Dianc o Erddi! Gweithio gyda garddwyr mewn atal 'ymledwyr y dyfodol'

Yellow archangel

© Tomos Jones / NWWT

Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol

Dianc o Erddi!

Gweithio gyda garddwyr mewn atal 'ymledwyr y dyfodol'

Darganfod ein Pecyn Cymorth Garddwyr

Cafodd ein prosiect Dihangwyr Gerddi, a ddaeth i ben yn 2026, ei gynllunio i ymgysylltu â garddwyr er mwyn atal lledaeniad rhywogaethau ymledol; fel rydym yn aml yn ei ddweud, mae 'atal yn well na gwella'.

Mae enghreifftiau o blanhigion gardd poblogaidd – nad ydynt yn ymledol ar hyn o bryd ond sydd â'r potensial i fod felly – yn cynnwys gwyddfid y bachgen llwm (Leycesteria formosa), mantell Fair (Alchemilla mollis) ac amrhydlwyd y cerrig (Erigeron karvinskianus).

Drwy'r prosiect hwn, rydym:

  • Wedi cyrraedd dros 25,000 o bobl ar-lein ac mewn 34 o ddigwyddiadau
  • Wedi hyfforddi dros 130 o weithwyr proffesiynol ym maes garddwriaeth
  • Wedi gweithio gyda dros 15 o sefydliadau
  • Wedi lansio arddangosfa gelf o'r enw Tu Hwnt i'r Ffin: Gwreiddiau'n Dianc o Erddi. Archwiliwch fersiwn ddigidol yma
  • Wedi arolygu 130 hectar o safleoedd gwarchodedig a gwarchodfeydd natur YNGC i chwilio am rywogaethau a allai fod yn ymledol
  • Wedi cyflwyno dros 3,000 o gofnodion planhigion newydd i Cofnod
  • Wedi nodi 20 rhywogaeth a allai fod yn ymledol
  • Wedi lansio ein Pecyn Cymorth i Arddwyr amlgyfrwng, sy'n cynnwys proffiliau 15 planhigyn, wyth fideo, canllawiau, awgrymiadau defnyddiol a chalendr
Welsh Garden Escapers graphic

© David Setter | NWWT

Pecyn Cymorth Garddwyr

Mae Adroddiad Monitro a Gwerthuso'r prosiect hwn i'w weld yma. Mae'r atodiadau ar gael ar gais.

Gallwch hefyd gysylltu efo ni:

INNSTeam@northwaleswildlifetrust.org.uk

Lottery heritage fund logo (Cronfa Treftadaeth) with Welsh Government

®Lottery Heritage Fund in partnership with Welsh Government