Ffyngau

A bright yellow/ orange branching fungi that resembles a deer's antlers, Growing out of pinecones, on ground covered in pine needles.

Yellow antler fungus - Guy Edwardes 2020Vision

Ble mae dod o hyd i ffyngau

Madarch a chaws llyffant

Gyda mwy na 15,000 o rywogaethau yn y DU, mae ffyngau’n deyrnas gyfan ar eu pen eu hunain. Nid yw’r bodau rhyfedd yma’n blanhigion nac yn anifeiliaid, ac mae eu hamrywiaeth yn aruthrol. Cywion y coed a theisennau Brenin Alfred, balerinas pinc a chwpanau Robin Goch, blewitau a boledau; rhai ag enwau hyfryd, rhai’n hyfryd i’w blasu, ac eraill yn wenwynig. Mae pob cynefin yn gartref i amrywiaeth wych o ffyngau, a’r hydref yw’r amser gorau i astudio’r byd eithaf dieithr yma: efallai y cewch chi eich synnu gan faint welwch chi!

Nid yw’r bodau rhyfedd yma’n blanhigion nac yn anifeiliaid, ac mae eu hamrywiaeth yn aruthrol

Chwilio am ffyngau yn eich ardal chi

Yn llysnafeddog ond hardd, mae ffyngau tlws y capiau cwyr yn addurno’r glaswelltiroedd bob hydref yn Eithinog ger Bangor, Gwynedd. Mae tua 20 rhywogaeth o’r grŵp yma o ffyngau wedi cael eu cofnodi ar y safle, sy’n golygu mai dyma un o’r llefydd pwysicaf yn y DU ar gyfer y grŵp rhyfeddol yma o organebau.

Sut mae gwneud hyn

Yn ogystal â llawer o fadarch gwyllt blasus dros ben, mae ffyngau hefyd yn cynnwys rhai o’n rhywogaethau mwyaf gwenwynig ni, gydag enwau priodol fel cyfogwr, crwst gwenwynig, cap marwol ac angel y fall. Peidiwch BYTH â bwyta unrhyw ffyngau welwch chi nes eich bod 100% yn sicr beth ydyn nhw. Oni bai eich bod yng nghwmni arbenigwr, mae’n well gadael madarch ble maen nhw – fe fydd eraill yn gallu mwynhau eu harddwch wedyn – a mynd â dim ond llun adref gyda chi.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n cynnal digwyddiadau ‘hela ffyngau’ yn ystod yr hydref – edrychwch ar ein tudalennau digwyddiadau i gael gwybod mwy.

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Mae ffyngau’n tyfu ym mhob cynefin a does dim rhaid i chi fynd i warchodfa natur i ddod o hyd i’ch caws llyffant cyntaf: mae’n bur debyg y bydd sawl rhywogaeth yn eich gardd chi. Cofiwch annog ffyngau i dyfu drwy adael boncyffion a changhennau i bydru ac aros i weld beth ddaw. Fe fyddwch chi’n helpu chwilod yn y pen draw hefyd!

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.