Wind in the Willows ychydig dros gan mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae llawer o lefydd gwyllt y DU, a’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n dibynnu arnyn nhw, wedi’u colli. Er enghraifft: mae 97% o’r dolydd tir isel a’r blodau gwyllt hardd, y pryfed, y mamaliaid a’r adar oedd yn eu galw’n gartref wedi diflannu; mae 80% o’n rhostiroedd porffor hardd ni wedi mynd.

Ratty gan Kenneth Grahame – y llygoden ddŵr – yw’r mamal sy’n dirywio gyflymaf yn y DU ac mae wedi’i cholli o 94% o’r llefydd lle roedd yn amlwg ar un adeg, ac mae ei dosbarthiad yn llai eang bob dydd. Hefyd mae Toad yn wynebu cyfnod anodd: mae wedi colli bron i 70% o’i rywogaeth ei hun yn ystod y 30 mlynedd diwethaf yn unig – a llawer mwy na hynny yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Gyda’n gilydd fe allwn ni wneud y bennod nesaf ar gyfer bywyd gwyllt yn un hapusach. Ymunwch â ni i helpu natur i adfer.

Mwy o wybodaeth am yr ymgyrch Dyfodol Gwyllt

Nod yr ymgyrch Dyfodol Gwylltach yw annog newid gwleidyddol a hefyd gofyn i bobl roi camau gweithredu ‘personol’, bach ar waith lle maen nhw’n byw, i helpu bywyd gwyllt. Y syniad yw y bydd y camau gweithredu unigol yma’n dod at ei gilydd i greu rhywbeth llawer mwy ledled y wlad.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur eisiau creu datblygiad arwyddocaol gydag 1 o bob 4 o bobl yn gweithredu.

Felly rydyn ni wedi comisiynu ffilm – ‘Wind & the Willows: A Wild Story’, a fydd yn cael ei dangos mewn sinemâu o 28ain Mawrth 2019 ymlaen, i ysbrydoli’r cyhoedd i weithredu.        

Yn wleidyddol, mae’r ymgyrch yn galw am greu Rhwydweithiau Adfer Natur i warchod ac uno llefydd gwyllt pwysig i fywyd gwyllt. Yma yng Nghymru, rydyn ni’n gofyn am *Fil Rheoli Tir Cynaliadwy. Yn Lloegr, mae’r ymgyrch yn galw ar i Fil Amgylchedd y Llywodraeth gynnwys mesurau i sbarduno creu Rhwydweithiau Adfer Natur; ac yn yr Alban rydyn ni’n ymgyrchu dros Fil yr Amgylchedd ar wahân.

(*Mae angen i Lywodraeth Cymru greu cyfraith newydd i gymryd lle y Polisi Amaethyddol Cyffredinol Ewropeaidd (PAC) sydd yn sybsideiddio ffermwyr a sydd yn seiliedig ar y maint o dir maent yn ei feddiannu.  Edrychir Llywodraeth Cymru greu Bil Rheoli Tir yn Gynaliadwy neu Bil “Cefn Gwlad” i gymryd lle y Polisi Amaethyddol Cyffredinol Ewropeaidd (PAC).  Bwriad hyn fydd buddsoddi mewn creu nwyddau cyhoeddus a fydd yn creu mwy o gyfleon i fywyd gwyllt, adfer cynefinoedd i encilio nwyon tai gwydr, creu rheolaethau llifogydd naturiol a chynefinoedd sydd yn puro dŵr.)