Beached!

beach
Cadwraeth Bywyd Gwyllt

Beached!

Beth sydd yn traethu yn eich hardal chi?

Mae Beached! yn brosiect newydd sy’n ceisio mapio’r bywyd môr marw neu ar farw sy’n cronni ar hyd ein traethau ni, o Southport i Aberdyfi. Mae hwn yn ddigwyddiad cyffredin ac, yn aml iawn, yn ddigwyddiad naturiol fel rhan o gylch bywyd y môr, ond ychydig iawn ydyn ni’n ei wybod am ble neu pam mae’r ‘drylliadau’ hyn yn digwydd.

Pam hoffem ddod i wybod am greaduriaid sydd wedi marw?

Mae Môr Iwerddon yn gynhyrchiol iawn ac mae hynny i’w weld wrth edrych ar y draethlin lle mae gweddillion anifeiliaid a phlanhigion i’w gweld yn aml ar ôl iddynt farw.

Mae edrych ar beth sydd ar y draethlin yn ein helpu ni i ddeall beth sy’n digwydd yn y môr.

Mae Beached! yn gobeithio ateb dau gwestiwn am ein traethlin:

  1. Bob hyn a hyn mae’r draethlin yn llenwi gyda llawer iawn o anifeiliaid marw neu ar farw o un neu ddwy rywogaeth. Beth sydd wedi achosi hyn tybed? Rhaid i ni gofnodi’r ‘drylliadau molwsgiaid’ hyn o fywyd môr marw er mwyn gallu dadansoddi pethau fel y tywydd ar y pryd.
  2. Ble mae’r traethlinau yma? Mae cregyn a phethau eraill yn casglu mewn niferoedd mawr mewn rhai llecynnau. Ydi’r rhain yn yr un lle o hyd ac a oes gwahanol rywogaethau i’w gweld ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn?

Byddai’r prosiect yma’n addas iawn i bobl sy’n cerdded ar hyd traeth yn rheolaidd ac sydd eisiau gwybod mwy am y môr oddi ar y lan.

Cymrwch ran yn Beached!

Tynnwch lun y bywyd môr marw, gan nodi ei hyd yn fras (a’i leoliad GPS os yw hynny’n bosib). Tynnwch lun agos o bob rhywogaeth unigol sy’n bresennol.

Cofnodwch eich darganfyddiad!

Cofnodwch eich darganfyddiad ar System Gofnodi Ar-Lein Cofnod.

Os nad ydych wedi cofrestru ar wefan Cofnod, cymerwch funud neu ddau i lenwi ffurflen gofrestru

Os ydych wedi cofrestru yn barod, logiwch i mewn a dewiswch "Enter Records" a "Beached!"

Yn olaf, cliciwch yma i e-bostio ein Swyddog Prosiectau Moroedd Byw am fwy wybodaeth.

Drylliad neu gronfa raddol o weddillion?

beach

Sut i wahaniaethu rhwng ‘drylliadau’ a gweddillion sydd wedi cronni’n raddol

Mae ‘drylliadau molwsgiaid’ yn cynnwys llawer o anifeiliaid wedi marw ac ar farw

Er enghraifft, bydd y rhan fwyaf o’r cregyn yn cynnwys cyrff.

Efallai bod llawer o wylanod a brain yn bwydo arnynt – ond sylwch y gall fod yn debyg iawn i ginio Nadolig, oherwydd ar ôl diwrnod neu ddau efallai bod yr ysglyfaethwyr mor llawn o fwyd fel mai dim ond eistedd o gwmpas yn treulio’r wledd maen nhw.

Razor shells at Rhyl

Gweddillion cyllyll fôr yn Y Rhyl ©Georgina Gittins

Fel rheol mae dwysedd o weddillion yn cynnwys cregyn gwag yn unig ac un rhywogaeth fydd yma’n aml.    

Mae gennym ni ddiddordeb o hyd mewn cofnodion am y dwyseddau yma, yn enwedig os ydych chi’n eu gweld yn rheolaidd ar eich traeth.

Get to know how to ID some of our commonly wrecking species: