Gwirfoddoli

Conservation volunteering
Gweithredu

Gwirfoddoli dros fywyd gwyllt

Cymryd rhan!

Os hoffech chi wneud rhywbeth i helpu i warchod eich bywyd gwyllt lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Os ydych chi’n hoffi gweithio dan do neu yn yr awyr agored, mae llawer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli ar gael gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Bod yn wirfoddolwr

Y cam cyntaf i wirfoddoli yw cofrestru drwy lenwi ein ffurflen ar-lein – wedyn byddwn yn cysylltu â chi am sgwrs am y math o wirfoddoli y byddech yn hoffi ei wneud.

Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt lleol, cewch gyfarfod pobl newydd; cadw’n heini; dysgu sgiliau newydd; rhannu eich profiadau; gwella eich gwybodaeth am gadwraeth bywyd gwyllt ac wrth gwrs, mwynhau eich hun! Os oes gennych chi ddiwrnod llawn i’w sbario neu ddim ond ychydig oriau, bydd yr amser rydych chi’n ei roi’n gwneud byd o wahaniaeth. Beth am ddechrau arni nawr?!

Volunteer sawing

Katrina Martin / 2020VISION

Gwirfoddoli cadwraeth

Gweithredu’n ymarferol dros fywyd gwyllt

Mwy o wybodaeth

beach clean volunteers

Deifio i mewn i helpu bywyd gwyllt y môr!

Os ydych chi’n hoffi bod ar lan y môr beth am wirfoddoli gyda Moroedd Byw Cymru!

Mwy o wybodaeth

Orme shop volunteering

Gwirfoddoli mewn siop

Lleoliadau hyfryd a digon o gyfleoedd i gwrdd â phobl!

Mwy o wybodaeth

Male osprey LJ2 Llyn Brenig

LLyn Breng © DCWW

Gwirfoddoli Gweilch y Pysgod

Rydym angen eich help!  Rydym angen gwirfoddolwyr i dymor 2024 Gweilch y pysgod yn ein Gwylfa, ein cuddfan a’n Canolfan Ymwelwyr yn Llyn Brenig ac hefyd ar-lein  fel rhan o Wylio Gweilch y pysgod.

Mwy o wybodaeth

Ffyrdd eraill o wirfoddoli

Gwirfoddoli gyda'r cyhoedd ac mewn digwyddiadau

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnal neu'n mynychu mwy na 200 o ddigwyddiadau cyhoeddus bob blwyddyn a bod gennym ni fwy na 400 o wirfoddolwyr cadwraeth gweithredol!

Ond dydi pawb ddim eisiau baeddu eu dwylo mewn gwarchodfa. Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr presennol a rhai newydd i'n cynorthwyo ni gyda rhai o'r digwyddiadau yma a / neu fod yn bresennol yn rhai o'n gwarchodfeydd ni fel pwynt cyswllt gyda'r ymddiriedolaeth.

Os ydi hynny'n rhywbeth y gallech chi fod â diddordeb ynddo, ewch i'n tudalen we ni i wirfoddolwyr am ragor o fanylion.

Os ydi hynny'n rhywbeth y gallech chi fod â diddordeb ynddo, cysylltwch â mark.roberts@northwaleswildlifetrust.org.uk am ragor o fanylion.

Gwirfoddoli gyda gwaith gweinyddol a swyddfa

Os yw’n well gennych chi weithio dan do, mae ’na gyfleoedd i wirfoddoli yn ein swyddfa ni, Llys Garth, ym Mangor. Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am bobl i helpu yn ein derbynfa a’r siop, yn ogystal â darparu cefnogaeth weinyddol i’n staff ni. Os oes gennych chi brofiad o waith swyddfa, neu os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd, efallai mai’r rôl wirfoddoli yma ydi’r un i chi.

Bod yn wirfoddolwr

Gwirfoddoli drwy arddio er lles bywyd gwyllt

Mae Anna ac Iwan, ein Swyddogion Addysg a Chymunedol, yn gweithio gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol ar brosiectau garddio er lles bywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru. Gall hyn gynnwys gweithio gyda disgyblion i wneud tiroedd ysgolion yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt neu adeiladu bwa o helyg mewn ardal chwarae leol ... neu lawer o bethau eraill! Mae’r cyfleoedd gwirfoddoli hyn yn fwy ad hoc ond os hoffech chi gymryd rhan, cofrestrwch fel gwirfoddolwr a byddwn yn cysylltu pan fydd cyfle’n codi yn eich ardal leol.

Bod yn wirfoddolwr

Gwirfoddoli gyda’ch grŵp lleol

Ble bynnag rydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, bydd Cangen o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ardal chi. Mae’r rhain yn cael eu gweithredu gan wirfoddolwyr sy’n helpu i godi proffil yr Ymddiriedolaeth Natur yn eu cymunedau lleol. Maent yn trefnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar thema bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys teithiau tywys, dyddiau i’r teulu a sgyrsiau gan arbenigwyr lleol. Beth am fynd draw i un o’r cyfarfodydd a chymryd mwy o ran? Byddwch yn cysylltu â phobl leol sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn bywyd gwyllt. Os ydych chi’n paentio wynebau neu’n pobi cacennau, efallai y byddwch chi’r union berson mae eich Cangen leol yn chwilio amdano!

Bod yn wirfoddolwr

Cael blas ar yrfa mewn cadwraeth

Lleoliadau myfyrwyr a phrofiad gwaith           

Os ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg ac yn meddwl am yrfa mewn cadwraeth, efallai y bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n gallu cynnig cyfle i chi gwblhau eich profiad gwaith neu leoliad myfyriwr. Gallai hwn fod y cam cyntaf gennych chi at yrfa yn y sector amgylcheddol cystadleuol. Gall y lleoliadau fod rhwng 1 wythnos a 3 mis. Gellir ystyried lleoliadau hirach ar sail unigol. 

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth