Wythnos Rhywogaethau Ymledol: 16eg-22ain Mai 2022

Wythnos Rhywogaethau Ymledol: 16eg-22ain Mai 2022

© NWWT

Mae'n Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn fuan! Edrychwch sut gallwch chi gymryd rhan a helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol.

Beth yw’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol?

 

Mae’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn ddigwyddiad blynyddol cenedlaethol sy’n cael ei arwain gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol PF a’r nod yw codi ymwybyddiaeth o effeithiau rhywogaethau ymledol a dathlu gweithredu i atal eu lledaeniad. Mae prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru yn hynod falch o gyflwyno themâu’r wythnos a dweud popeth wrthych chi am sut gallwch chi gymryd rhan!                   

 

Invasive Species Week 16-22 May 2022

Invasive Species Week 16-22 May 2022 ©GBNNSS

Themâu ar gyfer yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol

 

Mae'r wythnos yn cynnwys themâu allweddol i helpu i nodi'r effeithiau y mae rhywogaethau ymledol yn eu cael ar amrywiaeth o gynefinoedd a sut gallwn ni helpu i atal eu lledaeniad.

Dyma’r themâu allweddol ar gyfer pob diwrnod:

  • Dydd Llun 16eg - cyflwyniad i rywogaethau ymledol a'u heffeithiau ar yr amgylchedd daearol (cefn gwlad)
  • Dydd Mawrth 17eg – effeithiau ar yr amgylchedd dŵr croyw
  • Dydd Mercher 18fed - effeithiau ar yr amgylchedd morol
  • Dydd Iau 19eg - effeithiau ar bobl a'r amgylchedd trefol
  • Dydd Gwener 20fed  - bioddiogelwch: beth mae hyn yn ei olygu, a beth all pobl a sefydliadau ei wneud i wella eu bioddiogelwch?
  • Dydd Sadwrn 21ain a dydd Sul 22ain – digwyddiadau a gweithgareddau i gymryd rhan ynddynt

 

Volunteers 'balsam bouncing'

Volunteers 'balsam bouncing' © Lesley James

Sut i gymryd rhan yn yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol

 

Ymuno â gweithgaredd. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnal llawer o ddigwyddiadau ledled Cymru ar gyfer yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol; am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein calendr digwyddiadau.

Rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol. Dilynwch Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar Twitter, Facebook ac Instagram i ddysgu am rywogaethau ymledol. Gallwch hefyd edrych ar @InvasiveSp ar Twitter a chofiwch ddefnyddio #INNSweek wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol!

Ond yn fwy na dim cofiwch gael hwyl yn dysgu am rywogaethau ymledol, bioddiogelwch a sut gallwch chi helpu i warchod yr amgylchedd.

Volunteer balsam bash

©NWWT

Digwyddiadau’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol

Mwy o wybodaeth