Bryn Ifan

Bryn Ifan

Bryn Ifan © Gwynn Jones

Bryn Ifan

Gweledigaeth ar gyfer ffermio a bywyd gwyllt

Mae Bryn Ifan yn gyfle prin i adfer byd natur a darparu buddion ehangach i’r economi a chymunedau lleol.

Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Gan weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chymunedau lleol, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bwriadu adfer byd natur ym Mryn Ifan – 450 o erwau ger Clynnog Fawr – er budd pobl a bywyd gwyllt.

Mae caffael a'r rheolaeth barhaus ar Fryn Ifan wedi'i gyllido, a bydd yn cael ei gyllido, drwy ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys rhodd hael gan Aviva, a fydd yn galluogi i ni adfer coedwig law Geltaidd i lethrau Bwlch Mawr. Mae ein hapêl lwyddiannus wedi codi mwy na £75,000 ond bydd arnom angen eich cefnogaeth barhaus chi i godi arian i helpu byd natur i adfer yn y llecyn arbennig yma.

Yng Nghymru, mae bywyd gwyllt wedi bod yn prinhau ac erbyn hyn mae 17% o rywogaethau mewn perygl o ddifodiant. Gyda’n gilydd, gallwn adfer cynefinoedd ar gyfer glöynnod byw prin, adar, rhedyn a blodau a hefyd cefnogi ffermio cynaliadwy ac adfywiol.

Marsh Fritillary

Marsh fritillary © Vaughn Matthews

Newyddion a diweddariadau

Bryn Ifan heddiw ...

Small Pearl bordered Fritillary

Small Pearl bordered Fritillary - Chris Lawrence

Diolch i ofal cydymdeimladol y perchnogion blaenorol, mae Bryn Ifan mewn cyflwr da ac mae rhai rhywogaethau prin i’w canfod yma eisoes. Fodd bynnag, mae angen adfer llethr Bwlch Mawr yn goetir, ac mae gan y caeau isaf botensial mawr i ddenu amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt.

... ac yfory

Grasshopper warbler singing from a bramble

© Richard Steel/2020VISION

O dan ein gofal ni, mae dyfodol Bryn Ifan yn ddisglair. Byddwn yn cefnogi ffermio adfywiol a fydd yn helpu byd natur; yn gwella gwlybdir o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn plannu coetir brodorol ar ffridd yr ucheldir lle byddai wedi tyfu'n naturiol flynyddoedd yn ôl.

Byddwn hefyd yn rhannu’r manteision ymhlith y gymuned ehangach drwy weithio’n agos gyda pherchnogion tir lleol, porwyr a chontractwyr – gan gynnwys partneriaeth sydd o fudd i’r ddwy ochr gyda fferm Henbant Permaculture drws nesaf.

View from Bryn Ifan

View from Bryn Ifan © Gwynn Jones

Plîs cefnogwch ein Hapêl ar gyfer Bryn Ifan

Mae ein hapêl gychwynnol wedi codi swm anhygoel o £80,823. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu mor hael.

Ond bydd arnom angen eich cefnogaeth barhaus chi i godi arian i helpu byd natur i adfer yn y llecyn arbennig yma.

Cyfrannwch heddiw

© Gwynn Jones

Eisiau gwybod mwy?

Ble mae Bryn Ifan?

Mae Bryn Ifan i'r de o Gaernarfon, lle mae Penrhyn Llŷn yn dechrau ymffurfio. Saif ar lethrau gogledd-ddwyreiniol y mynyddoedd sy'n cynnwys Yr Eifl, yn rhedeg i lawr i'r iseldiroedd sy'n mynd tua'r de i Borthmadog. Gan ei fod yn agos at yr arfordir, mae gwyntoedd de-orllewinol llawn glaw yn effeithio'n fawr arno.

Location map for Bryn Ifan

© NWWT

Beth yw Bryn Ifan?

Mae'n 450 o erwau o dir cymysg, sy'n cynnwys glaswelltir iseldir a thir comin uchel (gyda Bryn Ifan yn unig yn dal hawliau pori'r comin). Mae’n cynnwys gwlybdir sy'n cael ei bori, y mae rhan ohono’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a llain ucheldirol o dir pori garw, rhedyn sylweddol ac allgreigiau.  

Pam mae YNGC wedi ei gaffael?

Mae’n helpu i gyflawni ein blaenoriaeth o gynyddu tir a reolir yn weithredol ar gyfer adferiad byd natur. Yma, byddwn yn rhoi bywyd gwyllt yn ganolog mewn rhwydwaith lleol o gynefinoedd llawn bywyd gwyllt. Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr cyfagos; gan obeithio dangos dyfodol gyda'n gilydd ar gyfer ffermio da byw, cynhyrchu bwyd a bywyd gwyllt. Bydd Bryn Ifan hefyd yn gadael i ni ddangos sut gall datrysiadau sy’n seiliedig ar natur mewn amaethyddiaeth gefnogi cymdeithas drwy helpu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd drwy, er enghraifft, dal a storio carbon.

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’r safle?

  • Byddwn yn gweithio gyda chymunedau a ffermwyr lleol drwy ymgynghori a digwyddiadau i sicrhau'r buddion diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol ehangach gorau posibl.
  • Byddwn yn dryloyw ym mhopeth fyddwn yn ei wneud a byddwn yn annog cyfranogiad gan bobl leol yn y cynlluniau ar gyfer y fferm yn y dyfodol.
  • Byddwn yn rhoi amser i ddeall y tir a'i hanes.
  • Byddwn yn cynnal arolygon pridd, llystyfiant, ffiniau, trin stoc, mwyngloddio, archaeoleg, mynediad a bywyd gwyllt fel sail i'n cynlluniau.
  • Byddwn yn edrych ar sut mae'r tir wedi cyfrannu at amaethyddiaeth leol, sut mae'n cyd-fynd â systemau ffermio cyfagos, a sut mae wedi newid dros filoedd o flynyddoedd.
  • Os yw'r tir yn wael ar gyfer da byw a bywyd gwyllt ar lethrau'r ucheldir byddwn yn gwneud gwaith adfer coetiroedd a fydd yn cael ei bori yn ysgafn ymhen amser efallai fel rhan o’n gwaith cadwraeth.                    
  • Os yw'r tir yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt byddwn yn sicrhau ei fod yn ffynnu, ac os yw'r tir yn dda ar gyfer amaethyddiaeth, gyda ffermwyr lleol, byddwn yn ymchwilio ac yn cynllunio sut gall cynhyrchu bwyd a bywyd gwyllt lwyddo gyda'i gilydd i helpu fel sail i ddyfodol i ffermio yng Nghymru.
  • Byddwn yn parhau â'r trefniadau mynediad cyhoeddus presennol ac yn gweld sut gellir rheoli mynediad pellach heb beryglu anghenion bywyd gwyllt a da byw. Byddwn yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau dwyieithog, ac yn cynnwys pobl leol a phlant ysgol yn nyfodol Bryn Ifan.

Pa fywyd gwyllt ydw i’n debygol o’i weld yno?

Ar hyn o bryd, ychydig o wybodaeth sydd gennym am y bywyd gwyllt sy’n defnyddio’r tir, ac mae'n flaenoriaeth i ni ddod i wybod mwy. Rydym yn gwybod bod yr ehedydd a chorhedydd y waun yn magu ar yr ucheldir. Yr ardal fwyaf adnabyddus yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cors y Wlad, gwlybdir sy'n gartref i löynnod byw gan gynnwys o glöyn byw prin britheg y gors, y gwalch-wyfyn gwenynaidd ymyl gul, y troellwr bach, ac amrywiaeth eang o blanhigion y gwlybdir. Yr iseldir yw'r ardal rydym yn ei deall leiaf, ond rydym yn gwybod bod yno ysgyfarnogod, dyfrgwn a thylluanod gwynion.

Ydw i’n cael ymweld?

Mae’r daith gerdded yn Llwybrau Gwyllt: Gwarchodfeydd Natur a Thu Hwnt! yn cynnwys Gwarchodfa Natur Caeau Tan y Bwlch ac yn dilyn y llwybr troed cyhoeddus i ucheldir Bryn Ifan.   

Ydych chi’n mynd i “ailwylltio” y tir?

Rydyn ni’n mynd i roi’r cyfle gorau i fywyd gwyllt adfer yma, ond dydyn ni ddim yn mynd i adael Bryn Ifan heb ei reoli i “ailwylltio”. Ers miloedd o flynyddoedd, mae pobl wedi dylanwadu ar sut mae Bryn Ifan heddiw; drwy fwyngloddio, ffermio ac annog bywyd gwyllt. Mae’r amgylchedd naturiol; y tywydd, daeareg, dŵr, ansawdd aer a’r pridd wedi creu’r clytwaith o gynefinoedd a welwn hefyd. Er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu, bydd pobl yn rhan bwysig o ddyfodol Bryn Ifan; bydd yn parhau i fod yn rhan o'r economi leol, bydd yn cynnig datrysiadau sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd, a gyda Gwarchodfa Natur Caeau Tan y Bwlch, bydd yn adnodd cymunedol ac yn gyrchfan i bawb sy'n hoff o fywyd gwyllt. Gan weithio gyda phrosesau naturiol, drwy gydbwysedd o reolaeth amaethyddol, a gwella a chadwraeth bywyd gwyllt, byddwn yn creu llecyn llewyrchus ar gyfer pobl a bioamrywiaeth.

Gyda phwy allaf i gysylltu os oes gen i gwestiynau pellach?

Frances Cattanach, Prif Weithredwraig, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Frances.Cattanach@northwaleswildlifetrust.org.uk

Sut ydych chi'n gallu cyflwyno prosiect ar y raddfa hon?

Mae caffael a'r rheolaeth barhaus ar Fryn Ifan wedi'i gyllido, a bydd yn cael ei gyllido, drwy ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys y canlynol:

Mae’n gymysgedd cyllido cymhleth oherwydd mae ein cynlluniau helaeth ni ar gyfer adferiad byd natur ym Mryn Ifan yn gymhleth eu hunain – mae’n gyfle gwych! Mae ein gweledigaeth yn cynnwys adfer coetiroedd, rheoli gwlybdiroedd, amaethyddiaeth adfywiol, ymgysylltu â’r gymuned a mwy – a byddem wrth ein bodd pe baech chi yn rhan ohono.