Ymgyrch Dorfol #TheTimeIsNow

Badger protest_Mass Lobby

Ymgyrch Dorfol #TheTimeIsNow

Ymunwch â miloedd o bobl yn San Steffan i ddweud wrth ASau mai nawr yw’r amser i weithredu

Ar y 26 Mehefin bydd miloedd ohonom yn ymgynnull yn San Steffan, canol Llundain, i alw ar ein gwleidyddion i osod y sylfeini ar gyfer byd disgleiriach, gwyrddach a diogelach. Mae pobl ledled y byd yn dioddef effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac mae ein poblogaethau bywyd gwyllt yn cael eu dileu. Nawr yw'r amser i'r ASau ddod â chyfraniad y DU i newid yn yr hinsawdd i ben a phasio deddfau uchelgeisiol ar gyfer adfer byd natur ar y tir ac yn y môr. Nid oes gennym amser i'w wastraffu. Ymunwch â ni i ddangos y ffordd i’n gwleidyddion tuag at #DyfodolGwyllt / #WilderFuture.

Cofrestrwch ar y map isod, fel ein bod yn gwybod y byddwn yn eich gweld chi yno! Gweler y wybodaeth o dan y map am fwy o fanylion am y diwrnod.

Mae ein ASau yno i'n cynrychioli, dyna yw eu gwaith, felly mae angen i ni ddweud wrthyn nhw beth rydyn ni am ei gael.

Gwybodaeth am y diwrnod

Pam nawr?

Yr haf hwn rydym am weld Llywodraeth San Steffan yn cefnogi Deddf Amgylchedd gref ac uchelgeisiol. Bydd hyn yn sicrhau bod amddiffynfeydd amgylcheddol presennol yn cael eu diogelu a'u gwella, ac yn rhoi deddfwriaeth gryfach i ddiogelu ac adfer bywyd gwyllt. Rydym hefyd am iddynt ymrwymo i darged o ddim allyriadau net.

Gyda'n gilydd byddwn yn galw am gyfreithiau cryf i ddiogelu ein hinsawdd, ein natur a'n pobl.

Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?

Bydd miloedd yn ymuno ag ymgyrch dorfol sydd wedi’i drefnu i giwio o amgylch San Steffan, wedi’i gwahanu yn ôl etholaeth ac yn llawn o bobl sydd yn awyddus i siarad gyda’u ASau am yr amgylchedd.

1pm: Mae'r ymgyrch yn dechrau. Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i chi ddod o hyd i ardal eich etholaeth, felly dylech ganiatáu digon o amser a sicrhau eich bod yn y llinell ymgyrch erbyn 1pm. Bydd arwyddbyst ar gyfer rhanbarthau ac etholaethau — gweler y canllaw am ragor o fanylion.

2pm: Moment cloc larwm! Wrth ymgasglu yn llinell yr ymgyrch, rydym am osod gymaint o glociau larwm â phosibl i ganu. Drwy wneud hynny, byddwn yn anfon neges i San Steffan bod angen iddynt ddeffro ac ymateb i'r heriau y mae ein byd hardd yn eu hwynebu. Dewch â chloc larwm cludadwy o gartref neu defnyddiwch eich ffôn!

1-4pm: Cwrdd â'ch ASau o gwmpas y senedd. Bydd 10,000 ohonom ni'n cyfarfod â'n ASau yn y strydoedd o gwmpas y Senedd, i gyd ar yr un pryd! 

Sut fydda i'n cyrraedd yno?

  1. Mae bysiau penodol yn teithio o 10 lleoliad yn y DU yn uniongyrchol i'r ymgyrch dorfol, a'r orsaf agosaf yw Manceinion, gallwch brynu tocynnau yma. I'r rhai sy'n mynychu'r ymgyrch, bydd y cod disgownt CCL2019 yn eich galluogi i gael 25% oddi ar bysiau National Express i orsaf bysiau Victoria ar y diwrnod. Rydym yn cynghori pawb i ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu rannu ceir lle bo'n bosibl.
     
  2. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn trefnu bws mini o Fangor ar sail y cyntaf i'r felin. (Ni chodir tâl am y bws mini, ond byddech chi'n gyfrifol am brynu eich tocyn tiwb eich hun ar y diwrnod). Dewch i adnabod eich cyd-gefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ogystal â'n staff hyfryd a theithio gyda'n gilydd ar y diwrnod! Bydd y bws mini yn cychwyn o Swyddfa Ymddiriedolaethau Natur Gogledd Cymru Bangor (Llys Garth, Ffordd y Garth, Bangor, LL57 2RT) am 6am ar Fehefin 26 gan deithio i Amersham lle byddwn yn mynd â thiwb i mewn i Lundain (1 awr). Byddwn yn gadael y digwyddiad ymgyrchu am 5pm yn ôl i Amersham lle byddwn wedyn yn gyrru yn ôl i Ogledd Cymru gyda'r nod o fod yn ôl ym Mangor rhwng 11pm a 12am. I archebu eich lle ar y bws mini cysylltwch ac Andy os gwelwch yn dda, Andy.OCallaghan@northwaleswildlifetrust.org.uk

NODER: Canllaw bras yw hwn a gall cynlluniau ar y diwrnod newid. Dylai unrhyw un sy'n teithio i lawr i Lundain gyda'r bws aros yn y grŵp. Bydd rhifau cyswllt pobl yn cael eu casglu cyn y digwyddiad er mwyn sicrhau y gallwn gael gafael arnoch os byddwn yn eich colli. Cadwch ffôn gyda batri ynddo gyda chi bob amser, a dewch â bwyd/dŵr ar gyfer y daith.

Os nad ydych yn ymuno â ni ar ein bws, rydym yn dal i gynghori pawb i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu ceir lle bo'n bosibl. Mae bysiau penodol yn teithio o fannau amrywiol yn y DU yn uniongyrchol i'r ymgyrch dorfol, a'r orsaf agosaf yw Manceinion, gallwch brynu tocynnau yma. I'r rhai sy'n mynychu'r ymgyrch, bydd y cod disgownt CCL2019 yn eich galluogi i gael 25% oddi ar bysiau National Express i orsaf bysiau Victoria ar y diwrnod.

Beth fydda i'n ei wneud pan fydda I'n cyrraedd?

Os ydych yn cyrraedd ar y Tiwb bydd gwirfoddolwyr wrth law i'ch cyfeirio at yr ymgyrch.

Mae llinell yr ymgyrch o’r Senedd i lawr i Bont Lambeth ac yn ôl ar hyd ochr arall afon Tafwys. Bydd arwyddbyst ar gyfer rhanbarthau ac etholaethau — gweler canllaw yr ymgyrch am ragor o fanylion.

Sefydliadau sy’n ymwneud â’r ymgyrch

Asiantaeth Cymorth Catholig (CAFOD), Cymorth Cristnogol, Cyfeillion y Ddaear, Greenpeace, RSPB, Tearfund, Oxfam, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sefydliad y Merched (WI), WWF a Coed Cadw

Ddim yn gallu bod yno?

Os na allwch fod yno, yna peidiwch â phoeni, gan fod ffyrdd eraill o leisio barn. Rydym yn gofyn i bobl rannu pam eu bod yn poeni am adferiad natur, fel y gallwn ddosbarthu'r negeseuon personol hyn i ASau dros yr haf a'r hydref. Mae'n hollbwysig i gynifer ohonom leisio ein barn â phosibl, gan mai dyma'r amser i'n gwleidyddion sefyll dros gyfreithiau amgylcheddol cryfach. Ymunwch â ni i gymryd camau dros Ddyfodol Gwyllt a helpu i ysgrifennu'r bennod nesaf ar gyfer ein byd naturiol heddiw.

Gweithredu

Sylwch y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw gan Gymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur sydd yn addo diogelu eich data yn unol â Pholisi Preifatrwydd yr Ymddiriedolaeth Natur.