Gwneud gwahaniaeth
Rydyn ni yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur, ac mae cysylltiad annatod rhwng y ddau. Mae newid yn yr hinsawdd yn sbarduno dirywiad natur ac mae colli llefydd gwyllt yn ein gadael heb adnoddau i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid.
Ond, mae pethau syml a hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud i leihau ein hôl troed carbon, addasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud gwahaniaeth mawr i'r byd naturiol.
Newid beth rydych chi’n ei fwyta
Roedd amaethyddiaeth yn cyfrif am 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yn 2018. Bydd prynu yn lleol, bwyta bwyd seiliedig ar blanhigion a lleihau eich milltiroedd bwyd yn lleihau’r ôl troed hwn.
Newid sut rydych chi’n teithio
Ar hyn o bryd mae trafnidiaeth yn cyfrif am 27% o allyriadau'r DU. Bydd gwneud newidiadau bach i'r ffordd rydych chi'n mynd o A i B yn gwneud gwahaniaeth mawr!
Newid eich defnydd o ynni
Mae'r ynni a ddefnyddir mewn adeiladau yn cyfrif am oddeutu 17% o gyfanswm yr allyriadau. Bydd lleihau eich defnydd o ynni yn y cartref drwy newid i gyflenwr ynni adnewyddadwy neu brynu pwmp gwres yn helpu i dorri’n ôl.
Ailgylchu ac ailddefnyddio
Ailgylchu, uwchgylchu - a gwneud y tro a thrwsio! Mae angen i’r gwastraff cartref rydym yn ei gynhyrchu ostwng 33% erbyn 2037 er mwyn cyrraedd targedau allyriadau. Felly ewch i estyn am eich nodwydd a'ch edau!
Lleihau eich risg o lifogydd
Ledled y DU mae 1.9 miliwn o bobl yn byw ar hyn o bryd mewn ardaloedd lle mae llifogydd sylweddol. Gallai'r nifer hwn ddyblu mor gynnar â'r 2050au. Gwnewch wahaniaeth ac osgoi palmantu dros erddi. Yn hytrach, newidiwch arwynebau caled am laswellt a phlanhigion.
Lleihau eich risg o wres
Ar hyn o bryd, mae tua 20% o gartrefi mewn perygl sylweddol o orboethi. Bydd cysgodi'ch ffenestri a phlannu mwy o wyrddni o amgylch eich tŷ yn helpu i ostwng y tymheredd.
Lleihau eich defnydd o ddŵr
Ar hyn o bryd, mae person cyffredin yn defnyddio tua 140 litr o ddŵr y dydd, gan leihau’r dŵr sydd ar gael ar gyfer bywyd gwyllt. Mae diffygion dŵr enfawr ar y gorwel yn ystod yr 50 mlynedd nesaf - felly mae angen i ni ddechrau torri’n ôl. Dim ond ychydig o'r pethau a all wneud gwahaniaeth mawr yw mesuryddion dŵr, teclynnau dŵr-effeithlon a chasgenni dŵr!
Cysylltu â’ch AS
Drwy ysgrifennu at eich AS neu ei gyfarfod wyneb yn wyneb, gallwch ei helpu i ddeall mwy am fater yn ymwneud â byd natur neu’r hinsawdd rydych yn poeni amdano’n angerddol.