Adar yn mudo

Ble mae gweld adar yn mudo

Starling murmuration © Danny Green2020VISION

Adar yn mudo

Os ydynt yn hedfan o’r de i fagu yn y gwanwyn, neu o’r gogledd yn y gaeaf i chwilio am fwyd neu dywydd cynhesach, neu ddim ond yn mynd heibio ar eu siwrnai, mae adar mudo’n un o’r digwyddiadau naturiol mwyaf nodedig yn y DU. Byddwch yn dyst i’r mynd a dod yn ystod y flwyddyn a chofiwch gadw llygad am y rhai sy’n ffafrio hedfan yn unigol. Y gog ym mis Ebrill, adar rhydio’r Arctig ym mis Gorffennaf, ac aderyn lleiaf Ewrop ym mis Hydref, y dryw melyn cribog, sy’n pwyso’r un faint â darn deg ceiniog ond eto, yn anhygoel, yn gallu teithio ar draws Môr y Gogledd i dreulio’r gaeaf yma. 

Does dim llawer o brofiadau bywyd gwyllt mwy rhyfeddol na gwylio adar yn mudo yn mynd heibio a synnu at y pellteroedd maen nhw wedi’u teithio a pha mor bell yw eu siwrnai eto.

Ble mae gweld adar yn mudo

Gwnewch ychydig o ymchwil ymlaen llaw i gael gwybod am rai o warchodfeydd gorau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i weld adar mudo. Mae adar sy’n heidio’n hynod symudol ac nid ydynt yn y lleoliad rydych yn ei ddisgwyl bob amser! Mae’n werth cysylltu â ni ymlaen llaw i gael gwybod pa ymwelwyr sydd yn yr ardal a chofiwch feddwl am yr adeg o’r flwyddyn – rydyn ni wedi rhannu rhai uchafbwyntiau tymhorol o dan y rhestr yma o warchodfeydd!

Beth i gadw llygad amdano

Byddwch yn barod i godi’n gynnar oherwydd weithiau oriau cyntaf y dydd yw’r rhai prysuraf. Dewch â brechdanau! ’Fyddwch chi ddim eisiau colli eiliad o’r digwydd yn gorfod mynd i chwilio am ginio i rywle.

Ar hyd yr arfordir mae’r llecynnau gorau i weld adar yn mudo, yn enwedig yn ystod y gwanwyn, ond mae posib gweld mudo’r hydref yn unrhyw le yn y wlad. O gymharu â’r brysio mawr tua’r gogledd, pan mae’r holl adar yn cyrraedd ar yr un pryd i fwynhau cymaint o wanwyn â phosib a chyflawni’r dasg hanfodol o fagu, mae adar yn teithio tua’r de mewn camau, gan stopio am danwydd ac i gymdeithasu ar y daith. Dyma rai uchafbwyntiau i gadw llygad amdanynt:

Gwanwyn

Mae’r mudo yn y gwanwyn yn cael ei adnabod fel y brysio mawr tua’r gogledd wrth i adar rasio’n ôl i’w tiroedd magu mwy gogleddol ar ôl treulio’r gaeaf mewn rhanbarthau cynhesach ymhellach i’r de. Mae teimlad o frys a’r adar yn awyddus iawn i hawlio’r tir gorau neu ddod o hyd i’r cymar gorau, felly pur anaml mae mudwyr y gwanwyn yn oedi yn un lle am hir, nes eu bod wedi cyrraedd eu cyrchfan terfynol.

Yn y gwanwyn mae llawer o’n hymwelwyr haf yn dychwelyd, adar sy’n magu yn y DU ond yn treulio’r gaeaf yn ne Ewrop, Affrica neu ymhellach i ffwrdd hyd yn oed. Mae llawer o’r rhain yn bwyta pryfed ac nid oes digon o fwyd iddynt yma dros y gaeaf. Maent yn gallu ymddangos cyn gynhared â mis Mawrth, a thinwen y garn, y siff saff, gwennol y glennydd a mwyalchen y mynydd yw’r rhai cyntaf i gyrraedd.  

Mae pethau’n poethi ym mis Ebrill, gyda mwy o adar yn cyrraedd drwy’r amser. Mae gwenoliaid, teloriaid yr helyg, teloriaid penddu, tingochiaid, corhedyddion y coed, siglennod melyn a gwenoliaid y bondo i’w gweld yn gynnar yn y mis yn aml, ac ymhlith yr hwyr ddyfodiaid mae terloriaid yr ardd, gwenoliaid duon a’r gwybedog brith a mannog. Hefyd ym mis Ebrill daw’r gog yn ei hôl ac mae ei chân yn cael ei hystyried yn eang fel arwydd pwysig o ddyfodiad y gwanwyn.

Mae adar môr yn magu’n cyrraedd ein glannau yn y gwanwyn hefyd. Weithiau gellir gweld môr-wenoliaid y gogledd, môr-wenoliaid cyffredin, môr-wenoliaid pigddu a môr-wenoliaid bach yn hedfan o amgylch ein harfordir ni. Mae palod, gwylogod, llursod a gwylanwyddau i gyd yn ailymddangos ar eu tiroedd magu ar glogwyni neu ynysoedd creigiog ar ôl treulio’r gaeaf allan ar y môr. Mae adar ysglyfaethus yn nodwedd arall o fudo’r gwanwyn, gyda’r ymwelwyr haf yn cynnwys gwalch y pysgod, hebog yr ehedydd a bwncath y mêl, sy’n aderyn prin iawn i’w weld.                    

Hefyd mae’r gwanwyn yn amser da i weld adar mudo prinnach nad ydynt yn magu yng Nghymru fel rheol. Gall gwyntoedd dwyreiniol wthio adar yn mudo oddi ar eu llwybr, gan arwain at ddarganfod rhywogaethau dieithr fel adar gyddfgam a bronleision ar ein glannau ni. Gall gwyntoedd deheuol ac amodau ffafriol achosi i adar sydd fel rheol yn magu ymhellach i’r de hedfan yn rhy bell, gan gyrraedd Cymru. Rydym yn dod ar draws y copogion, gwenynysorion a’r cwtyn hirgoes adeinddu weithiau.

Haf

Yn gynnar yn yr haf mae’r rhan fwyaf o adar yn brysur yn magu eu cywion ond heb unrhyw ddyletswyddau rhiant i boeni amdanynt, mae’r gog eisoes yn mynd tua’r de ym mis Mehefin. Erbyn mis Gorffennaf gall fod yn ôl yn y Sahel, yn gwledda ar lindys gwyfynod Affricanaidd ac yn cynllunio cymal nesaf ei siwrnai i fforestydd glaw canolbarth Affrica.

Ym mis Gorffennaf mae’r adar rhydio mudol cyntaf yn dychwelyd i’n harfordiroedd a’n tiroedd gwlyb ni, yn brysur yn bwydo ac yn ailstocio eu cronfeydd braster yn barod am gymal olaf eu siwrnai i lawr i Affrica a thu hwnt. Mae mudo’r adar rhydio yma’n newid gêr ym mis Awst a gyda lwc gellir gweld rhywogaethau prinnach fel y cwtyn hirgoes bach a’r gylfinir bach. 

Hefyd, ym mis Gorffennaf mae’r môr-wenoliaid yn dechrau ymledu o’u poblogaethau magu ac mae posib eu gweld wedi’u gwasgaru ar hyd ein glannau ni, yn paratoi ar gyfer eu siwrnai eu hunain tua’r de. I fôr-wenoliaid y gogledd, gall y siwrnai yma fynd â hwy cyn belled ag Antarctica. Nhw sy’n gwneud y siwrnai fudo hiraf i’w chofnodi erioed, gan deithio 59,000 o filltiroedd; pellter anhygoel sy’n cyfateb i hedfan ddwywaith rownd y blaned!

Yn ystod mis Awst, mae gwenoliaid duon yn cychwyn ar eu siwrnai ddi-stop i lawr i Dde Affrica. Mae gwenoliaid a gwenoliaid y bondo’n dechrau ymgynnull ym misoedd Awst a Medi, gan ymuno’n heidiau mawr mewn corslwyni a ffurfio llinellau cyfarwydd ar hyd gwifrau ffôn cyn iddynt hwythau hefyd benderfynu ei bod yn amser gadael, gan hedfan yn ôl i lawr ar draws Ewrop a Môr y Canoldir tua Botswana.

Hydref

Mae mudo’r hydref yn teimlo’n wahanol iawn i’r brysio gogleddol mawr yn y gwanwyn. Does dim brys ac mae’r adar yn teithio’n araf tua’r de ac yn stopio am ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau yn aml, am danwydd ac i orffwys ar eu siwrnai.   

Wrth i’n hymwelwyr haf ni raddol ddiflannu, mae adar a dreuliodd fisoedd yr haf mewn gwledydd mwy gogleddol yn dechrau pasio heibio ar eu siwrnai tua’r de. Mae miloedd o deloriaid, clochdarod a’r gwybedog yn cyrraedd ein glannau ni o Wledydd Llychlyn, a phawb ag un peth ar eu meddwl: y siwrnai i Affrica.

Mae miloedd o garfilod, gwylanod coesddu a gwylanwyddau’n gadael eu poblogaethau ac yn mynd draw am Fae Biscay a Gogledd yr Iwerydd ar gyfer y gaeaf. Yn wynebu’r pibydd llydandroed gyddfgoch hynod fach, aderyn rhydio o’r un maint ag aderyn y to sy’n magu ar byllau ar Ynysoedd Shetland, mae tasg enfawr o nid yn unig hedfan bob cam ar draws Môr yr Iwerydd ond wedyn hedfan bob cam ar draws yr Americas i dreulio misoedd y gaeaf yn y Pasiffig cyhydeddol, yn siglo i fyny ac i lawr ar y moroedd o amgylch ynysoedd y Galapagos.

Ym mis Hydref, daw tro’r bronfreithod a’r breision, a miloedd o elyrch a gwyddau, sy’n hedfan ar ffurf V cyfarwydd. Mae adenydd cwyr yn cyrraedd am y gaeaf o Wledydd Llychlyn, ac efallai y gwelwch chi niferoedd mawr o’r dryw melyn cribog cain, aderyn lleiaf Ewrop sy’n pwyso’r un faint â darn deg ceiniog ond eto’n gallu teithio ar draws Môr y Gogledd i dreulio’r gaeaf yma gyda ni.

Gaeaf

Mae llawer o’r adar sy’n treulio’r gaeaf yn y DU yn cyrraedd yn yr hydref, ond gall tywydd oer neu ddiffyg bwyd yng ngogledd Ewrop yrru niferoedd mawr o adar i groesi Môr y Gogledd.

Adenydd cwyr yw’r adar y mae’r disgwyl mwyaf am eu gweld yn cyrraedd yn y gaeaf, gyda’u plu lliwgar yn eu gwneud yn ffefrynnau gan lawer o wylwyr adar yn y DU. Dim ond llond dwrn o’r adar hardd hyn ddaw ambell aeaf, ond daw niferoedd enfawr gyda’i gilydd yn ystod blynyddoedd eraill. Yr enw ar yr heidiau mawr yma sy’n cyrraedd yw ‘rhuthrgyrch’ ac maent yn digwydd pan mae’r tywydd yng Ngwledydd Llychlyn a gogledd Rwsia’n eithriadol arw, neu os bu cnwd gwael o’u hoff fwyd, aeron. Mae adenydd cwyr i’w gweld mewn meysydd parcio mewn archfarchnadoedd yn aml, yn gwledda ar goed llawn aeron.

Tua diwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr y gwelir y nifer mwyaf o leianod gwynion yn y DU hefyd gan amlaf. Nid yw’r gwrywod du a gwyn trawiadol yn crwydro ymhell o’u tiroedd magu cyfandirol felly benywod neu adar ifanc yw’r rhan fwyaf o’r adar welwch chi, sy’n cael eu hadnabod fel y pennau cochion oherwydd y plu coch ar eu corun a’u gwar. Mae lleianod gwynion yn hoff o byllau graean ond maent i’w gweld ar unrhyw gorff mawr o ddŵr croyw bron. 

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu cyrraedd un o’r safleoedd hyn oherwydd bydd heidiau mawr o adar i’w gweld mewn llefydd eraill mewn trefi ac yng nghefn gwlad. Gellir gweld gwenoliaid duon yn ymgynnull yn yr haf ac yn ystod mis Hydref, mae niferoedd mawr o fronfreithod y gaeaf, esgyll cochion a chesig y ddrycin yn cyrraedd o Wledydd Llychlyn. Ar noson dywyll, sefwch yn dawel am ennyd a gwrando. Efallai y clywch chi gri ‘sîp’ uchel yr esgyll cochion yn hedfan uwch ben yn y tywyllwch. Hefyd gellir gweld titwod cynffon hir yn ymgynnull mewn niferoedd mawr yn aml, mewn coed mewn ardaloedd trefol.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.